Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol - Dydd Mercher, 18fed Hydref, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kelly Evans  01267 224178

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd G. John, K. Madge a P. Hughes

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A.   Evans

5 – Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2022/23

6 – Adroddiad Alldro'r Gyllideb Refeniw 2022-23

7 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2023/24

8 - Adroddiad Chwarterol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a'r Dangosyddion Darbodaeth - 1 Ebrill hyd at 30 Mehefin 2023

Datganodd y Cynghorydd Evans fuddiant personol sef bod ganddo aelod o'r teulu sy'n gweithio yn Adain Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor.

Oherwydd natur y buddiant, dywedodd y Cynghorydd Evans y byddai'n datgan buddiant ac yn gadael y cyfarfod petai'r drafodaeth yn troi at fater yn ymwneud â'r buddiant. Arhosodd y Cynghorydd Evans yn y cyfarfod, cymerodd ran yn y trafodaethau a phleidleisiodd.

 

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHOL GRWP GORCHWYL A GORFFEN 2023/24 DOGFEN CYNLLUNIO A CHWMPASU ADOLYGU PERFFORMIAD A DATBLYGIAD Y GANOLFAN GYSWLLT GORFFORAETHOL pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Pwyllgor, ar ôl cytuno, mewn egwyddor, i gynnal adolygiad Gorchwyl a Gorffen o Ganolfan Gyswllt y Cyngor yn ei gyfarfod anffurfiol a gynhaliwyd ar 27 Medi, dderbyn y Ddogfen Cynllunio a Chwmpasu Ddrafft Gorchwyl a Gorffen ar adolygiad o berfformiad a datblygiad y Ganolfan Gyswllt Gorfforaethol.

 

Wrth gyflwyno’r ddogfen, pwysleisiodd y Cadeirydd fod hwn yn faes y teimlai’r Pwyllgor yn gryf y byddai’n elwa’n fawr ar adolygiad, gan ei fod yn fodd sylfaenol i’r cyhoedd roi gwybod am broblemau a cheisio gwybodaeth. Felly, wrth ystyried y nodau a'r amcanion a nodir yn y ddogfen, y Pwyllgor fyddai orau i gynnal ymchwil i'r systemau presennol sydd yn eu lle, y perfformiad a chynhyrchu argymhellion i'r Cabinet.

 

Er mwyn ffurfio Gr?p Gorchwyl a Gorffen gwleidyddol gytbwys, gofynnodd y Cadeirydd am hyd at 6 enwebiad gan y Pwyllgor.    Wrth gydnabod bod yr enwebiadau a ddaeth i law wedi'u pwysoli tuag at Blaid Cymru, cytunodd y Pwyllgor ar yr aelodaeth, yn amodol ar benderfyniad y Cyngor ar aelodaeth pwyllgorau a fyddai'n digwydd yn y Cyngor llawn ar 8 Tachwedd, 2023. Byddai hyn yn rhoi cyfle i aelod o'r Gr?p Llafur ymuno â'r gr?p i sicrhau cydbwysedd gwleidyddol. Pe bai enwebiad yn dod o'r gr?p Llafur cyn y cyfarfod cyntaf ym mis Tachwedd, cytunwyd y byddai'r Cynghorydd Jean Lewis yn rhoi'r gorau iddi.

  

 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

4.1      Derbyn y Ddogfen Cynllunio a Chwmpasu ddrafft – Adolygu                                                

           Perfformiad a Datblygiad y Ganolfan Gyswllt Gorfforaethol;

4.2      cymeradwyo nodau a chwmpas gwaith y Gr?p Gorchwyl a   

          Gorffen fel y nodir yn y Ddogfen Cynllunio a Chwmpasu;

 

4.3     bod Aelodaeth y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar Berfformiad a

          Datblygiad y Ganolfan Gyswllt Gorfforaethol fel a ganlyn:-

 

 

Y CYNGHORYDD

PLAID

1.

Y Cynghorydd Kim Broom

Plaid Cymru

2.

Y Cynghorydd Alex Evans

Plaid Cymru

3.

Y Cynghorydd Terry Davies

Plaid Cymru

4.

Y Cynghorydd Dot Jones

Llafur

5.

Y Cynghorydd Giles Morgan

Annibynnol

6.

Y Cynghorydd Jean Lewis

Mae Aelodaeth y Cynghorydd Lewis yn amodol ar dderbyn enwebiad gan y Gr?p Llafur yn dilyn cyfarfod y Cyngor ar 8 Tachwedd 2023

Plaid Cymru

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR GAR AR GYFER 2022-23 pdf eicon PDF 198 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd A. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer 2022/23 ynghyd ag adroddiadau manwl ar Amcanion Llesiant newydd y Cyngor sy'n dod o fewn cylch gwaith y pwyllgor sef:

 

·       WBO1 - Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda)

·       WBO2 - Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda)

·       WBO3 - Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus)

·       WBO4 -  Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon (Ein Cyngor)

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd yr Arweinydd fod yr adroddiad hwn yn ofyniad statudol, a thrwy ddefnyddio’r amcanion llesiant i fframio’r hunanasesiad,  roedd yn galluogi'r Cyngor i integreiddio gofynion adrodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) mewn un adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am sut yr ymgysylltai’r Cyngor â dinasyddion a rhanddeiliaid ar draws holl swyddogaethau allweddol y Cyngor.

