Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Iau, 2ail Mai, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 29 Chwefror, 2024, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2023/24.

 

Roedd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhagweld gorwariant o £9,729k ar y gyllideb refeniw. Dangosodd y prif amrywiadau ar gynlluniau cyfalaf amrywiant disgwyliedig o -£267k yn erbyn cyllideb net o £1,918k ar brosiectau gofal cymdeithasol, ac amrywiad o -£0k yn erbyn cyllideb net prosiectau'r Gwasanaethau Plant o £716k.

 

Amlygodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y gorwariant cyllidebol a ragwelir ar Wasanaethau Plant o bryder sylweddol i sefyllfa'r gyllideb gorfforaethol, a bod gweithgor wedi ymchwilio i'r rhesymau dros hyn fel y gellir rheoli'r galw yn y dyfodol a chyflawni cyllideb gytbwys.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:

 

Atodiad A-C -

·    Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad asiantaeth fewnol yn Llanelli ar sail cynllun peilot, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y cynllun peilot wedi bod yn gwneud cynnydd ond ei fod dal yn ddyddiau cynnar. Nodwyd y byddai diweddariad pellach yn cael ei roi yn y cyfarfod nesaf.

·    Mewn perthynas â'r gorwariant o £3.5m mewn Lleoliadau Preswyl a Gomisiynir, gofynnwyd a oedd y gyllideb a ragwelir yn y dyfodol wedi'i hailbroffilio i ystyried yr arbedion posibl a fyddai'n cael eu creu drwy ddarparu capasiti mewnol. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod hwn yn faes sy'n peri pryder i'r Awdurdod. Roedd gan rai achosion anghenion cymhleth iawn ac ar hyn o bryd nid oedd darpariaeth ar gael yng Nghymru i fodloni'r gofynion. Nodwyd fel enghraifft fod un lleoliad yn costio £20k yr wythnos i'r Awdurdod ar hyn o bryd. Gan fod y gwasanaeth yn cael ei arwain gan y galw, roedd yn anodd rhagweld. Dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd nad oedd capasiti gweithwyr cymdeithasol wedi'i ddiwallu eto ac roedd angen pellach i gynyddu lleoliadau gofal maeth a oedd wedi gostwng oherwydd y pandemig. Byddai'r strategaethau datblygol yn galluogi'r adran i reoli'r galw i gefnogi plant a'u teuluoedd o fewn y gyllideb a bennwyd gan yr Awdurdod. Yn ogystal, dywedodd Cyfrifydd y Gr?p fod swm sylweddol wedi'i ddyrannu i Wasanaethau Plant a Theuluoedd i helpu i gydbwyso'r angen uniongyrchol a'r cyllid tymor hwy wrth i'r strategaethau newydd ddod i rym. Trwy'r Cynllun Trawsnewid byddai'r gyllideb yn cael ei monitro a'i hadolygu'n ofalus. Pan ofynnwyd am gadarnhad ynghylch ailbroffilio'r gyllideb, dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd fod y gwasanaeth mewnol oddeutu hanner cost y ddarpariaeth bresennol a'i fod wedi'i broffilio i'r gyllideb er mwyn gallu cyflawni cyllideb gytbwys.

·    Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â'r gorwariant o ran Plant heb Gwmni Oedolyn sy'n Ceisio Lloches, gofynnwyd a oedd yr Awdurdod wedi cyrraedd yr uchafswm o ran nifer y plant a nodir. Dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd nad oedd y ffigwr wedi'i gyrraedd ac o dan y gymhareb a ddarparwyd gan y Swyddfa Gartref yr uchafswm oedd 37 o blant  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

DIWEDDARIAD PERFFORMIAD GOFAL CARTREF pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr oedd wedi gofyn amdano yn ymwneud â'r pwysau presennol ar ofal cartref, a'r effaith yr oedd hyn yn ei chael ar ryddhau cleifion o ysbytai. Bwriad yr adroddiad oedd rhoi sicrwydd bod cleifion yn cael cefnogaeth ddiogel i adael yr ysbyty ac roedd yn amlinellu'r pwysau a sut roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymateb i'r pwysau hynny.

