Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: |
|||||||||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18 IONAWR 2024 Cofnodion: |
|||||||||||||||||||||||||||||
RHAGLEN DEG TREF (CRONFA CYFALAF) Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i gais a gyflwynwyd fel rhan o gronfa gyfalaf y Deg Tref.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa Gyfalaf y 10 Tref yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
|
|||||||||||||||||||||||||||||
RHAGLEN DEG TREF (CRONFA REFENIW) Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i gais a gyflwynwyd fel rhan o gronfa refeniw y Deg Tref.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa Refeniw y 10 Tref yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
|
|||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf. |
|||||||||||||||||||||||||||||
CYMUNEDAU MENTRUS Cofnodion:
Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, roedd budd y cyhoedd o ran cynnal cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, oherwydd gallai datgelu'r wybodaeth hon danseilio'n annheg sefyllfa'r sefydliadau dan sylw mewn perthynas â sefydliadau eraill sy'n gweithredu yn yr un maes o ran gweithgarwch economaidd.
PENDERFYNWYD:
|
|||||||||||||||||||||||||||||
CRONFA YNNI ADNEWYDDADWY BUSNES Cofnodion:
Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnes a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i gais prosiect a oedd wedi dod i law gan fusnes a oedd yn gofyn am gymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes, a oedd yn galluogi busnesau i ymgymryd â phrosiectau gwella ynni adnewyddadwy gan arwain at arbedion effeithlonrwydd busnes a lleihau carbon.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r prosiect a gyflwynwyd i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes fel y manylir yn yr adroddiad. |