Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M. Donoghue, H. Jones a B.A.L. Roberts.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
TALIADAU UNIONGYRCHOL PDF 100 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr Adroddiad Gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol yr oedd wedi gofyn amdano. Roedd yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yn nodi'r cynnydd a wnaed ers trosglwyddo'r swyddogaeth rheoli a chymorth i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch pam fod swm cost yr Wythnos Weithredol fesul gr?p poblogaeth yn isel ar gyfer Iechyd Meddwl, dywedodd swyddogion fod nifer y taliadau uniongyrchol ar gyfer unigolion Sir Gaerfyrddin ag Iechyd Meddwl yn cael ei adlewyrchu ledled Cymru fel arfer. Mynegwyd y gallai cymorth Iechyd Meddwl fod yn fwy amrywiol a bod anghenion gofal yr unigolion yn cynyddu ac yn lleihau ond bod taliadau uniongyrchol yn dal i fod yn gynnig gweithredol i bawb. Amlygwyd bod rhai o'r unigolion a gynhwysir yn y ffigurau ar gyfer Anableddau Dysgu yn aml wedi cael diagnosis deuol felly mae'n bosibl bod ganddynt broblem Iechyd Meddwl a hefyd Anableddau Dysgu.
· Wrth gyfeirio at y ffigurau uchel ar gyfer Anableddau Dysgu, gofynnwyd a oedd hyn yn uwch oherwydd bod llai o weithgareddau yn digwydd yn y cymunedau. Dywedodd y Rheolwr Comisiynu a Chontractio fod pobl yn cael cyfle i wneud y pethau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt drwy Daliadau Uniongyrchol wrth gael eu cefnogi gan Gynorthwyydd Personol. Nodwyd bod newid wedi bod tuag at bersonoli cynllunio gofal a chymorth a bod pobl yn arfer eu dewis a'u rheolaeth ac mai cefnogaeth gymunedol oedd y maes gweithgarwch mwyaf. Mynegwyd fod nifer y rheiny sy'n cael taliadau uniongyrchol sy'n derbyn cymorth cymunedol yn uchel a'i fod yn ymwneud yn fawr iawn â phobl yn cael y cyfle i wneud y pethau oedd yn bwysig iddynt. Yn ogystal, dywedodd y Rheolwr Comisiynu a Chontractio fod yr Awdurdod yn edrych ar gyfleoedd lle gallai Taliadau Uniongyrchol ar y cyd fod o fudd i grwpiau o bobl sydd â buddiannau a rennir. Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion mai rhan o'r cynllun oedd edrych ar wasanaeth mwy cost-effeithiol ac fel enghraifft dywedodd y gallai fod gennych bum unigolyn yn mynd i'r un digwyddiad yng nghwmni pum Cynorthwyydd Personol ac y byddai hyn yn arbed adnoddau drwy gyfuno taliadau.
· Gofynnwyd sut roedd yr Awdurdod yn gwybod bod y taliadau'n cael eu gwario'n briodol. Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch-reolwr Cymorth Busnes mai un o'r prif ysgogwyr dros ddarparu'r gwasanaeth yn fewnol unwaith eto oedd sicrhau gwiriadau mwy trylwyr a chymhwyso rheoliadau ariannol. Dywedwyd bod gwelliannau wedi'u gwneud, ond roedd rhai meysydd o bryder o hyd yr oedd angen mynd i'r afael â nhw drwy weithio'n agos gyda'r Gweithwyr Cymdeithasol a'r Ymgynghorwyr Taliadau Uniongyrchol a oedd yn delio â'r teuluoedd o ddydd i ddydd.
· Gofynnwyd a oedd rhestr aros o bobl yn aros i gael eu hasesu. Dywedodd swyddogion nad oedd rhestr aros, ond roedd heriau o ran recriwtio Cynorthwywyr Personol. Fodd bynnag, roedd gwaith yn parhau i gyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth o'r rôl a chynyddu nifer y staff a gedwir. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 2023/24 am y Camau Gweithredu a'r Mesurau sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Craffu hwn o ran Gweledigaeth y Cabinet. Dangosodd yr adroddiad y cynnydd fel yr oedd ar ddiwedd Chwarter 4 – 2023/24 o ran cyflawni yn erbyn Gweledigaeth y Cabinet.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i ganolbwyntio ar ddatblygu model adfer ar gyfer yr ysbytai Cymunedol, dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys y Cyngor a'r Bwrdd Iechyd ac yn cynnwys nifer o weithwyr proffesiynol clinigol a meddygol, arweinwyr therapi, gweithwyr cymdeithasol a nyrsys. Dywedwyd bod y gr?p yn edrych ar ffyrdd o wella'r cynnig seiliedig ar welyau ac i sicrhau'r canlyniadau mwyaf posibl i bobl. Ar hyn o bryd roedd y maes gwaith penodol mewn perthynas ag Ysbyty Cymunedol Dyffryn Aman ac roedd yn edrych i adlewyrchu cyflwyno'r model a weithredwyd yn Nh? Pili Pala, sef y ganolfan gofal canolradd seiliedig ar welyau sydd wedi'i lleoli yng nghartref gofal Llys y Bryn. Roedd y gwaith eisoes wedi arwain at leihad o draean mewn arhosiad yn yr ysbyty.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cytundeb Adran 33, dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod y ddogfen gyfreithiol gyffredinol wedi'i chwblhau ond nid oedd yr atodlenni ategol a oedd yn hanfodol i'r cytundeb wedi'u cwblhau eto. Roedd yr atodlenni hyn yn cynnwys manylion yr hyn y mae pob gwasanaeth yn ei ddarparu ac yn sail i'r ddogfen gyfreithiol gyffredinol. Roedd gwaith ar yr amserlen gofal brys a llif bron wedi'i chwblhau ond roedd gwaith i'w wneud o hyd ar lwybr atal a gofal rhagweithiol a'r amserlenni llwybrau tymor hir.
· Wrth gyfeirio at y mater yngl?n â'r cynnydd yng nghyfraddau hunanladdiad a hunan-niweidio yn y Sir, dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod cryn dipyn o waith yn cael ei wneud gan gynnwys sefydlu gr?p adolygu hunanladdiad. Byddai'r gr?p yn edrych i weld a oedd unrhyw themâu a meysydd risg daearyddol a demograffig a fyddai'n llywio'r strategaeth atal. Yn ogystal, dywedwyd bod gwaith yn parhau i sicrhau bod pobl yn cael gwybod ble i droi am gymorth. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor mai'r genhadaeth oedd lleihau nifer yr hunanladdiadau yn y rhanbarth a bod hyn yn cael ei wneud ar y cyd â sefydliad partner.
· Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â phenodi rôl cydgysylltydd dros dro, dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod y swydd wedi'i chreu gan y cydnabuwyd bod nifer o fentrau a grwpiau'r trydydd sector yn darparu cymorth ynghylch atal hunanladdiad ond nad oedd yna lawer o gydlyniant neu ddealltwriaeth ynghylch ble i fynd na sut i gael mynediad at y gwasanaethau hyn. Roedd un o'r clystyrau meddygon teulu wedi darparu cyllid i benodi person am dri mis cychwynnol ond roedd bellach wedi bod yn y swydd ers tua naw mis. Roedd gwaith sylweddol wedi'i wneud gyda ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 72 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:
· Diweddariad am y Strategaeth Cymorth Cynnar · Strategaeth Dementia
PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 17 Hydref 2024.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 13EG MEHEFIN, 2024 PDF 102 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2024 fel cofnod cywir.
|