Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.</AI2> |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14fed MAWRTH 2022 PDF 72 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2022 yn gofnod cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI AELOD A.LL. I BWYLLGOR RHEOLI'R UNED CYFEIRIO DISGYBLION (UCD) PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod Cabinet y mynegiannau o ddiddordeb a gafwyd ar gyfer penodi Aelod o'r Awdurdod Lleol i wasanaethu ar Bwyllgor Rheoli yr Uned Cyfeirio Disgyblion.
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau a ddaethai i law, benodi'r Cynghorydd Shelly Godfrey-Coles i wasanaethu ar Bwyllgor Rheoli yr Uned Cyfeirio Disgyblion er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Bwyllgor Rheoli yr Uned Cyfeirio Disgyblion. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.
Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.
Eglurodd y Pen Swyddog Llywodraethu Ysgolion, yn dilyn etholiadau diweddar y Cyngor Sir, fod yr holl Gynghorwyr Sir a oedd newydd eu hethol wedi cael eu gwahodd i enwebu'r Cyrff Llywodraethu yr oeddent yn dymuno cynrychioli'r awdurdod lleol arnynt. Mae'n bolisi sirol y gall yr holl gynghorwyr sir ar ôl cael eu hethol bennu ar ba gyrff llywodraethu ysgolion y byddant yn eistedd a bydd eu penderfyniad yn cael blaenoriaeth dros lywodraethwyr awdurdod lleol na chafodd eu hethol. O ganlyniad, gall Cynghorwyr Sir enwebu i wasanaethu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar ysgolion lle nad oes lle gwag ar hyn o bryd. Os bydd swydd llywodraethwr wedi'i ordanysgrifio, gall y Cyngor nodi pa Lywodraethwr ALl sy'n gorfod rhoi'r gorau i'r swydd.
Eglurodd y Pen Swyddog Llywodraethu Ysgolion i'r Aelod Cabinet fod un lle gwag ychwanegol wedi codi ar gyfer ysgol gynradd Penrhos ers cyhoeddi dogfennau'r cyfarfod.
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu o 1 Medi 2022 ymlaen oni nodwyd fel arall:-
|