Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Iau, 21ain Mawrth, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B. Davies a K. Davies.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

SEFYLLFA GYLLIDEB Y GWASANAETHAU PLANT pdf eicon PDF 435 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr oeddent wedi gofyn amdano yn dilyn pryderon ynghylch y sefyllfa bresennol yn y Gwasanaethau Plant.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno cefndir a chyd-destun y sefyllfa gyllidebol. 

Nodwyd bod y Gwasanaethau Plant, yn chwarter cyntaf 2023-2024, wedi rhoi gwybod am orwariant amcanol o £5.3 miliwn mewn perthynas â chyllideb gyffredinol o £23 miliwn.  O ganlyniad, comisiynwyd ac arweiniwyd adolygiad gan Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnal dadansoddiad mewn perthynas â'r elfennau sy'n ysgogi'r galw a chanolbwyntio ar feysydd lle bu gorwariant sylweddol.

 

Nododd y Pwyllgor fod Cynllun Trawsnewid wedi'i lunio o'r dadansoddiad hwnnw a oedd yn ceisio rheoli'r galw yn y dyfodol a sicrhau cyllideb gytbwys.

 

Sir Gaerfyrddin oedd â'r gyfradd isaf o Blant sy'n Derbyn Gofal yng Nghymru fel arfer, ac roedd ganddi hefyd niferoedd isel o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.  Cyflawnwyd hyn drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar yn ogystal â mabwysiadu dulliau arloesol o ddiogelu yn gynnar.

 

Dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd y bu cynnydd sylweddol yn nifer y cyfarfodydd strategaeth ac ymchwiliadau Adran 47. Mynegwyd pryder unwaith eto am y diffyg gweithwyr cymdeithasol oedd ar gael a dywedwyd bod rhaglen hyfforddeion ar waith yn yr Awdurdod a fyddai'n arwain at 10 gweithiwr cymdeithasol ychwanegol.  Pryder arall a fynegwyd oedd yr angen am fwy o gapasiti a model llety newydd er mwyn lleihau'r gorwariant mewn perthynas â chyllid y Swyddfa Gartref ar gyfer plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol, yn dilyn y buddsoddiad sylweddol yn y maes gwasanaeth, ei bod yn hanfodol bod canlyniadau'n cael eu cyflawni ac y byddai'r rhain yn cael eu monitro'n ofalus. Byddai diweddariadau cynnydd rheolaidd yn cael eu rhoi i'r Pwyllgor Craffu.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt.  Dyma'r prif faterion:

 

·    Gofynnwyd i swyddogion a oedd cais am gyllid ychwanegol wedi ei wneud i'r Swyddfa Gartref.  Dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd fod y Swyddfa Gartref wedi cael ei herio ynghylch cyllid, ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac y byddent yn parhau i wneud hynny.  Byddai manylion y cyllid presennol yn cael eu dosbarthu i'r pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

·    Mewn ymateb i bryder ynghylch cost gofal y tu allan i'r sir i blant, dywedwyd bod buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud mewn tai sy'n eiddo i'r awdurdod a'r gwasanaeth maethu. 

·    Nodwyd bod y cyllid am gyfnod o ddwy flynedd. Cadarnhaodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd ei bod yn rhaglen 2 flynedd ac y byddai angen trawsnewid y gwasanaeth maethu yn llwyr.

·    Mewn ymateb i'r pryder a fynegwyd ynghylch taliadau i weithwyr maeth, gofynnwyd a oedd y lwfans yn cael ei bennu gan yr Awdurdod neu gan gorff arall.  Cadarnhaodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd fod y gyfradd yn cael ei gosod gan yr Awdurdod er bod y gyfradd isaf yn cael ei gosod gan Lywodraeth Cymru.  Tynnwyd sylw at yr angen am fframwaith talu tryloyw a dywedwyd bod y gwaith hwn yn cael ei wneud ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

STRATEGAETH ATAL AR GYFER SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr oeddent wedi gofyn amdano ynghylch y sefyllfa bresennol yn ymwneud â datblygu'r Strategaeth Atal ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

Nodwyd nad oedd strategaeth atal ar waith ar hyn o bryd ar gyfer Sir Gaerfyrddin nac ar gyfer Rhanbarth Hywel Dda a'r adroddiad agosaf o natur debyg oedd 'Atal, Ymyrraeth Gynnar, Hyrwyddo Byw'n Annibynnol Sir Gaerfyrddin: Cymuned Gydnerth' a ddatblygwyd yn 2016.  Felly, cydnabuwyd bod angen strategaeth atal wedi'i diweddaru a oedd yn ystyried y sefyllfa bresennol ac yn nodi'r weledigaeth atal ar gyfer y dyfodol.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod trefniadau llywodraethu rhanbarthol a lleol wedi cael eu datblygu gan sefydlu Bwrdd Atal Rhanbarthol.

Dywedodd swyddogion fod rhaglen waith yn datblygu'r mentrau ataliol/cymunedol gyda sefydliadau'r trydydd sector a CGGSG. Roedd hyn hefyd yn cynnwys datblygu mentrau cymdeithasol a microfentrau.

 

Roedd model Gwasanaethau Ataliol Cymunedol newydd wedi'i ddatblygu - Gwasanaethau Ataliol Trydydd Sector Sir Gaerfyrddin.  Dyluniwyd y model i greu cysylltiadau di-dor rhwng gwasanaethau sy'n helpu pobl o bob oed i aros yn annibynnol yn eu cymunedau neu i gael mynediad at ofal a chymorth mwy ffurfiol pan fo angen. Roedd ailgomisiynu'r gwasanaethau ataliol yn y trydydd sector wedi galluogi darparwyr i gydweithio i ddarparu cymorth hyblyg.  Dywedwyd bod gan bob un o'r ardaloedd lleol ddarparwr trydydd sector arweiniol, sydd, ynghyd â phartneriaid eraill y trydydd sector, yn gyfrifol am ddatblygu mentrau yn unol ag anghenion y gymuned. Roedd y platfform Connect2Carmarthenshire yn nodi’r holl weithgareddau a chynigion.

 

Nodwyd bod y datblygiad microfusnesau a mentrau cymdeithasol wedi'i lansio a fydd yn darparu amrywiaeth ehangach o gyfleoedd ar gyfer gofal a chymorth personol.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt.  Dyma'r prif faterion:

 

·    Mewn ymateb i bryder a fynegwyd ynghylch dibyniaeth darparwyr gwasanaethau ar gyllid grant tymor byr fel y Gronfa Ffyniant Gyffredin, dywedodd y Pennaeth Comisiynu Strategol ar y Cyd fod egwyddor cynaliadwyedd yn sail i bob menter.  Dywedwyd y byddai'r cyllid cychwynnol ar gael i'w cynorthwyo i roi prosiectau ar waith yn unig ac na fyddai cyllid pellach ar gael.  Byddai cymorth yn cael ei ddarparu i'w cynorthwyo i geisio cyllid arall pe bai angen.

·    Mewn ymateb i gwestiwn am y ddibyniaeth ar ddarparwyr gwasanaethau yn y trydydd sector, dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod gan y sector ran enfawr i'w chwarae ynghyd â'r Awdurdod.  Roedd angen canolbwyntio ar atal a meithrin gwytnwch er mwyn gallu ymateb i fwy o alw yn y dyfodol.

·    Gofynnwyd faint o arian a oedd wedi'i ddarparu gan y Bwrdd Iechyd i ddatblygu'r agenda ataliol ehangach.  Dywedodd y Rheolwr Darparu Gwasanaethau ar gyfer Atal a Llesiant y byddai cais am gyllid yn cael ei wneud i gronfa Clwstwr Sir Gaerfyrddin.  Nodwyd hefyd fod y Gr?p Atal wedi derbyn rhywfaint o gyllid gan Iechyd y Cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

6.

