Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kelly Evans 01267 224178
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: |
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 13 RHAGFYR 2023 Cofnodion: |
|||||||
CYNLLUN ANGOR GWLEDIG Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar y bwriad i sefydlu dwy gronfa newydd fel rhan o'r Cynllun Angor Gwledig a ariennir drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Rhoddwyd gwybod i'r Aelod Cabinet y byddai Cronfa Ddigwyddiadau y Deg Tref yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y trefi ac yn gwella'r canfyddiad o ddigwyddiadau lleol. Petaent yn llwyddiannus, byddai'r ymgeiswyr yn cael hyfforddiant ar Becyn Cymorth Digwyddiadau Sir Gaerfyrddin i roi cymorth iddynt â materion fel cynllunio digwyddiadau, trwyddedu, marchnata a hyrwyddo. Nodwyd y byddai gan y Gronfa Economi Gylchol gyllid sbarduno o hyd at uchafswm o £5k i gefnogi cymunedau i ddatblygu gweithgareddau economi gylchol gan gynnwys cyfleusterau atgyweirio ac ailddefnyddio yng nghanol trefi. PENDERFYNWYD: 3.1 cymeradwyo sefydlu Cronfa Ddigwyddiadau y Deg Tref, fel y nodir yn yr adroddiad; a 3.2 bod y Gronfa Economi Gylchol, fel y nodir yn yr adroddiad, yn cael ei chymeradwyo.
|
|||||||
Y RHAGLEN DEG TREF (CRONFA REFENIW) Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa Refeniw y 10 Tref yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
|