Agenda a Chofnodion

CYLLIDEB, Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Iau, 25ain Ionawr, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd B. Davies.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar  31 Hydref 2023, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2023/24.

 

Roedd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhagweld gorwariant o £9,740k ar y gyllideb refeniw. Dangosodd y prif amrywiadau ar gynlluniau cyfalaf amrywiant disgwyliedig o -£49k yn erbyn cyllideb net o £1,906k ar brosiectau gofal cymdeithasol, ac amrywiad o -£184k yn erbyn cyllideb net prosiectau'r Gwasanaethau Plant o £517k.

 

Amlygodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y gorwariant cyllidebol a ragwelir ar Wasanaethau Plant o bryder sylweddol i sefyllfa'r gyllideb gorfforaethol, ac wrth gydnabod hyn sefydlwyd gweithgor i ymchwilio a nodi camau cywirol lle bo hynny'n bosibl.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:

 

·    Mynegwyd pryder ynghylch cost ormodol staff asiantaeth mewn cartrefi preswyl a gofynnwyd pa fesurau diogelu oedd ar waith i sicrhau na fyddid yn dibynnu ar staff asiantaeth yn yr un modd yn y flwyddyn ariannol nesaf. Dywedodd swyddogion fod gweithgor wedi'i sefydlu i helpu i gael dealltwriaeth o'r gofynion gwaith. Y gobaith oedd y byddai gwelliant yn y sefyllfa ariannol yn amlwg yn yr adroddiad monitro nesaf. Gwnaed gwaith i sefydlu cronfa hyblyg fewnol o staff achlysurol ac, os bydd hyn yn llwyddiannus, byddai'n lleihau'r ddibyniaeth ar staff asiantaeth. 

·    Mewn ymateb i bryderon ynghylch y gorwariant o £9.7m a beth fyddai'r sefyllfa debygol ar ddiwedd y flwyddyn, dywedwyd wrth y Pwyllgor, er bod y ffigur yn peri pryder, ei fod ar gyfer yr adrannau o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor hwn a bod y rhagolwg yn is yn gorfforaethol oherwydd y tanwariant yn Adran y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol. Nodwyd hefyd bod tanwariant o ran y Taliadau Cyfalaf. Unwaith eto, atgoffwyd y Pwyllgor fod y gwaith monitro yn mynd i'r afael â'r 'perfformiad gwirioneddol' yn seiliedig ar ddata hyd at ddiwedd mis Hydref a bod y cyfrifwyr wedi gweithio'n agos gyda'r holl adrannau gwasanaeth i adolygu'r tueddiadau a'r meysydd lle mae gorwariant. Dywedwyd bod y cynnydd yn y defnydd o staff asiantaeth wedi'i nodi fel rhan o'r broses fonitro a nodwyd y byddai'r sefyllfa ariannol yn dirywio ymhellach oni bai bod camau unioni yn cael eu rhoi ar waith.

·    Gan gyfeirio at Atodiad B, gofynnwyd beth oedd ystyr 'ffyrdd eraill o weithio'. Dywedodd swyddogion fod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori'n ddiweddar ar bapur gwyn ar ailgydbwyso gofal a chymorth a oedd yn ystyried sut yr oedd y broses gomisiynu yn cael ei chynnal gyda mwy o bwyslais ar liniaru methiannau yn y farchnad. Enghraifft o hyn fyddai datblygu mwy o gapasiti mewnol, a rhoddwyd enghraifft benodol sef cartref gofal Plas y Bryn a gaeodd y llynedd ac a gafodd ei brynu gan yr Awdurdod Lleol yn dilyn hynny. Nodwyd hefyd fod uchelgais i ddatblygu cyfleusterau plant mewnol i liniaru cost ormodol lleoliadau'r tu allan i'r sir.

