Agenda a chofnodion drafft

CYLLIDEB, Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol - Dydd Gwener, 31ain Ionawr, 2025 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kelly Evans  01267 224178

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Gareth John, Dai Nicholas a Darren Price, yr Arweinydd.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A.    Evans

Eitem 7 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2024/25

 

9.             Eitem 9 – 2024/25 Chwarter 2 – Adroddiad Perfformiad (01/04/24 -30/09/24) sy'n berthnasol i'r maes craffu hwn

Personol a Rhagfarnol

D. Jones

Eitem 9 - 2024/25 Chwarter 2 – Adroddiad Perfformiad (01/04/24 -30/09/24) sy'n berthnasol i'r maes craffu hwn

Personol a Rhagfarnol

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law. 

 

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2025/26 TAN 2027/28 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw Corfforaethol 2025/26 i 2027/28, a oedd yn rhoi golwg gyfredol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2025/26 i 2027/28. Bu'r Pwyllgor yn ystyried y setliad dros dro a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru ar 11 Rhagfyr 2024.

 

Atgoffwyd Aelodau bod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2025 a bod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle i ddadansoddi a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y disgwylir i'r setliad terfynol gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar 25 Chwefror 2025, ynghyd â chyllideb Llywodraeth Cymru, sef y diwrnod cyn i'r cyngor llawn gyfarfod i gytuno ar y gyllideb derfynol.

 

Roedd gwerth cost y setliad yn sylweddol uwch na'r ffigur cynllunio o gynnydd o 1.0%, ond roedd maint y pwysau costau ychwanegol y mae pob cyngor yn eu hwynebu yn golygu bod yna ddiffyg cyllid o hyd.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod cydnabyddiaeth yn cael ei rhoi i bwysigrwydd hanfodol lleihau cynnydd y Dreth Gyngor i breswylwyr wrth gynnal cyllideb gytbwys yn y cyfnod heriol hwn.

 

Nodwyd yn yr adroddiad bod y cynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi'i ddiwygio i 9.75%, gan geisio lliniaru gostyngiadau i wasanaethau hanfodol a darparu'r lefel fwyaf o ddiogelwch i gyllidebau ysgolion. Roedd ansicrwydd ar gyfer blynyddoedd 2 a 3, ac felly roedd cynnydd dangosol yn y Dreth Gyngor o 5% bob blwyddyn. Ystyriwyd y byddai hyn yn darparu o leiaf rhywfaint o liniaru i'r cynigion arbedion yr oedd angen i'r cyngor eu hystyried dros flynyddoedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn y dyfodol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i Graffu Corfforaethol a Pherfformiad:-

 

Atodiad A    –   Strategaeth Cyllideb Gorfforaethol 2025/26 i 2027/28

Atodiad A(i) –   Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer Adran y Prif Weithredwr ac Adran y Gwasanaethau Corfforaethol

 

Atodiad A(ii) –  Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer Adran y Prif Weithredwr ac Adran y Gwasanaethau Corfforaethol

 

Atodiad B –      Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer Adran y Prif Weithredwr ac Adran y Gwasanaethau Corfforaethol

 

Atodiad C –      Crynhoad Taliadau ar gyfer Adran y Prif Weithredwr ac Adran y Gwasanaethau Corfforaethol

 

 Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wrth yr aelodau yr amcangyfrifwyd bod gan yr awdurdod ddiffyg o £4 miliwn y darparwyd ar ei gyfer yn ganolog.

 

 PENDERFYNWYD derbyn yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2024/25 i 2026/27 a chymeradwyo'r Crynhoad Taliadau, fel y nodwyd yn Atodiad C i'r adroddiad.

 

5.

POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2025-26 pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys arfaethedig 2025/26 gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau.Fel rhan o ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, mae'n rhaid i'r Cyngor feddu ar Bolisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion ei weithgareddau o ran rheoli'r trysorlys. Fe'u hatgoffwyd hefyd fod yn rhaid i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Hefyd, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo ei Ddangosyddion Darbodaeth o ran Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2025/26 a'r atodiadau cysylltiedig. 

