Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith - Dydd Gwener, 11eg Awst, 2023 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD PENDERFYNIDAU AELOD Y CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH A GYNHALIWYD AR 15 MAI 2023 pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

3.

GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG AR GYFER TERFYNAU CYFLYMDER O 20MYA pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd mewn ymateb i'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig drafft canlynol a hysbysebwyd ar gyfer sylwadau a gwrthwynebiadau:

 

·      GORCHYMYN SIR GAERFYRDDIN (GOSOD TERFYN CYFLYMDER O 20 MYA) 2023

 

Eglurodd yr adroddiad mai diben y Gorchymyn oedd cyflawni dyletswydd statudol yr Awdurdod wrth weithredu terfynau cyflymder o ganlyniad i Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022' Llywodraeth Cymru a fyddai'n dod i rym ar 17 Medi 2023. 

 

Dywedwyd bod y Gorchymyn arfaethedig i raddau helaeth yn ddarostyngedig i ffyrdd trefol eu natur, sydd heb systemau goleuadau stryd a fyddai'n rhoi statws ffyrdd cyfyngedig iddynt.  Felly, byddai'r Gorchymyn arfaethedig yn darparu cysondeb i gymunedau lleol a defnyddwyr ffyrdd.  Yn ogystal, roedd y Gorchymyn arfaethedig yn dirymu nifer o Orchmynion Rheoleiddio Traffig ar gyfer terfynau cyflymder 20mya presennol a oedd yn ffyrdd cyfyngedig.  Byddai'r ffyrdd hyn yn parhau i fod yn destun terfyn o 20mya oherwydd eu statws ffyrdd cyfyngedig. 

 

Nodwyd y lleoliadau yn yr atodlen arfaethedig a'r cynllun a atodwyd i'r adroddiad. Dywedwyd bod Pennaeth Gweinyddiaeth a Chyfraith y Cyngor wedi derbyn pedwar gwrthwynebiad yn ystod y cyfnod ymgynghori, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i'r cynnig ynghyd â'r gwrthwynebiadau a gafwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

3.1     nodi'r gwrthwynebiadau, fel yr oeddent yn yr adroddiad;

3.2 bod Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Gosod Terfyn Cyflymder o 20 MYA) 2023 yn cael ei gwneud yn unol â'r atodlen a nodir yn yr adroddiad.

 

 

4.

GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG AR GYFER TERFYNAU CYFLYMDER O 30MYA. pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd mewn ymateb i'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig drafft canlynol a hysbysebwyd ar gyfer sylwadau a gwrthwynebiadau:

 

·      GORCHYMYN SIR GAERFYRDDIN (GOSOD TERFYN CYFLYMDER O 30 MYA) 2023

 

Nododd yr Aelod Cabinet mai pwrpas y Gorchymyn arfaethedig oedd cyflwyno terfynau cyflymder o 30mya i fynd i'r afael â'r sefyllfaoedd canlynol:

 

1.    Fel eithriadau i 'Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya)(Cymru) 2022' Llywodraeth Cymru.

2.    I gefnogi terfynau 'clustogi' wrth ddynesu at derfynau cyflymder o 20mya.

3.    Ffyrdd cyfyngedig nad ydynt yn destun terfynau cyflymder lle byddai terfyn o 30mya yn adlewyrchu defnydd o'r ffyrdd a'r datblygiadau cyfagos.

 

Roedd yr adroddiad yn esbonio y bydda'r Gorchymyn yn cefnogi newid deddfwriaethol Llywodraeth Cymru sydd ar ddod a fydd yn cyflwyno terfynau cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig drwy 'Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022' a ddaw i rym ar 17 Medi 2023. 

 

Dywedwyd bod y Gorchymyn arfaethedig hefyd wedi dirymu nifer o Orchmynion Rheoleiddio Traffig ar gyfer terfynau 30mya presennol ar ffyrdd a fyddai'n cael eu disodli gan ddeddfwriaeth a Gorchmynion Rheoleiddio Traffig newydd.  Eglurwyd y byddai'r cyfyngiadau arfaethedig o 30mya a gynigiwyd naill ai'n eithrio ffyrdd cyfyngedig rhag symud yn ddiofyn i 20mya, yn darparu terfyn 'clustogi' i'r terfyn 20mya, neu'n cael eu hystyried yn briodol i natur y ffordd.  Mae'r cynigion yn darparu parhad o ran terfyn cyflymder i fodurwyr ac yn helpu i ddiogelu cymunedau lleol.

