Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth - Dydd Gwener, 11eg Awst, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 11EG GORFFENNAF 2023 pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 11eg Gorffennaf 2023, gan ei fod yn gywir.  

 

3.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRONFA CYLLID A DARGEDIR pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'rceisiadaucanlynol am gymorth o GronfaCyllida Dargedirynamodolar y teleraua'ramodauarferol ac ar y rhai a bennwydynyradroddiad:

 

Y GronfaCyllid a Dargedir

YrYmgeisydd

Y Dyfarniad

Parc Stephens Community Association

£3,999.00

Drefach Community Sports Club

£20,000.00

Trimsaran Family Centre

£8,259.20

 

4.

CRONFA REFENIW 10 TREF pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y ceisiadau canlynol am gymorth gan y GronfaRefeniw 10 Tref yn cael eu cymeradwyo yn amodol ar y telerau ac amodau arferol a’r rheiny a nodwyd yn yr adroddiad:

 

YrYmgeisydd

Y Dyfarniad

Newcastle Emlyn Town Council

£4,999.00

 

5.

CYNLLUN BENTHYCIADAU CANOL TREF pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar newidiadau arfaethedig i rai o feini prawf y Benthyciad Canol Tref er mwyn diwallu anghenion presennol yr economi a chyfateb â chynigion o gyllid eraill a oedd gan Gyngor Sir Caerfyrddin i'w cynnig, yn enwedig y Gronfa Eiddo Gwag a Chronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i feini prawf y Benthyciad Canol Tref y manylir arnynt yn yr adroddiad i ateb galw presennol y farchnad.

 

6.

YMDDIRIEDOLAETH ORIEL MYRDDIN pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, er mwyn i Ymddiriedolaeth Oriel Myrddin gydymffurfio â'i dyletswyddau cyfreithiol a rheoleiddiol, fod Neil Confrey, Louise Morgan, Sally Moss a Nigel Roberts yn cael eu hailbenodi fel Ymddiriedolwyr Annibynnol Ymddiriedolaeth Oriel Myrddin o 23 Medi 2023.

 

7.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.  

 

8.

CYMUNEDAU MENTRUS

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 7 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r unigolion a'r busnesau a nodir yn yr adroddiad o dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu'r Aelod o'r Cabinet yn ystyried ceisiadau am gymorth o'r Gronfa Cymunedau Mentrus.

 

PENDERFYNWYD

8.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cymunedau Mentrus yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

YrYmgeisydd

Y Dyfarniad

Atebol

£75,000.00

Camp Out West

£28,000.00

Carlam Cyf

£75,000.00

Carmarthen Deli Caerfyrddin

£75,000.00

Decus

£75,000.00

Diod

£32,801.97

Equal Education Partners

£43,106.00

Jenkins Garden Machinery Limited

£57,801.80

Old Oak Kitchens

£38,500.00

Olew Solutions – Pigo a Paco

£35,000.00

Onesta

£69,353.20

Carmarthenshire School of Gymnastics

£18,213.83

Swim Like a Fish

£29,400.00

Teilwr bach

£24,500.00

Tref Bach Tots

£73,564.00

Caffi Lolfa

£44,016.00

Mel Gwenyn Gruffydd

£23,411.50

Pruex

£24,779.00

 

8.2 peidio â chefnogi'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cymunedau Mentrus gan nad ydynt yn cyd-fynd â phrif feini prawf y gronfa:

 

YrYmgeisydd

E.J. Thomas &Son

Little bit different

Llanelli Goods Shed

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Mentrau Creadigol Cymru

Pinopolis

Sylen Lakes

Ynni Sir Gar

The Cattle Vet

 

8.3 i nodi bod y cais gan Tadourna Wildlife wedi'i dynnu'n ol.

9.

BENTHYCIAD CANOL TREF

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 7 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r unigolion a'r busnesau a nodir yn yr adroddiad o dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu’r Aelod Cabinet yn ystyried cais a dderbyniwyd ar gyfer Benthyciad Canol Tref.

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais canlynol am Fenthyciad Canol Tref yn amodol ar y telerau ac amodau arferol a’r rhai a nodwyd yn yr adroddiad:

 

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Phillips Lane Ltd

£331,275.50