Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin J Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd B. Davies. |
|||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn gofyn am ei sylwadau ar gynigion ar gyfer cynnal ymgynghoriadau pellach dros gyfnod o chwe wythnos ar y Canllawiau Cynllunio Atodol canlynol i Gynllun Datblygu Lleol diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033:
- Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur - Y Gymraeg - Mannau Agored: Gofynion ar gyfer Integreiddio Mannau Agored o fewn Datblygiadau Preswyl Newydd
Nododd y Pwyllgor y byddai'r cynigion, os cânt eu cymeradwyo, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor er mwyn cynnal yr ymgynghoriadau ffurfiol.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad: · Mewn ymateb i ymholiadau ynghylch cynnwys aelodau lleol wrth lunio Cytundebau Adran 106 ar Geisiadau Cynllunio ac unrhyw gyfraniadau ariannol priodol, hysbyswyd y Pwyllgor am bwysigrwydd cynnwys aelodau lleol ar ddechrau'r broses. Felly awgrymwyd trefnu seminar i gynorthwyo aelodau i ddeall eu rôl yn llawn a pharamedrau cyfreithiol y Cytundebau hynny. · Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio hefyd, er bod yr Adran Gynllunio yn gyfrifol am lunio a monitro Cytundebau Adran 106, ynghyd â chasglu cyfraniadau ariannol y cytunwyd arnynt, mai'r Biwro Cymunedol yn yr Is-adran Adfywio sy'n gyfrifol am ddyrannu taliadau Adran 106 i'r cynlluniau diffiniedig o fewn y cytundebau cyfreithiol hynny. · O ran sefydlu panel arbenigol i reoli'r broses o asesu Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur, dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio, er nad oedd ei aelodaeth wedi'i phennu eto, y byddai ei aelodau craidd yn cynnwys cynllunwyr ac ecolegwyr a gefnogir gan arbenigwyr allanol perthnasol, fel sy'n ofynnol gan briodoleddau penodol safleoedd unigol. · Mewn perthynas â chwestiwn ar adran 5.1 a chyd-destun deddfwriaethol a pholisi CCA ar gyfer y Gymraeg, dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio ei fod yn ychwanegu at achos y Cyngor wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a dyna pam y datganwyd bod y Sir gyfan yn Ieithyddol Sensitif. Dywedodd hefyd, wrth baratoi'r ddogfen, fod y Cyngor wedi gweithio gydag Ymgynghorwyr y Gymraeg, Iaith, i gasglu tystiolaeth ar effaith dull o'r fath mewn rhannau eraill o Gymru a sut y gellid defnyddio'r dystiolaeth honno i gefnogi achos y Cyngor. Fodd bynnag, roedd rhaid i'r Cyngor wrth baratoi'r CCA weithio o fewn Canllawiau Llywodraeth Cymru o hyd. · O ran amserlen ar gyfer mabwysiadu'r CCA, dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan y Cyngor ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol. Wedi hynny, byddent yn rhan o gyflwyniad y Cyngor i PEDW (Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru) ar gyfer mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol. Er mai PEDW fyddai'n gyfrifol am sefydlu'r amserlen, rhagwelwyd y byddai elfen 'gwrandawiad' y Cynllun yn dechrau tua diwedd Gorffennaf 2024 ac y byddai adroddiad yr arolygwyr yn cael ei dderbyn gan y Cyngor i'w fabwysiadu ddechrau 2025.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU PDF 87 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad(au) craffu canlynol
· Adroddiadau Monitro Dyraniadau Tai Cymdeithasol Brys · Strategaeth Tai 10 Mlynedd
PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau. |
|||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyfeiriwyd at adroddiad Diweddariad Pentre Awel a drefnwyd ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor a gwnaed awgrym y byddai'n fuddiol i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle i weld y cynnydd ar y datblygiad hwnnw
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||
DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU PDF 92 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 26 IONAWR 2024 PDF 115 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2024 fel cofnod cywir. |