Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
RHAGLEN TRAWSNEWID GWASANAETHAU PLANT A THEULUOEDD - DIWEDDARIAD 1 PDF 497 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr oeddent wedi gofyn amdano yn dilyn pryderon ynghylch y sefyllfa bresennol yn y Gwasanaethau Plant.
Roedd yr adroddiad yn rhoi'r diweddariad cyntaf ar gynnydd Cynllun Trawsnewid y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a gafodd ei ddatblygu i reoli galw yn y dyfodol a sicrhau cyllideb gytbwys. Roedd yr adroddiad yn nodi cynnydd y rhaglen drawsnewid hyd yma a'r uchelgais dros y pedair blynedd nesaf.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn chwarter cyntaf 2023/24 wedi rhoi gwybod am orwariant o £5.3 miliwn mewn perthynas â chyllideb gyffredinol o £23 miliwn ac o ganlyniad i hynny, comisiynwyd ac arweiniwyd adolygiad gan Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnal dadansoddiad mewn perthynas â'r elfennau sy'n ysgogi'r galw a chanolbwyntio ar feysydd lle bu gorwariant sylweddol. Roedd y gweithgor cyllideb a gyflawnodd y gwaith hwn yn cynnwys y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, y Cyfarwyddwr Cyllid, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, y Pennaeth Cyllid, Uwch-reolwyr y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, a Chyfrifydd y Gr?p.
Nodwyd bod gan Sir Gaerfyrddin fel mater o drefn y gyfradd isaf o blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, a'i bod hefyd yn cynnal niferoedd isel o blant ar y gofrestr amddiffyn plant a bod Sir Gaerfyrddin hefyd yn darparu perfformiad cryf ar draws yr holl ddangosyddion perfformiad cenedlaethol.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor, heb ystyried y ceiswyr lloches sydd ar eu pen eu hunain, fod nifer y plant sy'n derbyn gofal wedi cynyddu 10% ers mis Ionawr ac yn draddodiadol bod cynnydd yn y niferoedd yn yr haf. Nodwyd bod y llwyddiant hyd yma wedi'i gyflawni drwy'r strategaeth i fuddsoddi mewn gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar.
Nodwyd bod angen monitro'r holl ddata yn ofalus er mwyn sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn dychwelyd adref at eu teuluoedd lle bynnag y bo'n bosibl. Roedd sefydlogrwydd hanesyddol Gweithlu ac Arweinyddiaeth Sir Gaerfyrddin ar bob haen wedi sicrhau canlyniadau rhagorol i blant ac o ganlyniad, roedd Sir Gaerfyrddin gwario llai y pen ar ofal cymdeithasol i blant nag unrhyw awdurdod arall yng Nghymru.
Nododd adroddiad y gweithgor cyllideb y cynnydd yn y galw a chymhlethdod newidiol y gwaith a oedd wedi dod i'r amlwg yn sgil y pandemig a'r effaith a gafodd hyn ar wariant. Argymhellodd y gweithgor cyllideb fod angen buddsoddiad i sicrhau bod y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn parhau i weithredu'n ddiogel. Argymhellwyd bod angen £5.5m yn 2024/25 ac £1.8m yn 2026/27 i reoli'r cynnydd a'r newid yn y galw, a bod rhaglen drawsnewid wedi'i datblygu. Dywedwyd bod Rhaglen Drawsnewid y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn cael ei darparu gan y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd drwy ffrydiau gwaith, dan gadeiryddiaeth Uwch-reolwyr. Mae'r ffrydiau gwaith yn adrodd i Fwrdd y Rhaglen bob pythefnos dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:
· Gofynnwyd pa mor debygol oedd y byddai'r Awdurdod yn cyrraedd y targed o ran dim gweithwyr asiantaeth erbyn mis Mawrth 2027. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2023/24 PWYLLGOR CRAFFU IECHYD A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ynghylch ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2023/24. Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Caffael baratoi adroddiad blynyddol sy'n egluro gweithgareddau'r Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol.
Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar raglen waith y Pwyllgor a'r materion allweddol a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am sesiynau datblygu ac am ymweliadau safle a oedd wedi'u trefnu ar gyfer y Pwyllgor, yn ogystal â data am bresenoldeb.
Wrth gyflwyno'r adroddiad, diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r Pwyllgor a'r Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Diolchodd y Pwyllgor hefyd i'r holl staff am eu hymrwymiad a'u gwaith diflino wrth ddarparu cymorth a gofal i'r rhai mewn angen yn ystod y cyfnod heriol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd 2023/24.
|
|
CYNLLUN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU IECHYD & GWASANAETHAU CYMDEITHASOL AR GYFER 2024/25 PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Blaengynllun Gwaith ar gyfer 2024/25 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cadarnhau Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2024/25 yn amodol ar ddileu'r Diweddariad ar Berfformiad Gofal Cartref o'r cyfarfod ar 25 Gorffennaf 2024.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 2AIL MAI, 2024 PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Mai 2024 yn gofnod cywir.
|