 

Ymatebwyd i'r sylwadau/arsylwadau fel a ganlyn:

 

·       Rhoddwyd sylw i'r grantiau penodol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru gan eu bod yn cyfateb i'r cyfanswm o 16% y mae'r Cyngor yn ei dderbyn o'r dreth gyngor. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Arweinydd fod y swm a dderbyniodd y Cyngor o dreth y cyngor yn y gwariant cyffredinol yn fach o gymharu â phwysigrwydd y Grant Cynnal Refeniw (RSG) a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd trafodaethau ar y gweill ar lefel Cymru gyfan. Dywedodd yr Arweinydd wrth yr aelodau y byddai'r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ymweld â Sir Gaerfyrddin yn ystod yr wythnos nesaf lle byddai trafodaeth yn cael ei chynnal yngl?n â sefyllfa bresennol y grantiau a'r posibilrwydd o gydgrynhoi'r Grant Cynnal Refeniw. Byddai gwybodaeth yn cael ei dosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor y tu allan i'r cyfarfod.

 

·       Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y Cyngor yn dibynnu ar grantiau i gynnal y gyllideb refeniw.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y gyfradd gasglu annomestig yn 97.97% a oedd ychydig bach yn is na'r flwyddyn flaenorol. Mae ardrethi annomestig yn cael eu cronni ledled Cymru ac felly, byddai unrhyw or-gasgliad neu dan-gasgliad o fewn awdurdod lleol unigol yn mynd i’r gronfa ac yn cael ei rannu ledled Cymru.  Mae'r awdurdod wedi'i ddiogelu rhag unrhyw amrywiad o ran ffactorau economaidd lleol.

 

·       Bu i'r Pennaeth Adfywio, Polisi a Digidol, wrth ymateb i ymholiad ynghylch safleoedd adwerthu gwag ac adwerthwyr yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gadarnhau byddai'n rhaid i'r landlord dalu ardrethi, er bod cyfnod dros dro o 3 mis pan fo'r eiddo'n wag

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gostyngiad yn y targedau ymateb statudol i gwynion, eglurodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a' Phartneriaeth, y bu cynnydd yn nifer y cwynion a ddaeth i law  yr Awdurdod yn ystod yr un cyfnod. Roedd y cwynion a ddaeth i law yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD ALLDRO CYLLIDEB REFENIW 2022/23 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd A. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau Alldro Cyllideb Gorfforaethol 2022/23 yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol. Yn gyffredinol, sefyllfa net yr awdurdod oedd tanwariant o £1,288k.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd A. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol 2023/24 yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 30 Mehefin 2023 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2023/24.

 

Roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £4,504k ar gyllideb refeniw net yr

Awdurdod ac y byddai gorwariant o £7,399k ar lefel adrannol. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. 

 

8.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2023 1 MEHEFIN 30AIN 2023 pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd A. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Chwarterol ynghylch y Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli’r Trysorlys ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 - 30 Mehefin 2023. Roedd yr adroddiad yn rhestru'r gweithgareddau rheoli'r trysorlys a oedd wedi digwydd yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2023-2024 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth 2023.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd yr Awdurdod wedi torri unrhyw un o'i Ddangosyddion Darbodus yn ystod y cyfnod.

 

Ymatebwyd i'r sylwadau/arsylwadau a godwyd fel a ganlyn:-

 

·       Cyfeiriwyd at y WAYield isel ar gyfer Banc Lloyds. Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cyfradd y farchnad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wrth y Pwyllgor fod y Cyngor wedi ail-fuddsoddi gyda Banc Lloyds ar gyfradd uwch o 6.22%.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.

 

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 1 - 2023-24 (01/04/23-30/0623) YN BRIODOL I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn cynnwys diweddariad ar y camau a gymerwyd hyd at ddiwedd Chwarter 1 – 2023/24, o'r Camau Gweithredu a'r Mesurau sy'n gysylltiedig â'r Strategaeth Gorfforaethol a'r amcanion Llesiant.

 

Ymatebwyd i'r sylwadau/arsylwadau a godwyd fel a ganlyn:-

 

·       O ran prentisiaethau, nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar ffyrdd o ail-lansio'r cynllun.

 

·       Cytunodd y Rheolwr Datblygu a Dysgu i ddarparu ffigyrau ar gyfer prentisiaethau ar draws yr Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. 

 

10.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GAR EBRILL 2023 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023. Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023.

 

11.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno" mewn perthynas â chofnodion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer y cyfarfod ym mis Gorffennaf a nododd yr esboniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

12.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 12 Rhagfyr 2023.

 

 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 12 Rhagfyr 2023.

 

13.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 19 GORFFENNAF 2023 pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2023 yn gofnod cywir.