CYMORTH CYMUNEDOL A SEIBIANNAU BYR I BLANT ANABL pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r gwasanaethau i blant anabl a'u teuluoedd. Roedd yr adroddiad hwn yn crynhoi dyletswyddau'r gwasanaethau plant a strwythur presennol y tîm ac yn egluro'r heriau wrth ateb galw cynyddol am wasanaethau.

 

Nodwyd bod Sir Gaerfyrddin yn diwallu anghenion plant anabl a'u teuluoedd drwy amrywiaeth o wasanaethau seibiannau byr.  Roedd y gwasanaethau hyn yn cael eu dyrannu yn dilyn asesiad o angen a gallent gynnwys arosiadau yng nghanolfannau seibiant Llys Caradog a Blaenau, a thaliadau uniongyrchol. Yn ogystal, comisiynir cefnogaeth gan sefydliadau'r sector preifat a gwirfoddol.  Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gymunedol, gofal cartref ac amrywiaeth o glybiau a gweithgareddau arbenigol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am y camau nesaf, dywedodd swyddogion y bydd polisi'n cael ei ddatblygu gan ymgynghori â theuluoedd a fyddai'n sicrhau y byddai dyrannu adnoddau yn deg, yn dryloyw ac yn cyfateb yn well i lefel yr angen.

 

Gofynnwyd pa ganran o ddefnyddwyr gwasanaeth oedd yn cael taliadau'n uniongyrchol yn hytrach na'r rhai â chyfrifoldebau rhiant/gofalwr.  Dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd y byddai'r wybodaeth yn cael ei darparu yn dilyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar  31 Rhagfyr, 2023, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2023/24.

 

Roedd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhagweld gorwariant o £10,192k ar y gyllideb refeniw. Dangosodd y prif amrywiadau ar gynlluniau cyfalaf amrywiant disgwyliedig o -£286k yn erbyn cyllideb net o £1,907k ar brosiectau gofal cymdeithasol, ac amrywiad o £3k yn erbyn cyllideb net prosiectau'r Gwasanaethau Plant o £517k.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt.  Dyma'r prif faterion:

 

·    Gofynnwyd a oedd unrhyw newidiadau sylweddol wedi'u rhagweld hyd at ddiwedd mis Mawrth.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod yr adroddiad yn seiliedig ar y ffigyrau gwirioneddol ar ddiwedd mis Rhagfyr a bod yr amcanestyniadau yn seiliedig ar y ffigurau a'r tueddiadau diweddaraf a oedd yn rhoi sicrwydd bod y rhagolygon yn gywir. Dywedwyd y gallai hyn newid yn unol ag unrhyw gynnydd posibl yn y galw am wasanaethau.

·    Gan gyfeirio at Atodiad F – Byw â Chymorth, gofynnwyd a oedd unrhyw arbedion effeithlonrwydd yn cael eu rhagweld o ystyried cymhlethdod y galw.  Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod y maes hwn wedi bod yn arbennig o heriol, a bod gwaith sylweddol wedi cael ei wneud.  Roedd hyn yn cynnwys sicrhau maint cywir pecynnau cymorth, 'camu i lawr' 32 o bobl i fyw'n fwy annibynnol, a datblygu cynlluniau llety amgen. Pwysleisiwyd yr angen am wasanaeth cynaliadwy a phwysigrwydd ymyrraeth gynnar ac atal.  Roedd yr orddibyniaeth flaenorol ar ofal preswyl bellach yn lleihau a oedd wedi arwain at ganlyniadau gwell i unigolion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CHWARTER 3 2023/24 SY'N BERTHNASOL I'R MAES CRAFFU HWN GWELEDIGAETH, CAMAU GWEITHREDU A MESUR Y CABINET pdf eicon PDF 179 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad - Chwarter 3 2023/24 am y Camau Gweithredu a'r Mesurau sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Craffu hwn o ran Gweledigaeth y Cabinet. Dangosodd yr adroddiad y cynnydd fel yr oedd ar ddiwedd Chwarter 3 – 2023/24 o ran cyflawni yn erbyn Gweledigaeth y Cabinet.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt.   Dyma'r prif faterion:

