Agenda a chofnodion drafft

Cyfarfod ar y Cyd Aelodau'r Cabinet ar gyfer Trefniadaeth a'r Gweithlu a Materion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio - Dydd Mawrth, 19eg Mawrth, 2024 1.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

</AI1>

 

2.

LLOFODI YN GOFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU Y CYFARFOD AR Y CYD A GYNHALIWYD AR 7FED TACHWEDD, 2022 pdf eicon PDF 86 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau cyfarfod ar y cyd yr Aelodau Cabinet a gynhaliwyd ar y 7fed Tachwedd, 2022 yn gofnod cywir.

 

 

 

 

3.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2022-23 pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelodau Cabinet yn ystyried Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2022-23.

 

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn crynhoi ac yn disodli'r ddeddfwriaeth flaenorol, ynghyd â symleiddio ac atgyfnerthu'r ddeddf fel ei bod yn haws i bobl ei deall a chydymffurfio â hi. Adroddiadau blynyddol yw un o'r prif gyfleoedd i adolygu, monitro ac adfyfyrio ac i Awdurdod gofnodi'r gwaith parhaus y mae'n ei wneud i gyflawni'r dyletswyddau cyffredinol a phenodol. Mae hyn yn cynnwys adfyfyrio ynghylch a yw ei drefniadau a'i gamau gweithredu yn effeithiol ac yn parhau'n briodol.

 

Prif bwrpas yr Adroddiad Blynyddol hwn yw cyflawni dyletswyddau a rhwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor i adrodd ar ei gynnydd wrth gyflawni'r Dyletswyddau Cydraddoldeb Cyffredinol a Phenodol. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn mynnu y dylai pob awdurdod cyhoeddus o dan y dyletswyddau penodol yng Nghymru lunio adroddiad blynyddol - mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu'r cyfnod o 1 Ebrill 2022 hyd nes 31 Mawrth 2023.

 

Fel rhan o'r adroddiad, dangosir cynnydd mewn perthynas â'n Hamcanion Cydraddoldeb Strategol, sef:

 

1. Bod yn gyflogwr blaenllaw.

2. Mae anghenion a hawliau pobl â Nodweddion Gwarchodedig yn llywio dyluniad

gwasanaethau.

3. Cymunedau diogel a chydlynus sy’n gydnerth, yn deg ac yn gyfartal.

4. Gwella mynediad i'n gwasanaethau a'n hamgylchedd.

 

Bydd adroddiadau blynyddol yn cynorthwyo awdurdodau i fonitro eu gwaith eu hunain, yn ogystal â darparu tryloywder i randdeiliaid. Mae'n rhaid i'r adroddiadau blynyddol gynnwys y wybodaeth benodol am gyflogaeth, gan gynnwys gwybodaeth am hyfforddiant a chyflog.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2022-23.