Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Nodyn: Moved from 21/02/2024
Rhif | eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L.R.Bowen ac M. Thomas. |
||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig. |
||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
||||||||||||||||
YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2024/25 TAN 2026/27 PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [NODER: Roedd y B.W. Jones, M.J.A.Lewis ac E. Skinner wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac wedi aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2024/25 i 2026/27 a oedd yn rhoi golwg gyfredol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2024/2025 ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2025/2026 a 2026/2027. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion y swyddogion ynghylch gofynion gwariant, ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr 2023.
Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, dywedwyd mai datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru yn dilyn y broses ymgynghori. Yn unol â hynny, atgoffwyd yr Aelodau bod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2024 a bod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle i ddadansoddi a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor, bod y setliad amodol a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd cyfartalog o 3.1% ledled Cymru ar setliad 2023/24, gyda chynnydd Sir Gaerfyrddin yn 3.3% (£11.0m) Er bod y setliad ychydig yn uwch na ffigur arfaethedig y Cyngor, sef cynnydd o 3.0%, ac yn darparu £0.9m yn fwy na rhagdybiaeth wreiddiol y Cyngor, ac roedd hyn i'w groesawu, roedd y cynnydd o ran chwyddiant, codiadau cyflog a phwysau eraill ar y gwasanaeth yn llawer uwch na'r cyllid a ddarparwyd. Yn ei gyd-destun, roedd cyfanswm y cyllidebau ychwanegol oedd eu hangen yn 2024/25 i dalu costau codiadau cyflog yn unig yn £15m. Yn benodol, ni ddarparwyd unrhyw gyllid ychwanegol i fodloni'r diffyg cynhenid yn y gyllideb wrth symud ymlaen o ganlyniad i'r codiad cyflog Athrawon a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, na dyfarniad cyflog NJC 2023 a osodwyd gan broses bargeinio cyflogau cenedlaethol.
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at adran 3.5 o strategaeth y gyllideb lle rhoddwyd trosolwg o gyllidebau dirprwyedig yr ysgolion i'r Aelodau. Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod cynigion y gyllideb yn cynnwys arbediad o £3.5m, a oedd yn gyson â'r lefel o arbedion sydd eu hangen ar feysydd eraill o wasanaethau'r cyngor. Fodd bynnag, roedd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yn falch o adrodd bod y gostyngiad arfaethedig i'r grant Recriwtio, Adfer, Codi Safonau wedi'i wrthdroi, a fyddai'n lliniaru'r pwysau ariannol yn rhannol.
Darparwyd i'r Pwyllgor drosolwg o'r sefyllfa wedi'i diweddaru ar y rhagolygon ariannol cyfredol, fel y nodir yn adran 4 yr adroddiad, a oedd yn ystyried y setliad dros dro a newidiadau dilysu diweddar eraill.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:-
· Atodiad A(i) - Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant. · Atodiad A (ii) - Crynodeb o Bwysau Twf ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant. · Atodiad B - Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
||||||||||||||||
CYNNIG GOFAL PLANT CYMRU PDF 105 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar Gynnig Gofal Plant Cymru, ei nod oedd cefnogi teuluoedd i ddarparu gofal plant hyblyg, fforddiadwy o ansawdd uchel i hyrwyddo adfywio economaidd, lleihau'r pwysau ar incwm teuluoedd a helpu rhieni i gymryd rhan mewn gwaith, a thrwy hynny lleihau risg y teulu o dlodi. At hynny, cafodd y cynllun, a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2019, ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhieni cymwys gan geisio gwella llesiant plant drwy ddarparu profiadau gofal plant cadarnhaol a chyfoethog.
Darparwyd crynodeb o gyflwyniad y cynllun i'r Pwyllgor, a oedd yn cynnwys cyflwyno gwasanaeth digidol y Cynnig Gofal Plant Cenedlaethol yn Haf 2022 i ddarparu proses mwy syml ac unffurf o ran cofrestru a chyflwyno cais, a gwasanaeth hawliadau taliadau cyflym wythnosol i ddarparwyr.
Roedd yr adroddiad yn nodi ystadegau ar gyfer nifer y ceisiadau a gymeradwywyd ac yn manylu ar y cymorth sydd ar gael ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol drwy'r Grant Cymorth Ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.
Adolygodd y Pwyllgor y taliadau a wnaed i Ddarparwyr Gofal Plant Sir Gaerfyrddin a oedd yn cynrychioli arbediad sylweddol i lawer o deuluoedd lleol sy'n gweithio gan helpu i gynnal darparwyr gofal plant lleol, yn enwedig yn ystod pandemig y coronafeirws.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-
Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, o ystyried y meini prawf cymhwysedd, y byddai'n anodd cael ffigurau cywir ynghylch nifer y rhieni/gwarcheidwaid nad oeddent wedi gwneud cais ar gyfer y cynnig gofal plant. Fodd bynnag, roedd y pwyllgor wedi cael sicrwydd drwy nodi bod yr adran wedi defnyddio strategaeth farchnata a chyfathrebu gadarn i hyrwyddo'r cynllun mewn modd cyson ac yn unol â'i nodau a'i amcanion.