·    Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y grant a dderbyniwyd ar gyfer Plant heb Gwmni Oedolyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2024/25 TAN 2026/27 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2024/25 i 2026/27 a oedd yn rhoi golwg gyfredol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2024/25 ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2025/26 a 2026/27. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion y swyddogion ynghylch gofynion gwariant, ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr 2023 - y dyddiad hwyraf yr oedd hwn erioed wedi cael ei ddarparu.

 

Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, pwysleisiwyd mai datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru yn dilyn y broses ymgynghori. Yn unol â hynny, atgoffwyd Aelodau bod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2024 a bod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle i ddadansoddi a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod disgwyl i'r setliad terfynol gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar 27 Chwefror 2024 ochr yn ochr â chyllideb Llywodraeth Cymru, y diwrnod cyn i'r cyngor llawn gwrdd i gytuno ar y gyllideb derfynol.

 

Nododd yr adroddiad nad oedd unrhyw gyllid wedi'i ddyrannu ar gyfer y cynnydd mewn pensiynau Athrawon na Diffoddwyr Tân, gan nad oedd y mecanwaith hwn wedi'i roi ar waith eto rhwng San Steffan a Llywodraeth Cymru. Er y tybiwyd na fyddai hyn yn cael effaith ar y sefyllfa ariannu, ystyriwyd bod hyn yn risg sylweddol hyd nes y cadarnhawyd yn ffurfiol, gyda gwerth o tua £4m.

 

Dywedodd llythyr y Gweinidogion fod yr holl gyllid oedd ar gael wedi ei ddarparu, a bod yn rhaid i Awdurdodau Lleol felly dalu'r costau megis cytundeb cyflog Athrawon Medi 2024, er nad oedd eglurder yngl?n â'r hyn a dybiwyd.

 

Atgoffwyd yr Aelodau nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol wedi'i ddarparu i fynd i'r afael â'r diffyg yn y gyllideb yn y dyfodol o ganlyniad i'r cynnydd mewn cyflog athrawon (a osodwyd gan Lywodraeth Cymru), na chodiad cyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol (a osodwyd gan fargeinio cyflog cenedlaethol).  Cydnabu Llywodraeth Cymru mai dyma'r setliad mwyaf heriol ers datganoli.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai Cymru yn derbyn £25m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn dilyn yr hwb a dderbyniwyd gan gynghorau Lloegr er mwyn mynd i'r afael â'u hargyfwng ariannol. Y gobaith oedd y byddai peth o'r cyllid ychwanegol hwn yn cael ei ddosbarthu i Awdurdodau Lleol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:-

 

·         Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:

·    Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y £2m a dynnwyd o gronfeydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

INTEGREIDDIO YN SIR GAERFYRDDIN - DIWEDDARIAD SEFYLLFA AR WEITHREDU MEWN PERTHYNAS A BLAENORIAETHAU pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi datganiad safbwynt ar Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin ac yn benodol,

diweddariad ynghylch blaenoriaethau penodol a nodwyd i gyflwyno system gofal cymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

Yn dilyn cyflwyniad i'r Pwyllgor Craffu yn ei gyfarfod ym mis Mehefin 2023, cytunodd yr aelodau i gefnogi datblygiad cynllun sy'n adeiladu ar ystod o fentrau. Roedd y cynllun hwn yn mynd i'r afael ag anghenion cymhleth a lluosog y cleifion yn hytrach na galluoedd y sefyllfa bresennol o ran darparwyr. Byddai'n ystyried yr effeithiau uniongyrchol y gallai newidiadau eu gwneud yn ogystal â chyflwyno model a fyddai'n ateb galw canolig a hirdymor pobl eiddil ac oedrannus.

 

Nododd yr Aelodau fod gwaith Integreiddio rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau rheng flaen di-dor i'r cyhoedd. Nid oedd cynnydd ar integreiddio strategol ehangach wedi bod yr hyn a ragwelwyd y llynedd. Roedd pwysau ariannol sylweddol, newidiadau ar lefel Prif Weithredwr ac ad-drefnu ym maes Iechyd yn golygu bod cynnydd pellach o ran integreiddio'r Awdurdod Lleol a'r Bwrdd Iechyd yn strategol yn annhebygol yn y tymor byr i'r tymor canolig.

