Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd - Dydd Llun, 11eg Mawrth, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Allen, P. Cooper, J. James, T.A.J. Davies a T. Higgins.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

Codwyd, gan fod yr eitem hon yn eitem agenda sefydlog, y dylid gwneud mwy o waith hyrwyddo i annog cwestiynau cyhoeddus.  Bydd Aelodau'r Cabinet yn gweithio gyda'r tîm Cyfathrebu i ystyried hyrwyddo'r meysydd i'w craffu yn unol â Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor.

 

 

4.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 3 - 2023/24 (01/04/23-31/12/23) YN BRIODOL I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad a oedd yn darparu'r cynnydd ar ddiwedd Chwarter 3 2023/24.  Fel rhan o'u rôl i graffu ar berfformiad, ystyriodd yr Aelodau y cynnydd ar y camau gweithredu sy'n berthnasol i'r Pwyllgor hwn a oedd yn gysylltiedig â'r camau gweithredu a'r mesurau sy'n gysylltiedig â Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027 ac amcanion llesiant.

 

Cyflwynodd yr Aelodau Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Gwasanaethau Cynaliadwyedd a Thrafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith y meysydd yn eu portffolio.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at yr adran g?ynion ar dudalen 2 yr adroddiad.  Dywedwyd gan fod y ffigurau oddi ar y targed a oedd rhywbeth y gellid ei wneud i wella'r rhain?  Dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod nifer o g?ynion yn gymhleth yn eu natur, yn aml yn cymryd mwy o amser i ymchwilio iddynt a fyddai wedyn yn mynd y tu hwnt i'r targed 14 diwrnod.  Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau bod yr achwynydd yn cael gwybod bob amser am linell amser y g?yn.

 

·       Cyfeiriwyd at gam gweithredu 16559 - Gweithredu System Rheoli Priffyrdd wedi'i diweddaru i ddarparu polisi archwilio ac atgyweirio seiliedig ar risg.  Gofynnwyd a oedd y rhaglen atgyweirio wedi gwella ers gweithredu'r system?  Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith fod y system rheoli priffyrdd bresennol wedi'i diweddaru i weithredu'r dull seiliedig ar risg ar gyfer archwilio ac atgyweirio yn unol â'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd sy'n nodi'r blaenoriaethau ar gyfer atgyweiriadau ar y rhwydwaith ffyrdd. 

 

Mynegwyd pryder fod y targed o 90 diwrnod i atgyweirio diffyg ar y ffordd yn sgil cwyn yn rhy hir a bod angen adolygu hyn gan fod y ffyrdd gwledig yn arbennig yn dioddef.  Codwyd sylw ychwanegol i gefnogi y gallai llawer ddigwydd mewn 90 diwrnod a oedd yn ymestyn y risg o atebolrwydd i'r Awdurdod gynyddu hawliadau yswiriant posibl.

 

·       Cyfeiriwyd at nifer y cwynion cam 1 a ddyfynnir ar dudalen 2 yr adroddiad.  Mynegwyd siom yngl?n â'r ffigurau a ddyfynnir - allan o 253 o g?ynion dim ond 161 yr ymdriniwyd â nhw yn unol â'r amserlen.  Yn ogystal, o ran cwynion cam 2 – oddi ar y targed, dywedwyd nad oedd y datganiad a ddarparwyd yn weithred adferol - 'nid yw'n bosibl i uwch-swyddogion gwblhau'r ymchwiliad’.  Teimlwyd bod hyn yn ffordd arall o ddweud nad oedd digon o adnoddau i reoli'r sefyllfa.  Cytunodd y Rheolwr Gwella Busnes nad oedd y data mewn perthynas â chwynion cam 1 yn ddelfrydol, wrth gydnabod bod y galw ar amser swyddogion yn achosi problem yr oedd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.  Fel y nodwyd yn gynharach, roedd cwynion cam 2 yn fwy cymhleth gan gymryd mwy o amser i ymchwilio iddynt, ond trafodwyd hyn gyda'r achwynydd.

 

·       Yn ogystal â chydnabod dirywiad parhaus ffyrdd diddosbarth, tynnwyd sylw at 3 chwarter yr adroddiadau a oedd ar y targed a chafodd canmoliaeth ei chyfleu i'r tîm ar y cyflawniad hwn.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch yr arwyddion 20mya, dywedodd y Pennaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

DATBLYGIAD POSIBL ASIANTAETH RHEOLI PLÂU FEWNOL pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am y datblygiad posibl o Asiantaeth Rheoli Plâu Fewnol. 

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, wrth gyflwyno'r adroddiad i'r Pwyllgor, roi eu barn ynghylch a ddylai swyddogion baratoi achos busnes manwl fel rhan o'r broses cyn penderfynu ar gyfer datblygu polisi cyn ei gyflwyno i'r Cabinet.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Rhoddwyd adborth cadarnhaol o ran syniad a chynnwys yr adroddiad, teimlwyd y byddai datblygu gwasanaeth rheoli plâu mewnol yn fuddiol ac yn cael canlyniad cadarnhaol.

