Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth - Dydd Llun, 12fed Chwefror, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 84 KB

Cofnodion:

3.

RHAGLEN DEG TREF (CRONFA CYFALAF) pdf eicon PDF 183 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i gais a gyflwynwyd fel rhan o gronfa gyfalaf y Deg Tref.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa Gyfalaf y 10 Tref yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Yr Ymgeisydd

 Prosiect

Dyfarniad

Cyngor Tref Sanclêr

Prosiect Porth y Gât a Sanclêr, Sanclêr

£33,697

 

 

 

 

4.

RHAGLEN DEG TREF (CRONFA REFENIW) pdf eicon PDF 148 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i gais a gyflwynwyd fel rhan o gronfa refeniw y Deg Tref.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa Refeniw y 10 Tref yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Yr Ymgeisydd

Prosiect

Dyfarniad

Cyngor Tref Llandeilo

Swyddog Marchnata Llandeilo

£20,000

 

5.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

6.

CYMUNEDAU MENTRUS

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, roedd budd y cyhoedd o ran cynnal cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, oherwydd gallai datgelu'r wybodaeth hon danseilio'n annheg sefyllfa'r sefydliadau dan sylw mewn perthynas â sefydliadau eraill sy'n gweithredu yn yr un maes o ran gweithgarwch economaidd.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i geisiadau a gyflwynwyd am arian o'r Gronfa Cymunedau Mentrus a oedd yn rhan o'r rhaglen Arfor 2.

 

PENDERFYNWYD:

 

6.1

cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cymunedau Mentrus yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

 

Cyfeirnod yr Ymgeisydd

Dyfarniad

CM-02-01

£20,000

CM-02-03

£17,500

CM-02-04

£30,000

CM-02-05

£17,535

CM-02-06

£28,000

CM-02-07

£30,000

CM-02-09

£30,000

CM-02-10

£9,887

 

 

6.2

Bod y ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cymunedau Mentrus yn cael eu gwrthod:

 

Cyfeirnod yr Ymgeisydd

Rheswm

CM-02-02

Y cais hwn oedd y cais oedd wedi sgorio isaf ac nid oes digon o gyllideb.

CM-02-08

 

Nid oedd y sefydliad yn un cyfansoddiadol ac felly ystyrir ei fod yn anghymwys.

 

7.

CRONFA YNNI ADNEWYDDADWY BUSNES

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnes a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i gais prosiect a oedd wedi dod i law gan fusnes a oedd yn gofyn am gymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes, a oedd yn galluogi busnesau i ymgymryd â phrosiectau gwella ynni adnewyddadwy gan arwain at arbedion effeithlonrwydd busnes a lleihau carbon.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r prosiect a gyflwynwyd i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes fel y manylir yn yr adroddiad.