Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol - Dydd Gwener, 1af Mawrth, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kelly Evans  01267 224178

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Davies, D. Cundy, D. Harries a D. Jones.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law. 

 

4.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GAR - TACHWEDD 2023 pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023. Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol bod pwyllgor craffu llywodraeth leol dynodedig yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Pwyllgor fod y strwythurau ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn gymhleth ac roedd gan bob bwrdd strategaethau gwahanol i'w dilyn. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r strwythurau rhanbarthol.

 

Un o'r camau allweddol ar gyfer 2023/24 oedd cryfhau'r berthynas rhwng y BGC a'r BPRh ar feysydd o ddiddordeb cyffredin gan gynnwys atal, gan y byddai hyn yn osgoi dyblygu gwaith.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Grwpiau Gorchwyl a Gorffen yn cael eu sefydlu ar hyn o bryd i graffu ar y canlynol:-

 

Mynd i'r afael â thlodi a'i effeithiau;

Cynyddu cydweithio ar seilwaith gwefru cerbydau trydan mewn lleoliadau sector cyhoeddus; a

Sicrhau economi gynaliadwy a chyflogaeth deg.  

 

Cytunodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth i ganfod gwybodaeth ariannol am gyllid ar gyfer y BPRh a'r BGC.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023.

 

5.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2023 I RHAGFYR 31AIN 2023 pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y diweddariad ynghylch Rheoli'r Trysorlys a'r Adroddiad Dangosyddion Darbodaeth rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Rhagfyr 2023.

 

Roedd adroddiad y Trysorlys yn rhestru gweithgareddau rheoli'r trysorlys oedd wedi digwydd yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 1 Rhagfyr 2023 yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2023-224 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth 2023.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd yr Awdurdod wedi torri unrhyw un o'i Ddangosyddion Darbodus yn ystod y cyfnod.

 

Codwyd y materion a'r ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ar fenthyca newydd, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod benthyciad newydd o £10M wedi'i sicrhau ar gyfradd llog o 4.41% am gyfnod o 49.5 mlynedd.  Bu cynnydd yng nghyfraddau'r farchnad dros y tymor byr ac mae elw llog yn cael ei gyflawni ar yr hyn oedd wedi ei fenthyg.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn. 

 

6.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 31 IONAWR 2023 pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2024 gan eu bod yn gywir.