Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio - Dydd Iau, 7fed Mawrth, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd B. Davies.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL (CCA) DRAFFT CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018- 2033 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn gofyn am ei sylwadau ar gynigion ar gyfer cynnal ymgynghoriadau pellach dros gyfnod o chwe wythnos ar y Canllawiau Cynllunio Atodol canlynol i Gynllun Datblygu Lleol diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033:

 

-        Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur

-        Y Gymraeg

-        Mannau Agored: Gofynion ar gyfer Integreiddio Mannau Agored o fewn Datblygiadau Preswyl Newydd

 

Nododd y Pwyllgor y byddai'r cynigion, os cânt eu cymeradwyo, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor er mwyn cynnal yr ymgynghoriadau ffurfiol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i ymholiadau ynghylch cynnwys aelodau lleol wrth lunio Cytundebau Adran 106 ar Geisiadau Cynllunio ac unrhyw gyfraniadau ariannol priodol, hysbyswyd y Pwyllgor am bwysigrwydd cynnwys aelodau lleol ar ddechrau'r broses. Felly awgrymwyd trefnu seminar i gynorthwyo aelodau i ddeall eu rôl yn llawn a pharamedrau cyfreithiol y Cytundebau hynny.

·       Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio hefyd, er bod yr Adran Gynllunio yn gyfrifol am lunio a monitro Cytundebau Adran 106, ynghyd â chasglu cyfraniadau ariannol y cytunwyd arnynt, mai'r Biwro Cymunedol yn yr Is-adran Adfywio sy'n gyfrifol am ddyrannu taliadau Adran 106 i'r cynlluniau diffiniedig o fewn y cytundebau cyfreithiol hynny.

·       O ran sefydlu panel arbenigol i reoli'r broses o asesu Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur, dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio, er nad oedd ei aelodaeth wedi'i phennu eto, y byddai ei aelodau craidd yn cynnwys cynllunwyr ac ecolegwyr a gefnogir gan arbenigwyr allanol perthnasol, fel sy'n ofynnol gan briodoleddau penodol safleoedd unigol.

·       Mewn perthynas â chwestiwn ar adran 5.1 a chyd-destun deddfwriaethol a pholisi CCA ar gyfer y Gymraeg, dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio ei fod yn ychwanegu at achos y Cyngor wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a dyna pam y datganwyd bod y Sir gyfan yn Ieithyddol Sensitif. Dywedodd hefyd, wrth baratoi'r ddogfen, fod y Cyngor wedi gweithio gydag Ymgynghorwyr y Gymraeg, Iaith, i gasglu tystiolaeth ar effaith dull o'r fath mewn rhannau eraill o Gymru a sut y gellid defnyddio'r dystiolaeth honno i gefnogi achos y Cyngor. Fodd bynnag, roedd rhaid i'r Cyngor wrth baratoi'r CCA weithio o fewn Canllawiau Llywodraeth Cymru o hyd.

·       O ran amserlen ar gyfer mabwysiadu'r CCA, dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan y Cyngor ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol. Wedi hynny, byddent yn rhan o gyflwyniad y Cyngor i PEDW (Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru) ar gyfer mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol. Er mai PEDW fyddai'n gyfrifol am sefydlu'r amserlen, rhagwelwyd y byddai elfen 'gwrandawiad' y Cynllun yn dechrau tua diwedd Gorffennaf 2024 ac y byddai adroddiad yr arolygwyr yn cael ei dderbyn gan y Cyngor i'w fabwysiadu ddechrau 2025.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1

gymeradwyo cynnal ymgyngoriadau pellach ar y 3 dogfen Canllawiau Cynllunio Atodol uchod i Gynllun Datblygu Lleol diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033

4.2

Trefnu seminar aelodau ar Gytundebau Adran 106 a rôl aelodau lleol.

 

5.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad(au) craffu canlynol

 

·       Adroddiadau Monitro Dyraniadau Tai Cymdeithasol Brys

·       Strategaeth Tai 10 Mlynedd

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau.

6.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 16 Ebrill 2024

 

Cyfeiriwyd at adroddiad Diweddariad Pentre Awel a drefnwyd ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor a gwnaed awgrym y byddai'n fuddiol i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle i weld y cynnydd ar y datblygiad hwnnw

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1

gymeradwyo'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 16 Ebrill 2024.

6.2

bod y Pwyllgor yn cynnal ymweliad safle i weld y cynnydd ar Ddatblygiad Pentre Awel.

 

7.

DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 26 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26  Ionawr 2024 fel cofnod cywir.