Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|
Cofnodion: |
|
CYFLWYNO MESURAU ARAFU TRAFFIG AR HEOL PENDDERI, BYNEA PDF 299 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo cynigion i gyflwyno cynllun arafu traffig sy'n cynnwys tri thwmpath ffordd ar Heol Pendderi, y Bynea, lle mae tystiolaeth bendant fod cerbydau'n teithio'n gyflymach na'r terfyn cyflymder presennol, sef 30mya.
Roedd yr adroddiad yn nodi bod gan y gymuned leol yn Heol Pendderi, y Bynea bryderon ers tro ynghylch cyflymder cerbydau amhriodol, a oedd wedi arwain at gyflwyno deiseb yn 2021, a oedd yn cynnwys 242 o lofnodion, yn gofyn am osod mesurau tawelu traffig ar Heol Pendderi. Yn ogystal, nodwyd bod Partneriaeth Gan Bwyll Heddlu Dyfed-Powys wedi cyflwyno gweithrediadau camerâu diogelwch rheolaidd ar hyd y ffordd ac wedi mynegi pryderon penodol ynghylch ymddygiad gyrwyr ar Heol Pendderi.
Er bod y terfyn cyflymder i fod i newid i 20mya ym mis Medi yn unol â'r ddeddfwriaeth newydd, dywedwyd bod yr union lefel o gydymffurfio â'r terfyn 30mya presennol wedi bod yn bryder ac felly awgrymwyd na fyddai'r terfyn is yn ffrwyno ymddygiad gyrwyr heb gyflwyno mesurau arafu traffig i gefnogi hynny.
Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i gynnwys yr adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth fanwl mewn perthynas â'r canlynol:-
· Cynnig Arafu Traffig – Cyllid · Arolygon Cyflymder Traffig · Cynnig Arafu Traffig – Y Dyluniad Cychwynnol · Cynnig Arafu Traffig – Y Dyluniad Cyfredol · Gwrthwynebiadau
Wrth ystyried y Cynnig Arafu Traffig – Y Dyluniad Cychwynnol, nododd yr Aelod Cabinet fod y cynigion cychwynnol ar gyfer tawelu traffig wedi cynnwys pedwar lleoliad ar gyfer twmpath ffordd, ac roedd y rhain wedi'u nodi yn Atodiad 2 ynghlwm wrth yr adroddiad. O ganlyniad i'r adborth a gafwyd fel rhan o'r ymgynghoriad, addaswyd y cynigion yn dilyn hynny mewn trafodaeth â'r aelodau lleol a lleihawyd nifer y twmpathau ffyrdd arfaethedig i dri i ffurfio'r cynllun arfaethedig presennol fel y nodwyd yn Atodiad 1.
Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i bedwar gwrthwynebiad a gafwyd gan dair aelwyd a ddaeth i law Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith y Cyngor yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol, fel y nodwyd yn yr adroddiad ynghyd ag ymatebion y swyddog iddynt. Rhoddwyd cyfle i'r Aelod Cabinet weld y copïau llawn o'r gwrthwynebiadau a gafwyd.
PENDERFYNWYD bod y gwrthwynebiadau'n cael eu nodi a bod y cynllun arafu traffig yn cael ei gyflwyno, gan gynnwys y tri thwmpath ffordd.
|