Agenda a chofnodion drafft

Yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth - Dydd Mawrth, 4ydd Mehefin, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 9FED MAI, 2024 pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

3.

CYMORTH ARIANNOL GAN Y CRONFEYDD GRANT CANLYNOL: CRONFA ARLOESI GWLEDIG pdf eicon PDF 132 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried cais gan Ymddiriedolaeth Gelli Aur am gymorth gan y Gronfa Arloesi Gwledig.

 

Dywedwyd bod Gelli Aur, ger Llandeilo, yn cael ei adnabod fel un o'r ystadau tai gwledig pwysicaf yng Nghymru.  Fodd bynnag, nodwyd bod yr ystad mewn cyflwr gwael gan arwain at i'r Ymddiriedolaeth geisio cymorth i achub yr ystad gyfan o'i chyflwr presennol a chreu dyfodol cynaliadwy i'r safle.

 

Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth fanwl am y prosiect arfaethedig a fyddai'n cynnal adolygiad o hyfywedd yr ystad yn y dyfodol gan ddarparu cynllun gweithredu i'r Ymddiriedolaeth ar ffyrdd y gellid ailddatblygu'r ystad fel menter gynaliadwy i ddenu buddsoddiad a sicrhau ei dyfodol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais gan Ymddiriedolaeth Gelli Aur am gymorth o £44,901 gan y Gronfa Arloesi Gwledig yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad.