Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin J Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B.W. Jones a H.B Shepardson. |
||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig. |
||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â'r penderfyniad a wnaed yn ei gyfarfod ar 26 Ionawr 2023, cafodd y Pwyllgor adroddiad monitro ar effeithiolrwydd y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys newydd a luniwyd gan ei Gr?p Gorchwyl a Gorffen. Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys data ar gyfer y cyfnod blaenorol yn ymwneud â'r canlynol:
1. Cyfran yr eiddo a barwyd yn uniongyrchol a'r rhai a hysbysebwyd, 2. Bandiau'r cleientiaid a barwyd yn uniongyrchol, 3. Nifer yr eiddo a barwyd yn uniongyrchol ac a hysbysebwyd gan bob ardal gymunedol, math o eiddo a landlord, 4. Cyfran yr achosion o baru uniongyrchol a oedd yn llwyddiannus, 5. Nifer yr achosion o baru uniongyrchol lle gofynnodd y cleient am adolygiad o'r dyraniad, a chanlyniad yr adolygiadau hynny, 6. Nifer yr achosion o baru uniongyrchol lle gwrthododd y cleientiaid y dyraniad ond heb ofyn am adolygiad.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-
· Mewn ymateb i gwestiwn am y rheswm dros y cynnydd yn nifer yr achosion o baru anaddas o ran eiddo rhwng chwarter 3 a chwarter 4 2023-24, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor ei fod yn ymwneud yn bennaf ag eiddo a gynigir i bobl ym Mand B, a oedd â'r hawl i wrthod hyd at ddau gynnig rhesymol o eiddo. Nodwyd bod agwedd ar y polisi yn cael ei hadolygu fel rhan o ddatblygiad y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Newydd ac y byddai'n cael ei chynnwys yn y polisi i'w gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad monitro. |
||||||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2023/24 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, ac Eiddo, Lle a Chynaliadwyedd a Hamdden ac Adloniant ar gyfer y cyfnod hyd at 29 Chwefror 2024. Nododd y rhagwelid tanwariant o £181k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £38,256k yn y gyllideb gyfalaf, a gorwariant o £46k yn y Cyfrif Refeniw Tai.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf yn cael ei dderbyn. |
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad ei Gr?p Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i archwilio gweithrediad Gwasanaeth Addasiadau'r Cyngor o fewn Is-adran Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol yr Adran Gymunedol mewn perthynas â'r ôl-groniad presennol o waith a'r prosesau, gyda'r bwriad o wella'r gwasanaeth a ddarperir i'r cyhoedd a deiliaid contractau (tenantiaid).
Roedd yr adroddiad yn manylu ar waith y Gr?p gan gynnwys llunio Polisi Addasiadau i'r Cartref diwygiedig, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad fel Atodiad 1, ynghyd ag argymhellion i'r Pwyllgor eu hystyried a fyddai, pe byddent yn cael eu mabwysiadu, yn cael eu hanfon ymlaen at Gabinet y Cyngor i'w hystyried.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad: · Cyfeiriwyd at yr argymhelliad i ailgyflwyno prawf modd ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar raddfa ganolig a gofynnwyd am eglurhad ynghylch y golled ganlyniadol o £122k o Gyllid Grant Cymru pe bai'r Cabinet yn cymeradwyo'r argymhelliad.
Dywedodd Pennaeth Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol fod yr argymhelliad wedi codi o ganlyniad i'r cynnydd mewn ceisiadau grant a dderbyniwyd yn dilyn dileu profion modd yn 2022. Credwyd y byddai eu hailgyflwyno yn galluogi i gyllid gael ei ddargyfeirio i'r rhai sydd mewn mwy o angen, gyda'r rhai sy'n gallu fforddio gwneud addasiadau yn talu amdanynt eu hunain a fydd, yn ei dro, yn cynorthwyo i reoli'r galw am grantiau.
