Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin Runeckles 01267 224674
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||||||
YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2025/26 TAN 2027/28 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorwyr R. Sparks a H.B Shepardson wedi datgan buddiannau yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganwyd y buddiannau hyn ganddynt ac arhosont yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch yr Ymgynghoriad ar Strategaeth y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2025/26 i 2027/28. Amcan yr adroddiad oedd caniatáu i'r aelodau ystyried strategaeth y gyllideb gorfforaethol ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2025/26 i 2027/28 ac ystyried yr effaith a'r opsiynau o ran darparu gwasanaethau. Cymeradwywyd yr adroddiad gan y Cabinet ar 13 Ionawr ar gyfer ymgynghoriad, gyda'r Pwyllgor Craffu yn rhan o'r ymgynghoriad hwn. Rhoddwyd y cynigion diweddaraf ar gyfer lleihau'r gyllideb i'r Pwyllgor, ac ystyriodd y broses o ddilysu'r gyllideb a'r pwysau ar wasanaethau, gan gymryd i ystyriaeth y setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod amseriad hwyr cyllidebau ar lefel Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cywasgu amserlen y gyllideb. Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi dechrau cyn i'r awdurdod allu paratoi cyllideb ddrafft lawn ac nid yw cyllideb Llywodraeth Cymru i fod i gael ei chwblhau tan 25 Chwefror, y diwrnod cyn ystyried cyllideb derfynol y Cyngor.
Dywedwyd bod ffigurau'r setliad ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn gynnydd o 4.1% yn y setliad dros dro. Pan gafodd trosglwyddiadau grant eu cymryd i ystyriaeth, roedd y cynnydd mewn gwerth arian parod dros £25m.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod pob maes wedi cael sylw ar gyfer arbedion, a bod £8.6m o ostyngiadau yn y gyllideb adrannol wedi'u canfod ar gyfer 2025/26 a £6m dros y ddwy flynedd ddilynol.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am bwysau ychwanegol amrywiol ar y gyllideb gan gynnwys gofal cymdeithasol, dyfarniadau cyflog athrawon, chwyddiant a chynnydd o ran Yswiriant Gwladol y cyflogwr. Rhoddwyd sylw i rai meysydd lliniaru hefyd, gan gynnwys cynnydd yn y grant cymorth tai ac arbedion yn y ddarpariaeth ynni.
Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch peidio â gwneud arbedion effeithlonrwydd yn y blynyddoedd blaenorol, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod hyn yn cael ei adolygu fel rhan o'r gwaith o lunio’r gyllideb a bod yr arbedion hyn yn cael eu monitro y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol y maent wedi'u neilltuo iddi. Roedd 70 i 80 o gynigion ar gyfer arbedion, a dywedwyd wrth y Pwyllgor ei bod yn anochel nad oedd modd cyflawni rhai ohonynt, ond bod gan Graffu rôl allweddol yn ystod y flwyddyn i archwilio hyn drwy ei Adroddiadau Monitro Cyllideb. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol canolbwyntio yn y dyfodol ar y meysydd hynny lle mae’r risg fwyaf. · Gofynnwyd cwestiwn yngl?n â chronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor, a dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y cronfeydd wrth gefn presennol ar 2.9% o'r gyllideb gyffredinol, ychydig yn is na'r lefel a argymhellir o 3%, ond bod £2m yn ychwanegol yn y gyllideb fel byffer i gwrdd ag unrhyw gostau nas rhagwelwyd. · Codwyd mater llesiant staff yn ystod cyfnod o bwysau arnynt, a dywedwyd er bod llawer iawn o bwysau ar swyddogion, bod ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||||||||
CYNLLUNIAU BUSNES 2025/26 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorwyr H.A.L Evans ac R. Sparks wedi datgan buddiannau yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganwyd y buddiannau hyn ganddynt ac arhosont yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau ar Gynlluniau Busnes 2025/26 ar gyfer y meysydd gwasanaeth a ganlyn:
· Datblygu Economaidd ac Eiddo · Hamdden · Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol · Tai
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Cynlluniau Busnes ar waith i ganiatáu i'r Cyngor gyflawni ei nodau llesiant a chynnal y gwasanaethau a ddarperir. Mae dyletswydd gyffredinol arno i sicrhau ei fod yn mesur yn gywir yr hyn y gellir ei gyflawni er mwyn asesu’r cynnydd a wneir, a bod dinasyddion, aelodau a rheoleiddwyr yn ystyried y ffordd orau o gyflawni’r hyn a nodir.
Gofynnwyd i'r Pwyllgor Craffu adolygu'r camau gweithredu a'r mesurau arfaethedig yn y Cynlluniau Busnes a darparu unrhyw argymhellion, sylwadau neu gyngor.
Codwyd y cwestiynau neu faterion canlynol ynghylch yr adroddiadau:
· Nodwyd bod 31% o'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar Gynllun Cyflawni Is-adrannol Datblygu Economaidd ac Eiddo wedi mynegi anfodlonrwydd â'r maes gwasanaeth, a bod y sgorau ar eu hisaf ar gyfer ardal Llanelli, gan ddangos canfyddiad gwael ymhlith trigolion o ganol y dref. Soniwyd hefyd am arddangosfa goleuadau llawr yng nghanol tref Llanelli ac a oedd hyn yn werth am arian. Dywedwyd bod hyn wedi'i nodi ac y byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu maes o law. · Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch hybu ac ymgysylltu â'r gymuned i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod hwn yn rhan o faes gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd a oedd wedi symud yn ddiweddar i ddod o dan yr adran Hamdden. Dywedwyd y byddai'r symudiad hwn yn caniatáu mwy o gydweithio rhwng y tîm hwn a'r gwasanaethau Hamdden. · Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cynnig iechyd a ffitrwydd 24/7 yng Nghaerfyrddin, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai hyn yn cael ei gynnal drwy gampfa a gofod stiwdio newydd yn hen adeilad Debenhams yng nghanol y dref. · Tynnwyd sylw at risgiau i refeniw'r gwasanaeth Hamdden oherwydd tywydd garw, ac mewn ymateb i gwestiwn ynghylch lliniaru hyn yn y dyfodol, dywedwyd, ynghyd â'r cyfleusterau dan do presennol, bod gwaith yn cael ei wneud i asesu'r potensial ar gyfer mwy o gaeau pob tywydd. Dywedwyd wrth y Pwyllgor, er nad oedd unrhyw arian yn y gyllideb ar gyfer hyn, bod grantiau allanol y gellid eu ceisio. · Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch diffyg sawna neu ystafell stêm yn natblygiad canolfan hamdden Pentre Awel, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod hyn wedi cael ei ystyried, ond oherwydd bod y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu'n breifat mewn mannau megis Machynys a gwestai eraill barnwyd ei fod yn ddiangen.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CABINET/CYNGOR fod y Cynlluniau Busnes ar gyfer Datblygu Economaidd ac Eiddo, Hamdden, Tai, Eiddo a Phrosiectau Strategol a Thai yn cael eu mabwysiadu.
|
|||||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 4 Mawrth 2025
PENDERFYNWYD cymeradwyo rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 4 Mawrth 2025. |