 

Croesawodd y Cadeirydd i'r cyfarfod Dr Sioned Richards (Arweinydd Meddygon Teulu, Gofal Canolraddol Sir Gaerfyrddin) ac Indeg Jameson (Ffisiotherapydd yn y Tîm Ymateb Acíwt) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a roddodd ddiweddariad a chyflwyniad i'r Pwyllgor ar y gwaith integredig a oedd yn cael ei wneud yn Hwb Porth y Dwyrain Sir Gaerfyrddin. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod gan y tîm amlddisgyblaeth weledigaeth a nod a rennir i helpu pobl yn eu cartrefi ac i atal derbyniadau. Derbyniwyd atgyfeiriadau gan ysbytai, y gymuned a meddygon teulu. Arweiniodd y ffordd integredig o weithio at gleifion yn derbyn y lefel fwyaf priodol o ofal.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:

·    Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y model a'r heriau o ran cysylltu â meddygon teulu, dywedwyd bod y model yn gweithio'n dda ond bod angen gwneud mân addasiadau megis cynyddu nifer y gofalwyr. Nodwyd bod y tîm ar gael i ddarparu gwasanaeth adsefydlu i helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth ac nid i ddarparu gofal tymor hir.

·    Pan ofynnwyd a oedd model tebyg ar waith mewn mannau eraill, nodwyd bod y model wedi'i ddyblygu gan awdurdodau eraill a bod y model wedi cael ei gydnabod fel arfer gorau. Roedd hefyd wedi derbyn gwobrau i gydnabod ei lwyddiant.

·    Mewn ymateb i bryderon a godwyd ynghylch defnyddio gwelyau yn Nh? Pili Pala a'r gwahaniaeth rhwng hyd yr arosiadau yn Llanymddyfri a Dyffryn Aman, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr ysbytai cymunedol yn derbyn cleifion yr oedd angen iddynt aros am gyfnod hwy gan y byddai angen pecynnau gofal arnynt fel arfer. Nodwyd bod gwaith sylweddol yn cael ei wneud ynghylch sut i ddefnyddio'r gwelyau hyn yn well.

·    Mewn ymateb i bryder a godwyd ynghylch gwaith ar yr integreiddio strategol rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod cynnydd wedi'i ohirio oherwydd pwysau ariannol sylweddol, newidiadau ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

STRATEGAETH ATAL AR GYFER SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd swyddogion ac Aelodau'r Pwyllgor fod angen iddynt adael y cyfarfod oherwydd ymrwymiadau eraill.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio rhoi sylw i'r adroddiad tan y cyfarfod nesaf ar 21 Mawrth 2024.  

 

8.

CYMORTH CYMUNEDOL A SEIBIANNAU BYR I BLANT ANABL pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Swyddogion ac Aelodau'r Pwyllgor fod angen iddynt adael y cyfarfod oherwydd ymrwymiadau eraill.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio rhoi sylw i'r adroddiad tan y cyfarfod nesaf ar 21 Mawrth 2024.  

 

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol. 

 

·         Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol 10 mlynedd

·         Adroddiad Gr?p - Cyllideb y Gwasanaethau Plant

 

Ailadroddodd y Pwyllgor ei bryder ynghylch peidio â chyflwyno Adroddiad Gr?p - Cyllideb Gwasanaethau Plant ond nododd fod rhywfaint o wybodaeth wedi'i darparu drwy'r broses ymgynghori ar y Gyllideb.

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Pwyllgor yr hoffent ystyried yr Adroddiad Blynyddol Rhanbarthol ynghylch Diogelu yn y cyfarfod nesaf os yn bosibl.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 21 Mawrth 2024.

 

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18FED RHAGFYR, 2023 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2023 yn gofnod cywir.