O ran colli grant Llywodraeth Cymru, roedd dadansoddiad o ddata yn seiliedig ar nifer y ceisiadau grant rheolaidd a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd yn dilyn cael gwared ar brofion modd wedi datgelu cynnydd net o £164k y flwyddyn mewn cyllid. · Cyfeiriodd y Pennaeth Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol at gwestiwn ynghylch casgliad 2 ac argymhelliad 5 o fewn yr adroddiad yn ymwneud â'r pwysau ar adnoddau staffio ac i weld a ellid cysylltu â'r Bwrdd Iechyd i gyfrannu at hynny ar y sail bod gwaith y tîm addasiadau yn cynorthwyo i atal derbyniadau i ysbytai. Dywedodd fod yr awdurdod yn cysylltu â'r Bwrdd Iechyd ynghylch ystod o faterion yn ymwneud ag addasiadau, gan gynnwys rhyddhau cleifion, a gellid cynnal trafodaethau gyda'r Bwrdd ar unrhyw gyfraniad posibl tuag at yr adnoddau hynny.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Cabinet:
|
||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU, CARTREFI AC ADFYWIO 2023/2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor ei Adroddiad Blynyddol ar y gwaith a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn y cyngor 2023/24. Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor a'i fod yn rhoi trosolwg o'r rhaglen waith a materion allweddol dan sylw, gan gynnwys hefyd unrhyw faterion a gyfeiriwyd at neu gan y Cabinet, adolygiadau Gorchwyl a Gorffen a sesiynau datblygu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol 2023-24. |
||||||||||||||||
BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU, TAI AC ADFYWIO AR GYFER 2024/25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor, yn unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor, yn ystyried ei Flaengynllun Gwaith drafft ar gyfer 2024/25 a oedd yn nodi manylion materion ac adroddiadau i'w hystyried yn ystod y blwyddyn y cyngor. Nodwyd, gan fod y Cynllun yn 'ddogfen fyw', y byddai'n esblygu'n barhaus trwy gydol blwyddyn y Cyngor wrth i Flaengynllun y Cabinet esblygu ac yn sgil ceisiadau gan y Pwyllgor.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad: · Mewn ymateb i'r cwestiynau a godwyd yn ymwneud â'r ôl-groniad o waith atgyweirio tai gwag, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y mesurau amrywiol oedd yn cael eu cymryd gan yr adran i leihau'r rheiny, gan gynnwys creu tîm o weithwyr mewnol ac ailosod y Fframwaith Gwaith Eiddo er mwyn galluogi contractwyr lleol llai i wneud cais i gael eu cynnwys yn y fframwaith a gwneud gwaith atgyweirio. Ar hyn o bryd, roedd lefelau'r tai gwag wedi gostwng i 180 o'i gymharu â'r lefel uchaf flaenorol o dros 400 ym mis Mai 2022, gan arwain at 250 o eiddo ychwanegol ar gael i'w gosod ac incwm rhent cynyddol o bron i £1m. Dywedodd y byddai'n trefnu bod adroddiad diweddaru ynghylch tai gwag yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaengynllun Gwaith drafft 2024/25 yn amodol ar ychwanegu adroddiad diweddaru ynghylch tai gwag. |
||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 16 EBRILL 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16Ebrill, 2024 gan eu bod yn gywir. |
||||||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf</AI12> |
||||||||||||||||
DEFNYDDIAU CANOL TREF AMGEN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: 1. Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried) 2. Wrth ystyried yr eitem hon, roedd y Cynghorydd Palfreman wedi datgan buddiant, sef ei fod yn rhedeg gwasanaethau Ymgynghoriaeth Gofal Cymdeithasol ac mae ganddo ollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig, ond nid pleidleisio ar faterion sy'n cynnwys yn uniongyrchol ei fusnes neu weithgareddau proffesiynol cysylltiedig. Arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ystyried yr eitem)
Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan y byddai datgelu cynnwys yr adroddiad o bosibl yn tanseilio'r Cyngor mewn trafodaethau yn y dyfodol gyda thirfeddianwyr.
Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ar gynigion adfywio canol tref sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd ar gyfer defnyddiau canol tref amgen posibl yng nghanol trefi Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
||||||||||||||||
PROSIECTAU ADFYWIO DATBLYGIADAU MAWR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)
Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu cynnwys yr adroddiad yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Cyngor drwy danseilio ei safbwynt mewn trafodaethau yn y dyfodol ynghylch y prosiectau hyn.
Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ar Brosiectau Datblygu Mawr - Adfywio sy'n cael eu cynnal yn Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |