Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith - Dydd Mercher, 7fed Chwefror, 2024 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 9FED IONAWR, 2024 pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

3.

CYFLWYNO TWMPATHAU ARAFU ARFAETHEDIG YM MHONT-HENRI pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo cynigion i gyflwyno twmpath ffordd â brig crwn ar (y B4317) Riw'r Myrtwydd.  Cyflwynwyd y twmpath hwn fel rhan o gyfres o fesurau i arafu traffig a gwella diogelwch cerddwyr ledled pentref Pont-henri.

 

Mae'n ofyniad statudol i hysbysebu cynigion ar gyfer twmpathau ffordd o ran cael sylwadau a gwrthwynebiadau gan y cyhoedd. Cafodd y cynigion ar gyfer Pont-henri un gwrthwynebiad gan un aelwyd.

 

Amlinellodd yr adroddiad fod Rhiw'r Myrtwydd yn ffordd breswyl sy'n cael ei defnyddio'n aml ac sy'n cysylltu Pont-henri â Phontyberem i'r gogledd. Nodwyd bod y darn lle bwriedir lleoli'r twmpath ar waelod bryn serth sy'n arwain yn uniongyrchol at ardal fwyaf poblog y rhan hon o Bont-henri.  Ers 17 Medi 2023 roedd terfyn cyflymder y ffordd wedi'i ostwng i 20mya ac roedd Arwyddion Adborth i Yrwyr (DFS) wedi'u lleoli ar fannau penodol ar hyd y ffordd i atgoffa gyrwyr o'u cyflymder presennol.

 

Nodwyd bod gan y gymuned leol bryderon ers tro ynghylch cerbydau'n gyrru ar gyflymderau amhriodol ar hyd y ffordd. Mynegwyd hyn yn ystod digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ar gyfer datblygu'r cynnig am gyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a chafwyd cefnogaeth gan yr aelod lleol yn ystod trafodaethau parhaus.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i gynnwys yr adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth fanwl mewn perthynas â'r canlynol:-

 

·         Cynnig Arafu Traffig – Cyllid

·         Cynnig Arafu Traffig – Y Dyluniad Cyfredol

·         Gwrthwynebiadau

·         Arolygon Cyflymder Traffig

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i un ar ddeg o wrthwynebiadau a gafwyd gan un aelwyd a ddaeth i law yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol gan Bennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith y Cyngor, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ynghyd ag ymatebion y swyddog iddynt.  Rhoddwyd cyfle i'r Aelod Cabinet weld y copïau llawn o'r gwrthwynebiadau a gafwyd.

 

PENDERFYNWYD bod y gwrthwynebiadau'n cael eu nodi a bod y cynllun arafu traffig yn cael ei gyflwyno, gan gynnwys yr holl dwmpathau ffordd a restrir yn yr adroddiad.