Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 07 GORFFENNAF 2023 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2023 yn gofnod cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Roedd gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.
Dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.
Nodwyd hefyd y gallai'r holl Gynghorwyr Sir, ar ôl cael eu hethol, bennu ar ba gyrff llywodraethu ysgolion y byddent yn eistedd, a byddai eu penderfyniad yn cael blaenoriaeth dros Lywodraethwyr Awdurdod Lleol na chafodd eu hethol. O ganlyniad, gallai Cynghorwyr Sir enwebu i wasanaethu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar ysgol lle nad oedd lle gwag ac os oedd gormod o lywodraethwyr, byddai'r Cyngor yn nodi pa Lywodraethwr Awdurdod Lleol yr oedd yn ofynnol iddo roi'r gorau i'r swydd.
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-
|