Yn dilyn ymholiad, ystyriwyd bod y meini prawf cymhwysedd mewn perthynas â'r isafswm o oriau a weithiwyd yn cael eu hystyried yn un o'r prif rwystrau i gael mynediad i'r cynllun. Fodd bynnag, tynnwyd sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi ymestyn y meini prawf cymhwysedd i gynnwys y rhai mewn addysg uwch, gweithwyr tymhorol a rhieni plant mabwysiedig.
Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan Aelod, dywedwyd er bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fyddai'n adolygu'r gyfradd dalu am flwyddyn arall, bod yr Awdurdod yn monitro'r sefyllfa'n agos yn dilyn pryderon a godwyd nad oedd cyfradd y taliad yn gynaliadwy i rai darparwyr, ac o ganlyniad yn golygu bod rhai rhieni yn gwneud taliadau atodol.
Holwyd a oedd dosbarthiad darparwyr ledled Sir Gaerfyrddin wedi arwain at rieni/gwarcheidwaid yn gorfod defnyddio darpariaeth gofal plant y tu allan i'r ardal leol, a thrwy hynny gael effaith ganlyniadol ar y dewis o ysgolion a ddewisir. Dywedodd Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant fod dadansoddiad o fylchau yn y ddarpariaeth gofal plant ar draws y sir yn cael ei gynnal bob 5 mlynedd a nodwyd bod gostyngiad yn nifer y gwarchodwyr plant mewn ardaloedd gwledig ers pandemig y coronafeirws. Er y cydnabuwyd y gallai'r diffyg ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
||||||||||||||||
CYNLLUNIAU DARPARU GWASANAETHAU IS-ADRANNOL DRAFFT 2024-25 PDF 137 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd B.W. Jones, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ac arhosodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried].
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Cynlluniau Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft sy'n berthnasol i'r gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Plant ar gyfer 2024/25 fel a ganlyn:
· Mynediad i Addysg · Gwasanaethau Plant · Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant · Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr
Roedd y Cynlluniau Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft yn pennu'r camau a'r mesurau strategol i'w gweithredu ym mhob isadran er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas â'i amcanion llesiant, ei flaenoriaethau thematig a blaenoriaethau'r gwasanaeth.
O ran y Cynllun Cyflawni Gwasanaeth - Gwasanaethau Plant, roedd yr adroddiad yn cynnwys yr elfennau sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg ac yn ymwneud â'r meysydd canlynol:
· Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion · Seicoleg Addysg · Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod y pandemig coronafeirws, Brexit a Rhyfel Wcráin wedi cyfrannu at gynnydd sylweddol mewn costau adeiladu, sydd wedi rhwystro cyflawni prosiectau sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen Moderneiddio Addysg.
Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd y Pennaeth Mynediad i Addysg ddiweddariad ar gyflwyno'r ddarpariaeth Prydau Ysgol am Ddim i bob Plentyn Ysgol Gynradd y disgwylid iddo gwblhau ym mis Chwefror 2024. Yn hyn o beth, rhoddodd y Pennaeth Mynediad i Addysg ganmoliaeth i'r tîm Arlwyo ac adrannau eraill yn yr Awdurdod a oedd wedi cynorthwyo i ddarparu'r ddarpariaeth.
Dywedwyd ymhellach, er bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu gwerth y Prydau Ysgol Am Ddim i bob Plentyn Ysgol Gynradd o £2.90 i £3.20, nid oedd y swm yn adlewyrchu'r gwir gost i'r Awdurdod am ddarparu prydau ysgol maethlon o ansawdd uchel i bob ysgol gynradd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod trafodaethau'n parhau â Llywodraeth Cymru mewn ymdrech i gymhwyso lefelau ariannu pwrpasol ar draws gwahanol siroedd o ystyried y costau ychwanegol a ysgwyddir gan ardaloedd gwledig. I gefnogi ymdrechion y Swyddogion, gofynnodd Aelod i deimladau'r Pwyllgor gael eu cyfleu i Lywodraeth Cymru o ran y fformiwla ariannu Prydau Ysgol am Ddim fel rhan o unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wneir mewn perthynas â'r gyllideb (cofnod 4 uchod).
Mewn ymateb i gais, rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, drosolwg o'r lleoliadau noddedig ar raglen Gradd Gwaith Cymdeithasol / Gradd Meistr y Brifysgol Agored, a'i nod oedd lliniaru’r prinder cenedlaethol o weithwyr cymdeithasol. Croesawodd y Pwyllgor yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i weithwyr presennol a newydd i ddod yn weithwyr cymdeithasol cymwys yn y sir.
Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant wybodaeth i'r Aelodau am y sefyllfa bresennol mewn perthynas â chefnogi gwell ymddygiad ar draws ysgolion y sir. Roedd y mater cenedlaethol ynghylch safonau ymddygiad yn dirywio wedi dod yn fwy cyffredin yn dilyn pandemig y coronafeirws, a waethygwyd ymhellach gan ôl-groniad cyflyrau niwrolegol yn dilyn diagnosis gan y gwasanaeth iechyd. Roedd yr Aelodau wedi’u sicrhau bod strategaeth glir ar waith i reoli ymddygiad mewn ysgolion a oedd yn defnyddio'r dull Team Teach i reoli ymddygiad ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
||||||||||||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 70 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu ynghylch y Strategaeth Gofal Cymdeithasol 10 mlynedd .
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad. |
||||||||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 82 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 3 Ebrill 2024. |
||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 01 RHAGFYR 2023 PDF 115 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2023 yn gofnod cywir. |