Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNOD PENDERFYNIADAU - 11EG GORFFENNAF 2023 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 11eg Gorffennaf 2023, gan ei fod yn gywir.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRONFA CYLLID A DARGEDIR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'rceisiadaucanlynol am gymorth o GronfaCyllida Dargedirynamodolar y teleraua'ramodauarferol ac ar y rhai a bennwydynyradroddiad:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CRONFA REFENIW 10 TREF Cofnodion: PENDERFYNWYD bod y ceisiadau canlynol am gymorth gan y GronfaRefeniw 10 Tref yn cael eu cymeradwyo yn amodol ar y telerau ac amodau arferol a’r rheiny a nodwyd yn yr adroddiad:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN BENTHYCIADAU CANOL TREF Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar newidiadau arfaethedig i rai o feini prawf y Benthyciad Canol Tref er mwyn diwallu anghenion presennol yr economi a chyfateb â chynigion o gyllid eraill a oedd gan Gyngor Sir Caerfyrddin i'w cynnig, yn enwedig y Gronfa Eiddo Gwag a Chronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i feini prawf y Benthyciad Canol Tref y manylir arnynt yn yr adroddiad i ateb galw presennol y farchnad.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMDDIRIEDOLAETH ORIEL MYRDDIN Cofnodion: PENDERFYNWYD, er mwyn i Ymddiriedolaeth Oriel Myrddin gydymffurfio â'i dyletswyddau cyfreithiol a rheoleiddiol, fod Neil Confrey, Louise Morgan, Sally Moss a Nigel Roberts yn cael eu hailbenodi fel Ymddiriedolwyr Annibynnol Ymddiriedolaeth Oriel Myrddin o 23 Medi 2023.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.
Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYMUNEDAU MENTRUS Cofnodion: Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 7 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r unigolion a'r busnesau a nodir yn yr adroddiad o dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Bu'r Aelod o'r Cabinet yn ystyried ceisiadau am gymorth o'r Gronfa Cymunedau Mentrus.
PENDERFYNWYD 8.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cymunedau Mentrus yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
8.2 peidio â chefnogi'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cymunedau Mentrus gan nad ydynt yn cyd-fynd â phrif feini prawf y gronfa:
8.3 i nodi bod y cais gan Tadourna Wildlife wedi'i dynnu'n ol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
BENTHYCIAD CANOL TREF Cofnodion: Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 7 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r unigolion a'r busnesau a nodir yn yr adroddiad o dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Bu’r Aelod Cabinet yn ystyried cais a
dderbyniwyd ar gyfer Benthyciad Canol Tref.
|