Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: |
|||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 12 CHWEFROR 2024 Cofnodion: |
|||||||||||||||
TALIADAU HAMDDEN 2024-25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod Cabinet yr adroddiad ynghylch Taliadau Hamdden 2024-25 a oedd yn gofyn am gymeradwyo'r taliadau arfaethedig a oedd yn ffurfio rhan o'r cynllun cynhyrchu incwm ar gyfer yr is-adran hamdden yn 2024-25. Roedd yr adroddiad yn cynnwys taliadau ar gyfer yr is-adrannau canlynol o fewn Gwasanaethau Hamdden a hefyd yn manylu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys grymoedd y farchnad, a oedd wedi dylanwadu ar lefel arfaethedig y taliadau:-
· Gwasanaethau Diwylliannol (Y Celfyddydau, Amgueddfeydd, Theatrau a'r Gwasanaeth Archifau) · Lleoliadau Hamdden a Chwaraeon (Canolfannau Hamdden, pyllau nofio, cynnyrch ar-lein Actif a Thaliadau Chwaraeon Cymunedol Actif) · Hamdden Awyr Agored (Parciau Gwledig, gan gynnwys Parc Arfordirol y Mileniwm, SafleProsiect Denu Pentywyn; a'r Gwasanaeth Addysg Awyr Agored
PENDERFYNWYD bod y fframwaith Taliadau Hamdden ar gyfer 2024-25 fel y nodir yn yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo. |
|||||||||||||||
CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN - GRANT YMCHWIL A DATBLYGU BUSNES Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi cynnig i ddatblygu Grant Ymchwil a Datblygu newydd i'w ariannu drwy'r Angor Busnes o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Nodwyd y byddai cyfanswm o £250k ar gael yn y gyllideb a ddyrannwyd o dan y prosiect angori busnes a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelod Cabinet fod tîm busnes y Gronfa Cychwyn Busnes a Thwf Busnes wedi nodi nifer o fusnesau a oedd yn ceisio cynnal gweithgareddau yn ymwneud â chamau cynnar iawn ymchwil a datblygu, astudiaethau hyfywedd, prototeipio ac ati, fodd bynnag, ni ellid darparu cymorth o dan y Gronfa gan na fyddai canlyniadau diogelu swyddi a/neu greu swyddi yn cael eu cyflawni o fewn y cyfnod cyllido. Yn unol â hynny, o ystyried natur hanfodol Ymchwil a Datblygu yn y camau datblygu ar gyfer y busnesau hynny, cynigiwyd bod grant ar gael i dalu costau gwariant penodol o ran Ymchwil a Datblygu.
Ystyriwyd y meini prawf cymhwysedd a'r costau arfaethedig, ynghyd â'r canlyniadau arfaethedig, y cynnig grant a'r opsiynau amgen, fel y nodir yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD cyflwyno Grant Ymchwil a Datblygu newydd gwerth £250k fel rhan o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin – Angor Busnes, i ddiwallu anghenion busnesau ac er mwyn cyflawni cyllideb ac allbynnau'r prosiect. |
|||||||||||||||
CRONFA GYLLID WEDI'I THARGEDU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cyllid a Dargedir yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
|
|||||||||||||||
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf. |
|||||||||||||||
CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN - CRONFA YNNI ADNEWYDDADWY BUSNES Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 6 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnes a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i geisiadau prosiect a oedd wedi dod i law gan ddau fusnes a oedd yn gofyn am gymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes, a oedd yn galluogi busnesau i ymgymryd â phrosiectau gwella ynni adnewyddadwy gan arwain at arbedion effeithlonrwydd busnes a lleihau carbon.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r prosiectau a gyflwynwyd i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes fel y manylir yn yr adroddiad. |
|||||||||||||||
CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN - CRONFA DECHRAU BUSNES A THWF Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 6 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeisydd. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnes a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i gais prosiect a oedd wedi dod i law gan fusnes a oedd yn ceisio cymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Grant Cychwyn Busnes a Thyfu Busnes, a'i nod oedd helpu busnesau i ddechrau, cynnal, tyfu a chreu swyddi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r prosiect a gyflwynwyd i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Grant Cychwyn Busnes a Thyfu Busnes fel y manylir yn yr adroddiad. |