Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio - Dydd Llun, 8fed Gorffennaf, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

H. Shepardson

6 - Cynnig Addysg Awyr Agored Amgen - Diweddariad

Deiliad Tocyn Tymor ym Mharc Gwledig Pen-bre

R. Sparks

7 - Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 / Diwedd Blwyddyn 2023/2024 (01/04/23 - 31/03/23) - sy'n berthnasol i'r maes craffu hwn

Mae ganddo fusnes nofio sy'n rhoi gwersi nofio ac mae ganddo ollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ar faterion hamdden ond nid pleidleisio

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

CANLYNIADAU YMARFER YMGYNGHORI YNGHYLCH POLISI DYRANNU TAI CYMDEITHASOL NEWYDD AR GYFER SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar ganfyddiadau ymarfer ymgynghori deuddeg wythnos ar ddatblygu Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin, i ddisodli'r Polisi Dyrannu Brys presennol a ddatblygwyd gan Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor yn 2023.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·         Cyfeiriwyd at gwestiwn 6 yn yr adroddiad yn ymwneud â chysylltiad lleol pobl â Sir Gaerfyrddin. Soniwyd wrth y Pwyllgor fod cysylltiadau lleol mewn perthynas â thai yn wahanol yn y trefi i'r ardaloedd gwledig, oherwydd yn y trefi roedd llawer iawn o dai cymdeithasol mewn ardal fach, ond yn yr ardaloedd gwledig roedd argaeledd tai cymdeithasol yn llai ac roeddent wedi'u gwasgaru dros ardal fwy o faint. Dywedwyd y gallai'r Cyngor edrych ar y posibilrwydd o leihau maint yr ardaloedd gwledig, a thrwy hynny roi mwy o gyfle i eiddo gael ei ddyrannu i bobl â chysylltiadau lleol, a, lle nad oedd cysylltiadau o'r fath, gellid ehangu'r ardal wedyn i gynnwys ymgeiswyr heb unrhyw gysylltiad penodol â'r ardal honno. Yn yr un modd, efallai fod angen i'r Cyngor edrych ar y sefyllfa o ran dyrannu eiddo i bobl sy'n byw yn agos at ffiniau'r sir, fel y gallent symud i'r sir ei hun er mwyn bod yn agosach at berthnasau oedd angen cefnogaeth.

·         O ran cwestiwn ynghylch hyd a lled yr ymgynghoriad a'r modd roedd wedi cael ei hyrwyddo, cadarnhawyd y cysylltwyd ag ymgeiswyr oedd ar y gofrestr tai trwy ymgyrch bostio, a oedd yn cynnwys dolen i'r ddogfen ymgynghori, a hefyd yn cynnig cymorth i gwblhau ymatebion, os oedd angen.

·         Cyfeiriwyd at dudalen 42 o'r pecyn agenda lle'r oedd ymatebydd wedi nodi y byddai'n ddefnyddiol pe gellid cynnwys yn y ddogfen 'sylw defnyddiol yn ymwneud â phersonau sy'n destun rheolaeth fewnfudo sy'n gymwys i gael tai cymdeithasol'. Awgrymwyd y gallai'r Cyngor ddarparu dolen ar ei wefan i wefan y Llywodraeth yn nodi ei bolisïau ar bobl sy'n destun rheolaeth fewnfudo yn byw mewn tai cymdeithasol. Dywedwyd y gallai'r Cyngor ymchwilio i'r posibilrwydd hwnnw er eglurder i bobl.

·         Nododd y Pwyllgor, yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori, byddai gwaith yn cael ei wneud ar y fersiwn ddrafft o'r Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Newydd, a fyddai'n cael ei chyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Hydref, i'w hystyried cyn ei chyflwyno wedyn drwy'r broses wleidyddol i'r Cabinet a'r Cyngor i'w chymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

5.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM BERFFORMIAD A GWELLIANNAU O RAN TAI GWAG pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â chofnod 8 o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mai 2024, cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ar y cynnydd oedd wedi'i wneud ar welliannau i wasanaeth eiddo gwag y Cyngor, a nodai'r gwelliannau hyd yn hyn yn ogystal â gwelliannau oedd yn yr arfaeth. 

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·         Cyfeiriodd yr aelodau at y gostyngiad mewn eiddo gwag dros y ddwy flynedd ddiwethaf o 431 i 178, a gynrychiolai 1.85% o gyfanswm stoc dai y Cyngor o ryw 9,350. Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am eu holl waith caled i gyflawni'r gostyngiad hwnnw, gan gynnwys creu tîm mewnol ar gyfer atgyweiriadau mewn eiddo gwag, a oedd wedi golygu bod 250 o eiddo ychwanegol ar gael i'w gosod ynghyd â chynnydd mewn incwm o bron i £1m y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru.

6.

CYNNIG ADDYSG AWYR AGORED AMGEN - DIWEDDARIAD pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd H. Shepardson wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried)

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar gynlluniau'r Cyngor ar gyfer parhau i ddarparu ei Wasanaeth Addysg Awyr Agored yn dilyn y bwriad i gau'r cyfleuster presennol ym Mhentywyn ar ddiwedd tymor 2025, a'i symud i fodel darparu amgen ym  Mharc Gwledig Pen-bre. Byddai'r cynigion yn caniatáu ar gyfer twf a datblygiad organig a gweithredu cyfleusterau addysg cynaliadwy trwy gydol y tymhorau ysgol, ac yn dyblu'r llety gellid ei ddefnyddio yn ystod cyfnodau gwyliau.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·         Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â darparu llety ym Mharc Gwledig Pen-bre, dywedodd y Pennaeth Hamdden y byddai'n cynnwys pebyll tebyg i yurt ar gyfer disgyblion a podiau glampio i athrawon. Er nad oedd union leoliad y llety wedi'i benderfynu eto, gallai fod ar y maes carafanau/gwersylla presennol neu, o bosibl, ar dir y ganolfan farchogaeth gyfagos, a oedd bellach yn wag. Dywedwyd hefyd fod hyblygrwydd y ddau fath o lety yn golygu y gallent gael eu symud i wahanol leoliadau yn y parc i ddiwallu anghenion amrywiol.

·         O ran nifer y disgyblion gellid darparu ar eu cyfer yn y parc, y bwriad oedd tua 30 i gychwyn, a chynyddu'r nifer yn raddol i 90 o bosibl.

·         O ran cwestiwn yngl?n â darparu llety gan ddefnyddio'r cyfleusterau mewn mannau fel Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Chanolfan Cynefin yng Nghaerfyrddin er enghraifft, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod yr awdurdod yn edrych ar ymarferoldeb defnyddio amryw leoliadau allanol fel rhan o'r ddarpariaeth addysg awyr agored gyffredinol, a byddai'r defnydd ohonynt yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys argaeledd tu allan i'r tymor a'r pris.

·         Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â photensial llynnoedd Delta fel lleoliad awyr agored, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod yr awdurdod o'r farn y dylai'r prif gyfleusterau chwaraeon d?r awyr agored gael eu lleoli yn Noc y Gogledd, Llanelli.

·         O ran ymgysylltu â phlant, gan gynnwys rhai ag anawsterau dysgu, ar y math o gynnig yr hoffent ei weld ar gael, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod hynny'n digwydd ar y pryd wrth lywio darpariaeth y dyfodol. Fodd bynnag, cydnabuwyd y gellid gwneud rhagor i ddatblygu'r ddarpariaeth ymhellach. Dywedodd hefyd y byddai'r cyfleusterau newydd ym Mhen-bre yn addas i blant anabl. Yn yr un modd, roedd gan y tîm Actif swyddog datblygu chwaraeon anabledd a oedd yn gweithio gyda chlybiau lleol i'w gwneud mor addas â phosibl i rai ag anableddau.

·         Cyfeiriwyd at y diffyg cyfleusterau dan do yn y sir yn ystod tywydd gwael. Dywedodd y Pennaeth Hamdden, er nad oedd cynnig dan do ar gael ym Mharc Gwledig Pen-bre ar hyn o bryd, fod hynny'n bosibilrwydd. Yn y cyfamser, gallai cyfleusterau fod ar gael yn Hwb Caerfyrddin ynghyd â'r rhai ym Mhentre Awel.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar y ddarpariaeth hyfforddi, soniodd y Pennaeth Hamdden am  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 4/DIWEDD O FLWYDDYN 2023/24 (01/04/23 - 31/03/24) YN BRIODOL I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ond arhosodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried)

 

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 / Diwedd Blwyddyn 2023/24 ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 30 Mawrth 2024 mewn perthynas â'r meysydd sy'n dod o fewn ei gylch gwaith, yn manylu ar y cynnydd a wnaed ynghylch y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol ac ynghylch cyflawni'r Amcanion Llesiant.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·         Cyfeiriwyd at ddangosydd HS-EMP/001 sef yr eiddo gwag yn y sector preifat a ddychwelwyd i'w ddefnyddio trwy ymyrraeth uniongyrchol. Gofynnwyd beth oedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i'w wneud â'r broses grant o ran ailddefnyddio'r eiddo hyn.

 

Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd mai'r awdurdod hwnnw a weinyddai'r grantiau ar ran Llywodraeth Cymru. Cyfeiriodd hefyd at nifer y ceisiadau grant aflwyddiannus, a dywedodd fod trafodaethau'n digwydd yn eu cylch gyda Rhondda Cynon Taf.

·         Mewn ymateb i gwestiwn am y swydd wag yn Is-adran Gorfodi'r Adran Cynllunio, atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Lle a Seilwaith fod moratoriwm ar waith ar hyn o bryd ar recriwtio staff ond bod achos yn cael ei greu fel y gellid llenwi'r swydd wag. Yn y cyfamser, efallai y byddai angen defnyddio ymgynghorwyr i gynorthwyo â'r llwyth gwaith.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

8.

PEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol:

 

·       Cynllun Cymhelliant i Denantiaid

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 1 Hydref 2024

 

 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 1 Hydref 2024.

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 28 O FAI, 2024 pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 28 Mai, 2024 gan eu bod yn gywir.