 

Yr adroddiad hwn oedd y pedwerydd diweddariad yr oedd y Pwyllgor wedi'i gael a oedd yn cynnwys y data diweddaraf a gasglwyd hyd at ganol Mawrth 2024.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r cynnydd yn nifer y gweithwyr tramor sy'n gwneud cais am nawdd, gofynnwyd pam nad oedd yr Awdurdod wedi gallu cefnogi'r ceisiadau hyn. Nid oedd y swyddogion a oedd yn bresennol yn gallu ateb ond byddent yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

Mewn ymateb i gyfeiriad at y dull cadarn o reoli salwch a'r hyn yr oedd yn ei olygu yn ymarferol, dywedodd swyddogion y byddent yn cael ymateb llawn gan y Rheolwr Gofal Cartref ar ôl y cyfarfod.

 

Gofynnwyd i swyddogion ddarparu enghreifftiau o sut y cynyddwyd cynhyrchiant fel bod y gwasanaeth yn fwy cost effeithiol. Dywedodd yr Uwch Reolwr Cyflenwi Gofal Hirdymor fod model gofal yn y cartref gyda phileri gofal megis y Gwasanaeth Asesu Cymunedol, y Gwasanaeth Ailalluogi a'r Gwasanaeth Rhyddhau Amser i Ofalu. O ran y gwasanaeth ailalluogi (y llif o'r ysbyty neu atal derbyniadau i'r ysbyty) ar gyfer y bobl a oedd yn cael gofal cartref am y tro cyntaf, roedd strategaeth adsefydlu wedi cael ei rhoi ar waith i hyrwyddo annibyniaeth. 

 

Mewn perthynas â Thaliadau Uniongyrchol, gofynnwyd a oedd amcangyfrif ar gael o nifer yr achosion sy'n derbyn taliadau uniongyrchol a'r gyfran oedd yn aros am becynnau gofal. Nododd yr Uwch-reolwr ar gyfer Gwasanaethau Plant a Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod y Pwyllgor wedi gofyn cwestiwn tebyg o'r blaen ac awgrymodd y dylid darparu adroddiad manwl mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol ar draws y gwahanol grwpiau poblogaeth gan gynnwys y math o gymorth mewn cyfarfod y pwyllgor yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a bod Adroddiad Taliad Uniongyrchol yn cael ei gynnwys yn y Blaengynllun Gwaith.

 

6.

GRWP GORCHWYL A GORFFEN 2023/24 - 'DECHRAU EGNÏOL AC IACH' pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad diwygiedig y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yr oedd wedi cytuno i'w sefydlu yn ei gyfarfod ar 5 Gorffennaf 2023, er mwyn datblygu cynllun gweithredu i helpu i leihau nifer yr achosion o ordewdra yn ystod plentyndod yn Sir Gaerfyrddin. 

 

Lluniwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Gr?p ar ôl ystyried ystod o dystiolaeth dros gyfres o gyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng mis Medi 2023 a mis Mawrth 2024.

 

Diolchodd y Cadeirydd a'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen i'r swyddogion am yr holl waith ac arweiniad a roddwyd wrth lunio'r adroddiad. Diolch hefyd i'r sefydliadau amrywiol yr ymgynghorwyd â hwy yn ystod y cyfnod ymchwilio.

 

Tynnodd y Pwyllgor sylw at bryderon ynghylch effaith anghydraddoldeb ar ordewdra a phwysleisiwyd pwysigrwydd cydweithio wrth fynd i'r afael ag achosion o ordewdra yn ystod plentyndod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad a'i gyfeirio i'r Cabinet i'w ystyried.

 

7.

STRATEGAETH CYMORTH I DEULUOEDD pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr oeddent wedi gofyn amdano ynghylch datblygu'r Strategaeth Cymorth i Deuluoedd. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y disgwylir i'r Strategaeth Cymorth i Deuluoedd gael ei diweddaru ac y byddai'r Strategaeth Cymorth Cynnar yn cael ei rhoi ar waith yn ei lle.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi'r rhesymeg, y dull a'r amserlen ar gyfer datblygu'r Strategaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLdderbyn yr adroddiad ac ychwanegu diweddariadau ar y Strategaeth Cymorth Cynnar i'r Blaengynllun Gwaith.

 

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 21AIN MAWRTH, 2024 pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2024, gan eu bod yn gywir.