 

6.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) 2025/26 TAN 2029/30 pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau'r rhaglen gyfalaf 5 mlynedd a oedd yn rhoi golwg gychwynnol ar y Rhaglen Gyfalaf 5 mlynedd rhwng 2025/26 i 2029/30. Roedd yr adroddiad yn sail i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb gyda'r aelodau a phartïon perthnasol eraill a byddai unrhyw adborth, ynghyd â'r setliad terfynol, yn llywio'r adroddiad terfynol ynghylch y gyllideb a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet, ac yn ei dro i'r Cyngor, ym mis Chwefror 2025.

 

Y gwariant gros arfaethedig ar y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2025/26 yw £91.853m, a'r bwriad oedd i'r cyngor sir gyllido £40.624m o'i adnoddau ei hun drwy ddefnyddio benthyciadau, arian wrth gefn, ariannu drwy refeniw uniongyrchol, derbyniadau cyfalaf a grant cyfalaf cyffredinol, a bod y £51.229m o gyllid oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol.

 

Er bod y rhaglen gyfalaf newydd wedi'i hariannu'n llawn yn y flwyddyn gyntaf, nododd yr adroddiad nad oedd £2.206m wedi'i ariannu dros y rhaglen bum mlynedd, ar adeg ymgynghori.  Byddai angen nodi cyllid yn y dyfodol, neu ddiwygio cwmpas y buddsoddiadau yn unol â hynny.

 

Nod y Rhaglen Gyfalaf oedd rhoi nifer o brosiectau allweddol ar waith a fyddai'n creu swyddi ac yn gwella ansawdd bywyd pobl Sir Gaerfyrddin.  Mae datgarboneiddio yn flaenoriaeth i'r Awdurdod a byddai briffiau dylunio ar gyfer prosiectau newydd yn cynnwys pwyslais ar effeithlonrwydd carbon.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch dyfodol Harbwr Porth Tywyn, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol y byddai'r awdurdod yn gweithio gyda thrydydd parti i ddatblygu a gweithredu'r harbwr.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gwelliannau i rwydweithiau ffyrdd yn y Sir, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol,  at fenter newydd Llywodraeth Cymru, lle byddai cynghorau yn benthyca cyllid a byddai Llywodraeth Cymru yn ad-dalu taliadau cyfalaf dros yr 20 mlynedd nesaf.

 

·       Mewn ymateb i gwestiwn am faint o ffermydd sirol oedd angen buddsoddiad ar gyfer storio slyri, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai gwybodaeth yn cael ei darparu y tu allan i'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd 2025/26 – 2029/30. 

 

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2024/25 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Ar ôl datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon yn gynharach, arhosodd y Cynghorydd A. Evans yn y cyfarfod tra bo'r Pwyllgor yn trafod yr eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch.]

 

Cyflwynodd yr Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Hydref 2024 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2024/25.  

 

Roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £19.2m gan gynnwys cyllidebau ysgolion, ac yn rhagweld gorwariant o £8.7m ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wrth yr aelodau fod Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau cyllid grant ar gyfer cyflog Athrawon, yn ogystal â chynnydd ym mhensiynau cyflogwyr athrawon a diffoddwyr tân, y disgwylir iddo fod yn gost-niwtral, gan liniaru'r risg.

  

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

CYNLLUNIAU BUSNES 2025/26 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gynlluniau Cyflawni Rhanbarthol 2025-26 ar gyfer Gwasanaethau Ariannol; Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol; Datblygu Economaidd ac Eiddo; y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil, Marchnata a'r Cyfryngau a Phobl, Digidol a Pholisi, ynghyd â'r adroddiadau manwl perthnasol ar Amcanion Llesiant y Cyngor sy'n dod o fewn cylch gwaith y pwyllgor sef:

 

·       Amcan Llesiant 1 - Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda)

·       Amcan Llesiant 2 - Galluogi ein preswylwyr i fyw ac heneiddio'n dda (Byw ac Heneiddio'n Dda)

·       Amcan Llesiant 3 - Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus)

·       Amcan Llesiant 4 - Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon (Ein Cyngor)

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, amlygodd yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu fod y Cynlluniau Busnes yn ddogfennau gwaith ac y gallent newid yn ystod y flwyddyn mewn ymateb i amgylchiadau sy'n newid.  Wrth gwblhau'r cynlluniau busnes, mae'r is-adrannau wedi ystyried y canlyniadau y gobeithiwyd eu cyflawni (fel y nodwyd yn y Strategaeth Gorfforaethol), canfyddiadau'r ymgynghoriad diweddaraf â phreswylwyr a chasgliadau'r hunanasesiadau diweddaraf.

 

Ymatebwyd fel a ganlyn i'r sylwadau a roddwyd:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr anawsterau i ddenu pobl i rolau gofal cymdeithasol yn yr awdurdod, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol wrth yr aelodau fod strategaeth gweithlu ar waith a bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn gyflogwr deniadol.  Er mwyn cael cronfa ehangach o ymgeiswyr ar gyfer rolau gradd is, roedd yn bwysig defnyddio iaith hygyrch a syml mewn proffiliau swyddi a hysbysebu yn y cyfryngau.

·       Cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol, mewn ymateb i ymholiad ar recriwtio, i'r Pwyllgor gael sesiwn ddatblygu ynghylch Oleeo, y system recriwtio a ddefnyddir gan yr awdurdod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1  fod Cynlluniau Cyflawni Adrannol 2025-26 ar gyfer y Gwasanaethau Ariannol, Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol, Datblygu Economaidd ac Eiddo, y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil, Marchnata a'r Cyfryngau a Phobl, Digidol a Pholisi yn cael eu derbyn.

 

 

8.2 bod sesiwn ddatblygu'n cael eu darparu ar gyfer aelodau ar Oleeo, y system recriwtio.

 

 

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 2 - 2024/25 (01/04/24-30/09/24) YN BRIODOL I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Ar ôl datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, arhosodd y Cynghorydd A. Evans yn y cyfarfod tra bo'r Pwyllgor yn trafod yr eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch.  Roedd y Cynghorydd D. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad at ddibenion monitro, ar Chwarter 2 - 2024/25 o'r Camau Gweithredu a'r Mesurau oedd yn gysylltiedig â Strategaeth Gorfforaethol yr Awdurdod a'r Amcanion Llesiant.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a'r ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad cadarnhaodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth nad oedd y targed ar gyfer cwynion o fewn y dyddiad cau statudol wedi'i gyrraedd, oherwydd nifer a chymhlethdod yr achosion. Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth wrth y pwyllgor, y byddai data cymharol rhwng awdurdodau lleol Cymru yn cael ei ddosbarthu y tu allan i'r cyfarfod.

 

·       Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, mewn ymateb i ymholiad ynghylch a oedd lobïo gan CLlLC yn cael ei fodloni mewn modd cadarnhaol, fod llythyr wedi'i lofnodi gan Arweinwyr Awdurdodau Cymru i lobïo Llywodraeth Cymru oherwydd y gyllideb heriol a ragwelir.

 

·       Eglurodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod y Tîm Trawsnewid yn gweithio gydag aelodau ar deiliadaeth adeiladau'r Cyngor.  Mae Parc Myrddin yn cael ei adolygu ar hyn o bryd a byddai Neuadd y Sir a Heol Spilman yn cael eu hadolygu yn y dyfodol agos.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ar gostau gwaith yn Nh? Elwyn, dywedodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol y byddai'n ymateb i'r Pwyllgor y tu allan i'r cyfarfod.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ar sut mae'r awdurdod yn monitro cynnydd e-ddysgu staff, cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol y byddai o fudd i aelodau weld y system mewn sesiwn ddatblygu.

 

·       Cyfeiriwyd at y gwaith a oedd yn cael ei wneud gydag ysgolion a cholegau chweched dosbarth i gyfleu i ddisgyblion yr ystod o swyddi a chyfleoedd gyrfa sydd ar gael gyda'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD

 

9.1 derbyn yr adroddiad.

9.2 darparu sesiwn ddatblygu ar gyfer y Pwyllgor ar system Thinqi.

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, gan mai dim ond dau adroddiad ar yr agenda, y byddai'r cyfarfod nesaf, ar 6 Mawrth 2025, yn cael ei ganslo ac y byddai'r adroddiad yn cael eu hystyried yn y cyfarfod ar 16 Ebrill 2025.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol yn cael ei hystyried yn y cyfarfod nesaf sydd wedi'i drefnu ar gyfer 16 Ebrill 2025.

 

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 18 RHAGFYR 2024 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2024 gan eu bod yn gofnod cywir.