Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 CHWEFROR 2024 Cofnodion: |
|
CAIS AM GAU FFYRDD YNG NGILFACH IAGO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Nodwyd y byddai darn o briffordd gyhoeddus yn cael ei gau drwy Orchymyn mewn Llys Ynadon o dan Adran 116 o Ddeddf Priffyrdd 1980, yn amodol ar gadw hawliau llwybr ceffylau (Adran 116(4), y mae eu defnydd ar gyfer cerddwyr, marchogion a beicwyr pedalau.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelod Cabinet y byddai hawliau priffyrdd yn cael eu diddymu ar gyfer cerbydau modur yn unig, gan gadw'r hawliau ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogion. Yn hyn o beth, mynegwyd y byddai adfer mynediad cyhoeddus o fudd i gymunedau Blaenau, Saron a Phen-y-groes ei fwynhau unwaith eto, o gofio bod yr ardal yn ardal lofaol weithredol am flynyddoedd lawer o dan Celtic Energy. Nodwyd hefyd y byddai agor y rhan hon o'r rhwydwaith ar gyfer y cyhoedd yn cysylltu â'r rhwydwaith llwybr troed presennol sydd eisoes ar waith yn yr ardal, gan gryfhau cysylltiadau rhwng y cymunedau a chefnogi'r rhwydwaith ehangach, gan gynnwys dyheadau Teithio Llesol rhwng Rhydaman a Cross Hands.
Hysbyswyd yr Aelod Cabinet o ganlyniad yr ymgynghoriad cychwynnol nodwyd bod proses ymgynghori statudol i ddilyn.
PENDERFYNWYD argymell i Bennaeth dros dro Gweinyddiaeth a'r Gyfraith fwrw ymlaen â chau darn o'r briffordd gyhoeddus gan gadw hawliau llwybr ceffylau yn yr hen safle gwaith glo brig a adwaenir fel Gilfach Iago o dan Adran 116(4) o Ddeddf Priffyrdd 1980. |