 

·       Dywedwyd er nad yw pob cwmni preifat yn ystyried y rhesymau cyfannol ehangach ynghylch pam fod llygod mawr yn broblem, roedd hwn yn faes y gallai'r Cyngor ei gyflawni.


 

·       Cynigiwyd cyflwyno'r achos busnes datblygedig i'r Pwyllgor Craffu i'w ystyried ymhellach.  Byddai hyn yn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried y manylion gan gynnwys costau ac adnoddau.  Eiliwyd y cynnig hwn.

 

·       Mynegwyd fod angen i'r gwasanaeth a ddarperir gan yr Awdurdod fod yn fwy ymatebol wrth ddatblygu achos busnes yn erbyn unrhyw ddarpariaeth fasnachol a chytunwyd bod y dull cyfannol yn ffactor pwysig.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CABINET:- 

5.1 fod achos busnes manwl ar gyfer datblygu Asiantaeth Rheoli Plâu fewnol fel rhan o'r broses cyn benderfynu ar gyfer datblygu polisïau yn cael ei greu.

5.2 darparu datblygiad yr achos busnes manwl i'r Pwyllgor Craffu i'w ystyried.

 

 

6.

RHEOLI TRAETHLIN AC ADDASU ARFORDIROL YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar Reoli Traethlin ac Addasu Arfordirol yn Sir Gaerfyrddin er mwyn gwneud sylwadau.

 

Amlygodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, er bod yr Aelodau wedi derbyn yr adroddiad ar gyfer craffu drwy e-bost yn ddiweddarach ym mis Hydref a mis Tachwedd y llynedd, cafodd ei roi ar yr agenda ffurfiol ar gyfer sylwadau pellach. 

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau fod llythyr wedi'i anfon at y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ran y Pwyllgor yn gofyn am gyllid ychwanegol yn yr ymgais i helpu i frwydro yn erbyn glaw a stormydd niweidiol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.

 

·       Wrth gydnabod bod gan Sir Gaerfyrddin 90km o arfordir i'w reoli, gwnaed nifer o sylwadau mewn perthynas â'r penderfyniadau anodd y bu'n rhaid eu gwneud i wario arian ar amddiffynfeydd.  Roedd cydbwyso'r angen am beirianneg galed neu ail-alinio wedi'i reoli yn benderfyniad anodd ac mae tua 2300 o gartrefi preswyl mewn perygl o erydu arfordirol.


 

·       Er mwyn dangos i'r Aelodau y gwaith amddiffyn a oedd ar waith a'r materion sy'n codi, awgrymwyd bod y Pwyllgor yn ystyried trefnu ymweliad safle i weld ardaloedd lle gwnaed gwaith o ran amddiffyn yr arfordir a'r hyn a ystyriwyd yn beryglus wrth aros am waith.  Byddai swyddogion yn ystyried safleoedd priodol i'r Pwyllgor ymweld â nhw.

 

·       Cyfeiriwyd at dudalen 4 yr adroddiad.  O ran caffael yr arolwg topograffig o'r arfordir, gofynnwyd a oedd Awdurdodau eraill wedi talu i'r gwaith hwn gael ei wneud neu a oedd yr Awdurdod hwn wedi ei brynu ar ei ben ei hun?  Eglurodd y Rheolwr Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir, er bod Canolfan Monitro Arfordirol Cymru yn comisiynu arolwg gwaelodlin, fod yr Awdurdod hwn wedi gofyn am waith ychwanegol yn bennaf oherwydd cymhlethdod ardal y tair afon i sicrhau darpariaeth lawn.

 

·       Cyfeiriwyd at bwynt 6, tudalen 6 o'r adroddiad.  O ran ymgysylltu â thirfeddianwyr a datblygwyr safleoedd diwydiannol a chyn-ddiwydiannol, gofynnwyd a ellid darparu mwy o wybodaeth mewn perthynas â natur yr ymgysylltu â thirfeddianwyr.  Eglurodd y Rheolwr Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir fod cyllid wedi ei dderbyn ar gyfer Swyddog Addasu Arfordirol newydd.  Byddai'r rôl hon yn gweithio yn y gymuned, gan gysylltu â'r cymunedau hynny sydd mewn perygl o lifogydd a rhannu pa gamau yr hoffent eu cyflawni a'u gweithredu. 


 

 

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Oherwyddanawsterau technegol, cafodd yr eitem hon ei hystyried yn y cyfarfod a ailymgynullwyd ar 22 Mawrth 2024

 

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 30 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Oherwyddanawsterau technegol, cafodd yr eitem hon ei hystyried yn y cyfarfod a ailymgynullwyd ar 22 Mawrth 2024