 

Nodwyd y lleoliad yn yr atodlen arfaethedig a'r cynllun a atodwyd i'r adroddiad. Dywedwyd bod Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith yn y Cyngor wedi derbyn deuddeg gwrthwynebiad yn ystod y cyfnod ymgynghori, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i'r cynnig ynghyd â'r gwrthwynebiadau a gafwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

4.1  nodi'r gwrthwynebiadau, fel yr oeddent yn yr adroddiad;

 

4.2 bod gwrthwynebiadau rhif 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9 a 10 yn cael eu cadarnhau a bod y cynigion ar gyfer y terfyn cyflymder o 30mya yn y lleoliadau dan sylw yn cael eu tynnu'n ôl.

         

4.3 bod Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Gosod Terfyn Cyflymder o 30 MYA) 2023 ar gyfer gwrthwynebiadau Rhif 1, 11 a 12 yn cael eu gwneud.

 

5.

SHOPMOBILITY LLANELLI pdf eicon PDF 134 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ynghylch cefnogi Shopmobility Llanelli drwy grant pellach o £16,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 gan gychwyn ym mis Awst, 2023. Esboniwyd er bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cefnogi cynllun Shopmobility ers 2011 a'i fod wedi cael incwm drwy godi tâl a thrwy gynnal gweithgareddau i godi arian, roedd yn dibynnu'n bennaf ar gefnogaeth ariannol gan y Cyngor.

 

Mae Shopmobility yn un o nifer o fentrau sy'n cael eu hannog gan yr Awdurdod i gefnogi tref Llanelli ac mae'n elfen bwysig o sicrhau bod mynediad i siopau, busnesau a gwasanaethau yn Llanelli yn gynhwysol ac yn darparu ar gyfer unigolion sydd ag anableddau symud.

 

Dywedwyd bod Shopmobility yn darparu cyfleusterau megis llogi cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd i siopwyr ac i ymwelwyr eu defnyddio yn y dref.  Yn ogystal, byddai'r grant yn cael ei ariannu gan elfen Trafnidiaeth Gymunedol y Cyngor Sir o'r Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

 

Roedd yr Aelod Cabinet yn cydnabod y  pwysau gweithredol cynyddol a nododd fod cynnig i gynyddu'r grant ychydig dros 5% am y cyfnod sef cyfanswm grant o £16,000 a fyddai'n daladwy yn 2023/24.

 

PENDERFYNWYD  darparu grant o £16,000 i gefnogi Shopmobility yn Llanelli o fis Awst 2023 i Awst 2024

</AI4>

6.

SHOPMOBILITY CARMARTHEN pdf eicon PDF 134 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ynghylch cefnogi Shopmobility Caerfyrddin drwy grant pellach o £16,000 am gyfnod o 12 mis gan gychwyn ym mis Medi 2023. Esboniwyd er bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cefnogi cynllun Shopmobility ers 2011 a'i fod wedi cael incwm drwy godi tâl a thrwy gynnal gweithgareddau i godi arian, roedd yn dibynnu'n bennaf ar gefnogaeth ariannol gan y Cyngor.

 

Mae Shopmobility yn un o nifer o fentrau sy'n cael eu hannog gan yr Awdurdod i gefnogi'r dref ac roedd yn elfen bwysig o sicrhau bod mynediad i siopau, busnesau a gwasanaethau yng Nghaerfyrddin yn gynhwysol ac yn darparu ar gyfer unigolion ag anableddau symud.

 

Dywedwyd bod Shopmobility yn elusen gofrestredig yng Nghanol Tref Caerfyrddin sy'n darparu cyfleusterau fel cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd i ymwelwyr eu defnyddio yn y dref.  Yn ogystal, byddai'r grant yn cael ei ariannu gan elfen Trafnidiaeth Gymunedol y Cyngor Sir o'r Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

 

Roedd yr Aelod Cabinet yn cydnabod y  pwysau gweithredol cynyddol a nododd fod cynnig i gynyddu'r grant ychydig dros 5% am y cyfnod sef cyfanswm grant o £16,000 a fyddai'n daladwy yn 2023/24.

 

PENDERFYNWYD darparu grant o £16,000 i gefnogi Shopmobility yng Nghaerfyrddin rhwng Medi 2023 a Medi 2024