Agenda a Chofnodion

Wedi'i Ailgynnull, Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd - Dydd Gwener, 22ain Mawrth, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, S. Godfrey-Coles, T. Higgins a G.B. Thomas.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

 

 

3.

RHEOLI TRAETHLIN AC ADDASU ARFORDIROL YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Cadeirydd, yn ei gyfarfod ar 13 Mawrth 2024, ei fod wedi gohirio ystyried y mater uchod oherwydd anawsterau technegol, ac aildrefnwyd y cyfarfod ar gyfer y diwrnod hwnnw er mwyn i'r Pwyllgor barhau ei drafodaethau ynghylch y Cynllun Rheoli Traethlin ac Addasu Arfordirol yn Sir Gaerfyrddin ynghyd â'r eitemau oedd yn weddill ar yr agenda.

 

Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad:

 

·       Cyfeiriwyd at yr 87 o gamau gweithredu o fewn y cynllun rheoli traethlin sy'n ymwneud ag Arfordir Sir Gaerfyrddin, yr Hendy i Bentywyn. Cadarnhawyd eu bod yn cael eu craffu gan Grwp Peirianneg Arfordirol Abertawe a Bae Caerfyrddin sydd, yn ei dro, yn adroddi  Gyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.

 

·       Cadarnhawyd y byddai unrhyw waith amddiffyn rhag llifogydd sydd i'w wneud ar yr arfordir ger arfordir Sir Gaerfyrddin yn destun asesiad effaith llawn cyn iddynt ddechrau.

 

·       O ran effaith adeiladu ar orlifdiroedd / ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai unrhyw ddatblygiad o'r fath yn destun darpariaethau Nodyn Cyngor Technegol Rhif 15 Llywodraeth Cymru: Datblygu, Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Roedd y nodyn hwnnw'n cael ei adolygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru, ac mae disgwyl cyhoeddiad yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Yn dilyn cyhoeddi, byddai ei ddarpariaethau yn cael eu bwydo i'r cynllun datblygu lleol.

 

·       O ran yr effaith bosibl y gallai carthu tywod oddi ar y glannau ei chael ar yr arfordir, cadarnhawyd mai'r cyfrifoldeb dros roi trwyddedau carthu oedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Gallai'r Cyngor, fodd bynnag, gyflwyno sylwadau i'r corff hwnnw mewn perthynas ag unrhyw garthu yr ystyriai a allai effeithio ar arfordir y Sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

3.1

Dderbyn adroddiad Rheoli Traethlin ac Addasu Arfordirol yn Sir Gaerfyrddin.

 

3.2

Bod y Pwyllgor yn cynnal ymweliadau safle i weld gwaith amddiffyn arfordirol a wneir yn Sir Gaerfyrddin ac ardaloedd yr ystyrir eu bod yn beryglus ac yn aros am waith.

 

 

 

4.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau i gael eu cynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf oedd i'w gynnal ar 22 Ebrill 2024 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am unrhyw wybodaeth benodol yr hoffai'r Aelodau ei chynnwys yn yr adroddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno ar y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 22 Ebrill 2024.

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 30 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: