Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio - Dydd Iau, 29ain Mehefin, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D. Owen, R. Sparks a M. Thomas.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

ADRODDIAD DIWEDDARU - DYRANNU TAI CYMDEITHASOL BRYS YNGHYLCH RHOI'R POLISI DYRANNU NEWYDD AR WAITH (MONITRO) pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â'r penderfyniad a wnaed yn ei gyfarfod ar 26 Ionawr 2023, cafodd y Pwyllgor adroddiad monitro ar effeithiolrwydd y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys newydd a luniwyd gan ei Gr?p Gorchwyl a Gorffen. Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys data ar gyfer y cyfnod blaenorol yn ymwneud â'r canlynol:-

 

1.     Cyfran yr eiddo a barwyd yn uniongyrchol a'r rhai a hysbysebwyd,

2.     Band os yw cleientiaid wedi'u paru yn uniongyrchol,

3.     Nifer yr eiddo a barwyd yn uniongyrchol ac a hysbysebwyd gan bob ardal gymunedol, math o eiddo a landlord,

4.     Cyfran yr achosion o baru uniongyrchol a oedd yn llwyddiannus,

5.     Nifer yr achosion o baru uniongyrchol lle mae'r cleient yn gofyn am adolygiad o'r dyraniad, a chanlyniad yr adolygiadau hynny,

6.     Nifer yr achosion o baru uniongyrchol lle mae'r cleientiaid yn gwrthod y dyraniad ond nid yw'n gofyn am adolygiad.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch pryd y byddai'r cyfnod ymgynghori ffurfiol yn dechrau ynghylch cyflwyno Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol newydd, atgoffwyd y Pwyllgor bod y Cabinet wedi cytuno y byddai'r polisi brys presennol ar waith am gyfnod o 18 mis ac y gallai'r ymgynghoriad ddechrau ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw. Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y byddai'n cynnwys amserlen yn yr adroddiad monitro nesaf ynghylch cyflwyno'r polisi newydd a dechrau'r cyfnod ymgynghori.

·       Cyfeiriwyd at graff 2 yn yr adroddiad a oedd yn dangos nifer yr eiddo a barwyd yn uniongyrchol a'r rhai a hysbysebwyd ar Canfod Cartref. Cadarnhawyd bod nifer yr eiddo a hysbysebwyd wedi lleihau ers mabwysiadu'r polisi dyrannu brys ac y byddai hyn yn parhau i leihau wrth i nifer yr eiddo a barwyd yn uniongyrchol gynyddu, a bod y rhai a barwyd yn cael eu dyrannu i'r bobl sydd â'r angen mwyaf ac i'r rhai sydd â chysylltiad lleol. Dim ond os nad oedd modd ei baru'n uniongyrchol neu os nad oedd yn addas ar gyfer anghenion lleol y byddai eiddo yn cael ei hysbysebu bellach.

·       O ran cwestiwn ynghylch Graff 6, a'r cynnydd yn nifer yr achosion o baru anaddas, dywedwyd wrth y Pwyllgor y gellid priodoli hyn i nifer o ffactorau, yn bennaf i’r ffaith nad yw tenantiaid yn rhoi gwybod i'r Cyngor am newid yn eu hamgylchiadau personol. Fodd bynnag, o dan y polisi brys newydd, byddai'n rhaid i bobl ar y gofrestr tai ailgofrestru yn rheolaidd i ddiweddaru eu hanghenion/gofynion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad monitro.

5.

ARFARNIADAU O ARDALOEDD CADWRAETH - DIWEDDARIAD pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi ystyried adroddiad ar ehangu 10 Ardal Gadwraeth yn Sir Gaerfyrddin yn ei gyfarfod ar 5 Ebrill 2023 (gweler cofnod 4) a'i fod wedi penderfynu cysylltu â Llywodraeth Cymru ar fater cyfyngu ar osod paneli haul ar flaen toeau mewn Ardaloedd Cadwraeth.  Yn dilyn hynny, cynhaliwyd cyfarfod ar 15 Mehefin rhwng Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio â thîm Treftadaeth Adeiledig yr Awdurdod Lleol, Rhodri Griffiths, Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, a'r Cynghorydd Russel Sparkes i drafod y materion uchod a sut y gellid sicrhau bod hen stoc dai yn cael ei haddasu'n well i helpu'r Cyngor i gyrraedd ei dargedau carbon sero net, a oedd yn cynnwys gosod paneli haul ar adeiladau gwarchodedig.

 

Yn dilyn y drafodaeth honno, cynigiwyd nad yw'r Cyngor yn cysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch y mater hwn bellach, a hynny'n groes i argymhelliad cynharach y Pwyllgor, ond y gofynnir i'r Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd edrych ar fater ehangach effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni mewn perthynas â stoc hanesyddol y sir. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nad yw'r Cyngor yn cysylltu â Llywodraeth Cymru hwn bellach (fel y penderfynwyd yng nghofnod 4 cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Ebrill 2023) ond y gofynnir i'r Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd edrych ar fater ehangach effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni mewn perthynas â stoc hanesyddol y sir.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2022/23 pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ei Adroddiad Blynyddol ar y gwaith a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn y cyngor 2022/23. Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor a'i fod yn rhoi trosolwg o'r rhaglen waith a materion allweddol dan sylw, gan gynnwys hefyd unrhyw faterion a gyfeiriwyd at neu gan y Cabinet, adolygiadau Gorchwyl a Gorffen a sesiynau datblygu.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at bwynt 2.14 yn yr adroddiad ynghylch darparu cynnig addysg awyr agored amgen ar gyfer Sir Gaerfyrddin a gofynnwyd am eglurhad ynghylch dyfodol y cyfleuster preswyl awyr agored presennol ym Mhentywyn.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Hamdden y Pwyllgor, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yr ymgynghorwyd â'r Pwyllgor ynghylch y cynigion yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2022 a oedd yn cynnwys cyfeiriad at gyflwr y cyfleuster presennol ym Mhentywyn ac at gost bosibl gwaith adnewyddu. Er bod yr angen am gyfleuster preswyl o'r fath yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi, byddai angen ystyried a oedd y cyfleuster yn y lle iawn. Yn unol â hynny, roedd adroddiad yn cael ei gwblhau ynghylch dyfodol y cynnig addysg awyr agored yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys cyfleuster Pentywyn, i'r Cabinet ei ystyried ym mis Medi.

 

O ystyried yr uchod, awgrymwyd y dylid cyflwyno'r adroddiad ynghylch y cynnig addysg awyr agored i'r Pwyllgor cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet, a chymeradwywyd yr awgrym hwnnw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 28 Medi 2023.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 28 Medi 2023.

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 15 MAI 2023 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: