Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14 MEDI 2023 PDF 88 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau cyfarfod yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, a gynhaliwyd ar 14 Medi 2023 gan ei fod yn gywir.
|
|
FFIOEDD GWASTRAFF GARDD AR GYFER TYMOR 2024/2025 PDF 102 KB Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu'r taliadau ac yn darparu cynnig ar gyfer y taliadau gwastraff gardd ar gyfer tymor casglu gwastraff gardd 2024/2025.
Dywedwyd yn yr adroddiad bod y gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn cael ei gynnal rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd bob blwyddyn. Wrth baratoi ar gyfer y tymor gwastraff gardd nesaf h.y. Mawrth 2024 - Tachwedd 2024 gosodwyd y pris am y gwasanaeth yn unol â'r broses ariannol ac yn unol â chrynhoad taliadau'r weithdrefn flynyddol sy'n cyfrannu at sefyllfa ariannol gyffredinol yr awdurdod lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, y craffir arni drwy broses wleidyddol ac ymgynghori.
Nododd yr Aelod Cabinet nad oedd amseriad y gwasanaeth gwastraff gardd yn cyd-fynd â'r llinell amser ariannol ar gyfer pennu'r gyllideb o ran cael cymeradwyaeth derfynol. Gan fod y gwasanaeth gwastraff gardd yn agor i gwsmeriaid ym mis Ionawr bob blwyddyn i baratoi ar gyfer y galw am y gwasanaeth, dosbarthu a chasglu biniau, taliadau anfonebau ac ati, mae angen, o ganlyniad i hyn, gymeradwyo'r costau am y tymor sydd i ddod yn gynt a chyn Ionawr 2024.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth, data a thueddiadau o ran y sylfaen cwsmeriaid gan gydnabod bod y data ar gyfer gwasanaeth gwastraff gardd 2023/2024 wedi dangos rhywfaint o ddiffyg twf o ran niferoedd y cwsmeriaid ac y byddai angen gwneud gwaith hyrwyddo i gynyddu'r niferoedd a gafwyd yn y blynyddoedd blaenorol.
Dywedwyd gan fod y gostyngiad yn y sylfaen cwsmeriaid yn debygol oherwydd taliadau uwch am y gwasanaeth ynghyd â chostau byw eraill gallai hyn fod wedi arwain at ostyngiadau pellach hyd yn oed yn sylfaen cwsmeriaid, felly yn 2023/2024 cymerwyd gofal i beidio â gweithredu'r dilysiad llawn o 10% a phenderfynwyd cytuno ar gynnydd o 5% ar gostau 2022/2023 ar gyfer tymor 2023/2024. Dywedwyd y byddai gostyngiad yn y sylfaen cwsmeriaid yn niweidiol i'r ffigurau tunelledd ailgylchu blynyddol cyffredinol a allai hefyd gael effaith niweidiol ar y gyfradd ailgylchu flynyddol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.
Er bod dilysiad o 4% wedi'i gynnig ar wasanaethau y gellir codi tâl amdanynt yn 2024/2025, wrth ystyried data ynghylch nifer y cwsmeriaid, roedd y gwasanaeth am gael awdurdodiad gan yr Aelod Cabinet i gadw'r tâl presennol am y gwasanaeth ac i mewn i’r tymor nesaf gan godi'r un swm ar gyfer 2024/2025.
PENDERFYNWYD gweithredu taliadau arfaethedig y gwasanaeth gwastraff gardd ar gyfer tymor 2024/2025 fel y nodir yn yr adroddiad, cyn yr ymgynghoriad terfynol ynghylch y gyllideb a chyfarfod llawn y cyngor yn gynnar yn 2024 a fyddai'n caniatáu pennu’r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/2025.
|