Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth - Dydd Iau, 18fed Ionawr, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kelly Evans  01267 224178

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 13 RHAGFYR 2023 pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

3.

CYNLLUN ANGOR GWLEDIG pdf eicon PDF 165 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar y bwriad i sefydlu dwy gronfa newydd fel rhan o'r Cynllun Angor Gwledig a ariennir drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelod Cabinet y byddai Cronfa Ddigwyddiadau y Deg Tref yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y trefi ac yn gwella'r canfyddiad o ddigwyddiadau lleol. Petaent yn llwyddiannus, byddai'r ymgeiswyr yn cael hyfforddiant ar Becyn Cymorth Digwyddiadau Sir Gaerfyrddin i roi cymorth iddynt â materion fel cynllunio digwyddiadau, trwyddedu, marchnata a hyrwyddo.

Nodwyd y byddai gan y Gronfa Economi Gylchol gyllid sbarduno o hyd at uchafswm o £5k i gefnogi cymunedau i ddatblygu gweithgareddau economi gylchol gan gynnwys cyfleusterau atgyweirio ac ailddefnyddio yng nghanol trefi.

PENDERFYNWYD:

3.1 cymeradwyo sefydlu Cronfa Ddigwyddiadau y Deg Tref, fel y nodir yn yr adroddiad; a

3.2 bod y Gronfa Economi Gylchol, fel y nodir yn yr adroddiad, yn cael ei chymeradwyo.

 

4.

Y RHAGLEN DEG TREF (CRONFA REFENIW) pdf eicon PDF 161 KB

Cofnodion:

 PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa Refeniw y 10 Tref yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Ymgeisydd

Prosiect

Gwobr

Menter Cwm Gwendraeth Elli              

Swyddog Ieuenctid a Chymunedol Cross Hands

£20,000.00