 

·    Mewn ymateb i ymholiad ynghylch beth fyddai ehangu mynediad at gymorth i blant ac oedolion agored i niwed yn ei olygu yn Sir Gaerfyrddin, dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod y ffocws ar atal a bod atal ym maes iechyd meddwl oedolion yn dechrau gyda phlant a bod darparu cymorth cynnar i blant a phobl ifanc â phroblemau emosiynol ac iechyd meddwl hefyd yn flaenoriaeth i'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.  Cyfeiriwyd at y data a gyhoeddwyd yn ddiweddar a oedd yn dangos llwybr i Gymru a oedd yn achos pryder, lle roedd y ffigurau yn cynyddu. Cadarnhaodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod sesiwn ddatblygu wedi'i threfnu gyda'r Pwyllgor lle byddai gwybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu.

·    Gofynnwyd a oedd yr amseroedd aros ar gyfer atgyfeiriadau seiciatrig wedi gwella. Dywedwyd wrth y Pwyllgor, yn anffodus, fod yn rhaid i blant aros am atgyfeiriadau o hyd, ond gwelwyd rhywfaint o welliant wrth gyflwyno'r gwasanaeth 111 a lansiwyd yn 2022 (Un Pwynt Mynediad). 

·    Gan gyfeirio at y problemau yn ymwneud â chanran y bobl a gyfeiriwyd at y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) gofynnwyd am wybodaeth ychwanegol am beth oedd y problemau.  Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y byddai'n gofyn i'r Pennaeth Hamdden am y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD - CWARTER 3 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 3, a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol a'r Amcanion Llesiant oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor.

 

Nododd y Pwyllgor fod 94% o'r camau gweithredu a'r mesurau ar y trywydd iawn yn gyffredinol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION A THREFNIADAU DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID (DOLS) (2022/23) pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn manylu ar y rôl, y swyddogaethau a'r gweithgareddau a wnaed gan yr Awdurdod mewn perthynas â Diogelu Oedolion a'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar gyd-destun presennol Diogelu/DoLS a'r trefniadau yr oedd yr Awdurdod Lleol wedi'u rhoi ar waith. Dywedwyd wrth y Pwyllgor, fel y sefydliad statudol sy'n gyfrifol am ddiogelu oedolion, ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod gael trefniadau effeithiol i sicrhau bod oedolion mewn perygl yn cael eu diogelu rhag niwed. Roedd yr Awdurdod Lleol yn cyflawni'r rôl hon mewn partneriaeth agos â Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a sefydliadau statudol ac anstatudol eraill.

 

Nododd y Pwyllgor mai'r Awdurdod Lleol oedd y corff Goruchwylio hefyd ar gyfer Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid a oedd yn sicrhau bod rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed yn cael eu diogelu'n briodol.

 

Dywedodd swyddogion nad oedd y fframwaith (diogelu) cyfreithiol newydd arfaethedig ar gyfer craffu ac awdurdodi Amddifadu o Ryddid wedi'i gwblhau a'i ddosbarthu eto gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.   

 

Cyfeiriwyd at y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol a ddarparodd y cyfeiriad strategol a'r trefniadau llywodraethu ar gyfer diogelu oedolion yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ac a gryfhaodd ddull Sir Gaerfyrddin o sicrhau hawliau pob unigolyn i fyw bywyd heb gael ei gam-drin na’i esgeuluso.

 

Dywedodd swyddogion y barnwyd nad oedd y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yn “addas i'r diben”, a hynny'n rhannol oherwydd y gofyniad i ailasesu pobl yn anghymesur yn flynyddol pan oedd yn annhebygol y byddai eu hamgylchiadau'n newid.  Dywedwyd bod y trefniadau DoLS presennol, yn dilyn ymgynghoriad, yn cael eu disodli gan ddeddfwriaeth newydd, a'u hailenwi'n Ddiogeliadau Amddiffyn Rhyddid. Y dyddiad cychwynnol ar gyfer cyflwyno Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid oedd Hydref 2020 ond roedd y dyddiad hwn wedi newid sawl gwaith ac nid oedd dyddiad wedi'i gadarnhau eto.

