Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 19 Ionawr 2023, gan ei fod yn gywir. |
|||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd yr Aelod Cabinet fod y Cabinet wedi derbyn argymhelliad y Bartneriaeth Adfywio yn flaenorol ar y modelau cyflawni ar gyfer gweithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer y themâu/prosiectau canlynol:
· Rhaglenni Angor - Rhaglenni thematig a ddatblygwyd o dan bob un o themâu allweddol y Gronfa Ffyniant Gyffredin a fydd yn rheoli rhannau mawr o'r strategaeth fuddsoddi. · Prosiectau annibynnol - Ceisiadau strategol a fydd yn mynd i'r afael â heriau nad ydynt yn cael eu cynnwys gan y prosiectau Angor. Bydd ceisiadau'n cael eu gwahodd drwy alwadau agored. · Prosiectau a gomisiynwyd - Caffael Gweithgaredd i ddarparu gweithgaredd wedi'i ddiffinio'n union nad yw'n cael ei gyflawni gan y modelau cyflenwi y manylir arnynt uchod.
Adroddwyd, o ran Galwad Agored Prosiectau Annibynnol, bod ymarfer mapio wedi'i wneud (Atodiad 2 i'r adroddiad) lle aseswyd heriau a chyfleoedd allweddol a nodwyd o fewn Cynllun Buddsoddi Sir Gaerfyrddin yn erbyn y cyfleoedd cyllido sydd ar gael o fewn y rhaglenni Angor ar gyfer y blaenoriaethau buddsoddi Cymunedau a Lle a Chefnogi Busnesau. Byddai ymarfer tebyg yn cael ei gynnal ar gyfer blaenoriaeth Pobl a Sgiliau unwaith y byddai'r rhaglen Angor o fewn y flaenoriaeth honno wedi'i datblygu'n llawn.
Yn dilyn yr ymarfer mapio hwnnw ac yn seiliedig ar ganfyddiadau a mewnbynnau'r is-grwpiau blaenoriaeth, cynghorwyd yr Aelod Cabinet fod cymeradwyaeth yn cael ei geisio am alwadau agored ar gyfer ceisiadau am brosiectau Annibynnol sy'n canolbwyntio ar y themâu canlynol.
-Prosiectau sy'n ymateb i'r cyfleoedd yn y Strategaeth Arloesi Lleol – Digidol, Iechyd, Yr Economi Gylchol, a'r Economi Sylfaenol - Cymorth gwirfoddoli - Cymorth i fentrau cymdeithasol - Modelau bwyd lleol - Teithio llesol a thrafnidiaeth wledig - Prosiectau twristiaeth / diwylliant / treftadaeth strategol - Prosiectau sero net strategol ledled y sir
O ran yr Angor Gwledig ac elfen Hwb Fach y Wlad, y cyfeirir ato o fewn yr adroddiad, cafodd yr Aelod Cabinet y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sut y byddai hynny'n cael ei weithredu trwy sefydlu canolfannau Hwb gwledig ar draws trefi marchnad gwledig y Sir gan gynnig mynediad i wasanaethau, gwybodaeth a chefnogaeth i breswylwyr gwledig.
PENDERFYNWYD
|
|||||||||||
TALIADAU HAMDDEN 2023-24 PDF 151 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod Cabinet yr adroddiad ynghylch Taliadau Hamdden 2023-24 a oedd yn gofyn am gymeradwyo'r taliadau arfaethedig a oedd yn ffurfio rhan o'r cynllun cynhyrchu incwm ar gyfer yr isadran hamdden yn 2023/24. Roedd yr adroddiad yn cynnwys taliadau ar gyfer yr isadrannau canlynol o fewn Gwasanaethau Hamdden a hefyd yn manylu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys grymoedd y farchnad, a oedd wedi dylanwadu ar lefel arfaethedig y taliadau:-
· Gwasanaethau Diwylliannol (Y Celfyddydau, Amgueddfeydd, Theatrau a'r Gwasanaeth Archifau) · Lleoliadau Hamdden a Chwaraeon (Canolfannau Hamdden, pyllau nofio, cynnyrch ar-lein Actif a Thaliadau Chwaraeon Cymunedol Actif) · Hamdden Awyr Agored (Parciau Gwledig, gan gynnwys Parc Arfordirol y Mileniwm, maes parcio Traeth Pentywyn a Chanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn.
PENDERFYNWYD bod y Taliadau Hamdden ar gyfer 2023-24 fel y nodir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo. |