Agenda a Chofnodion

CYLLIDEB, Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol - Dydd Mercher, 31ain Ionawr, 2024 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kelly Evans  01267 224178

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Derek Cundy a'r Cynghorydd Jean Lewis.  Derbyniwyd ymddiheuriadau hefyd gan Wendy Walters, Prif Weithredwr, Ainsley Williams, Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith a Deina Hockenhull, Rheolwr Marchnata a’r Cyfryngau.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A.   Evans

Eitem 4 - Ymgynghori ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2024/25 i 2026/27

Personol a rhagfarnol - Mae aelod o'r teulu yn gweithio yn yr adran Gwasanaethau Democrataidd

A.   Evans

Eitem 5 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2023/24

Personol a rhagfarnol - Mae aelod o'r teulu yn gweithio yn yr adran Gwasanaethau Democrataidd

K. Broom

Eitem 4 - Ymgynghori ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2024/25 i 2026/27

Personol – ail gartrefi/cartrefi gwag

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2024/25 TAN 2026/27 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw Corfforaethol 2024/25 i 2026/27 a oedd yn rhoi golwg gyfredol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2024/25 ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2025/26 a 2026/27.  Bu'r Pwyllgor yn ystyried y setliad dros dro a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr 2023, a oedd y dyddiad hwyraf a roddwyd erioed.

 

Atgoffwyd Aelodau bod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2024 a bod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle i ddadansoddi a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.

 

Amlygodd yr adroddiad nad oedd cyllid wedi'i ddyrannu ar gyfer codiadau pensiwn Athrawon na Diffoddwyr Tân, gan nad oedd wedi cael ei weithio drwy Lywodraeth Cymru a San Steffan.  Er y tybir na fydd hyn yn cael effaith ar ein sefyllfa ariannu, ystyriwyd bod hyn yn risg sylweddol hyd nes iddo gael ei gadarnhau'n ffurfiol, gyda gwerth o oddeutu £4 miliwn.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i unioni'r diffyg cynhenid yn y gyllideb o ganlyniad i naill ai'r codiad yn nhâl Athrawon (a bennwyd gan Lywodraeth cymru) na dyfarniad cyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol 2023 (a bennwyd gan fargeinio cenedlaethol ynghylch tâl) ac mai dyma'r setliad mwyaf heriol ers datganoli.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y disgwylir i'r setliad terfynol gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar 27 Chwefror 2024, ynghyd â chyllideb Llywodraeth Cymru, sef y diwrnod cyn i'r cyngor llawn gyfarfod i gytuno ar y gyllideb derfynol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i Graffu Corfforaethol a Pherfformiad:-

 

Atodiad A    –   Strategaeth Cyllideb Gorfforaethol 2024/25 i 2026/27

Atodiad A(i) –   Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer y Prif Weithredwr ac adrannau'r Gwasanaethau Corfforaethol

 

Atodiad A(ii) –  Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Prif Weithredwr ac adrannau'r Gwasanaethau Corfforaethol

 

Atodiad B –      Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer y Prif Weithredwr ac adrannau'r Gwasanaethau Corfforaethol

 

Atodiad C –      Crynhoad Taliadau ar gyfer y Prif Weithredwr ac adrannau'r Gwasanaethau Corfforaethol

 

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch pam y dewiswyd y senario amgen gan yr Awdurdod ar gyfer y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Adnoddau mai dyma'r opsiwn mwyaf realistig o'r ddau opsiwn a gynigir, oherwydd ansicrwydd etholiadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghyd â Phrif Weinidog newydd yng Nghymru.

·       Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi bod yn rhagweithiol wrth hysbysu perchnogion eiddo o'r cynnydd mewn premiymau i ail gartrefi a thai gwag.  Cymeradwywyd y cynnydd hwn gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2023 a chynaliadwy adolygiad o'r polisi yn ystod 2024. Bydd y Cabinet yn ystyried cynnydd pellach posibl mewn premiymau.  Bydd yr incwm a dderbynnir yn cael ei gynnwys yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, gydag adroddiad i'r Cabinet ystyried sylfaen y dreth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Hydref 2023 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2023/24. 

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a'r ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ar Brosiectau Strategol Trawsnewid Trefi, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod swyddogion yn monitro caffael

eiddo, ac yn ystod yr wythnosau nesaf, pe bai angen, y byddai arian yn cael ei symud, oherwydd hyblygrwydd a roddwyd gan y Cabinet.

 

 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

6.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNYDD (CRONFA'R CYNGOR) 2024/25 - 2028/29 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau'r rhaglen gyfalaf 5 mlynedd a oedd yn rhoi golwg gychwynnol ar y Rhaglen Gyfalaf 5 mlynedd rhwng 2024/25 a 2028/29. Roedd yr adroddiad yn sail i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb gyda'r aelodau a phartïon perthnasol eraill a byddai unrhyw adborth, ynghyd â'r setliad terfynol, yn llywio'r adroddiad terfynol ynghylch y gyllideb a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet ac i'r Cyngor ym mis Chwefror 2024.

 

Y gwariant gros arfaethedig ar y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2024/25 yw £86.680m, a'r bwriad oedd i'r cyngor sir gyllido £50.124m o'i adnoddau ei hun drwy ddefnyddio benthyciadau, arian wrth gefn, ariannu drwy refeniw uniongyrchol, derbyniadau cyfalaf a grant cyfalaf cyffredinol, a bod y £36.556m o gyllid oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol.

 

Er bod y rhaglen gyfalaf newydd yn cael ei hariannu'n llawn dros y pum mlynedd, cynigiwyd tanymrwymo peth o'r cyllid oedd ar gael i roi hyblygrwydd ar draws y rhaglen i dalu am unrhyw gostau ychwanegol annisgwyl ar brosiectau cymeradwy.  Nid yw'n cynnwys unrhyw gyllid sy'n ymwneud â phrosiectau parhaus yn y flwyddyn gyfredol a allai gael ei drosglwyddo ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i raglen 2024/25. 

 

Nod y Rhaglen Gyfalaf yw cyflawni nifer o brosiectau allweddol a fydd yn creu swyddi ac yn gwella ansawdd bywyd pobl Sir Gaerfyrddin.  Mae datgarboneiddio yn flaenoriaeth i'r Awdurdod a bydd briffiau dylunio ar gyfer prosiectau newydd yn cynnwys pwyslais ar effeithlonrwydd carbon.

 

Canmolodd y Pwyllgor swyddogion am Raglen Buddsoddi Cyfalaf clir ac uchelgeisiol.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch pa mor gyson oedd yr arian gan Lywodraeth Cymru, roedd swyddogion yn hyderus y byddai'r ffigurau a ddarparwyd yn aros yn gyson, gan eu bod yn seiliedig ar ffigurau poblogaeth.

·       Nodwyd y byddai angen ystyried lliniaru llifogydd yng nghyllideb blynyddoedd 3 a 4.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd 2024/25 – 2028/29. 

 

 

7.

POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2024-25 pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys arfaethedig 2024-25 gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau.Fel rhan o ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ar Reoli'r Trysorlys, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys yn manylu ar bolisïau ac amcanion ei weithgareddau rheoli'r trysorlys, a chymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn gysylltiedig â hi. Hefyd, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo ei Ddangosyddion Darbodaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2024/25 a'r atodiadau cysylltiedig. 

 

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno mewn perthynas â chofnodion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd a nododd yr eglurhad.

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y gallai fod angen dwyn ymlaen dyddiad y cyfarfod nesaf ar 1 Mawrth 2024.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 12 RHAGFYR 2023 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12  Rhagfyr 2023 yn gofnod cywir.