 

Yn dilyn ymholiad a wnaed mewn perthynas â'r amwysedd ynghylch yr amserlen 7 diwrnod, eglurwyd bod y 7 diwrnod yn glir ond mai'r disgwyliadau o'r hyn yr oedd angen ei gyflawni o fewn y 7 diwrnod oedd yn amwys.  Mewn achos lle roedd angen ymchwiliad gan yr heddlu, ni fyddai modd cyflawni hyn o fewn 7 diwrnod.  Roedd gwaith partneriaeth yn mynd rhagddo i ddatblygu gweithdrefn a rhoi eglurder i ymarferwyr ynghylch yr hyn sydd angen ei sefydlu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

11.

BYRDDAU DIOGELU PLANT AC OEDOLION CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022-23 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o amcanion a chyflawniadau Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion Canolbarth a Gorllewin Cymru ac yn amlinellu'r cynnydd a wnaed yn erbyn y canlyniadau a bennwyd gan CYSUR a CWMPAS fel rhan o'r Cynllun Strategol Blynyddol ar y cyd.

 

Cyfeiriwyd at y buddsoddiad a'r amser sylweddol a roddwyd drwy gydol y flwyddyn i gefnogi datblygu proses newydd yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SURS), gan gynnwys datblygu'r canllawiau statudol drafft a gyhoeddwyd yn gynnar yn y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

12.

POLISI DIOGELU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r Polisi Diogelu Corfforaethol.

 

Cyfeiriwyd at adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru a gynhaliwyd rhwng mis Gorffennaf a mis Awst 2023 a oedd yn argymell adolygu'r Polisi Diogelu Corfforaethol sy'n ymdrin â holl feysydd gwasanaeth y cyngor.  

 

Mae'r polisi'n nodi'r cyfrifoldebau unigol ac ar y cyd mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl ac yn sefydlu strwythur llywodraethu a oedd yn goruchwylio'r trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl. Mae'n nodi'r dulliau a fyddai'n rhoi sicrwydd i'r Cyngor ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau a bod arferion effeithiol ar waith i gynorthwyo unigolion i fyw eu bywyd yn rhydd o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod mewn ystod eang o leoliadau gan gynnwys y cartref, yr ysbyty, yr ysgol, amgylcheddau dysgu, grwpiau cyfoedion/cyfeillgarwch, cymdogaethau, cymunedau a mannau ar-lein.

 

Dywedodd swyddogion fod y Polisi Diogelu Corfforaethol yn darparu fframwaith ar gyfer pob Cyfarwyddiaeth a Maes Gwasanaeth o fewn ac ar draws y Cyngor ac yn nodi'r dulliau a fyddai'n rhoi sicrwydd i'r Cyngor ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau a bod arferion effeithiol ar waith i gynorthwyo unigolion i fyw eu bywyd yn rhydd o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod mewn ystod eang o leoliadau gan gynnwys y cartref, yr ysbyty, yr ysgol, amgylcheddau dysgu, grwpiau cyfoedion/cyfeillgarwch, cymdogaethau, cymunedau a mannau ar-lein.

 

Nododd y Pwyllgor fod sesiynau ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff wedi'u trefnu a bod sesiwn briffio wedi'i threfnu ar gyfer yr aelodau ar 8 Mai. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

13.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:

 

·         Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol 10 mlynedd

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

14.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 2 Mai 2024, ynghyd â chynnwys yr adroddiad ynghylch sefyllfa gyllidebol y Gwasanaethau Plant.

 

15.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 25AIN IONAWR, 2024 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 25 Ionawr 2024 gan eu bod yn gywir.