Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith - Dydd Llun, 15fed Mai, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

 

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD PENDERFYNIDAU AELOD Y CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH A GYNHALIWYD AR 30 TACHWEDD 2022. pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod Cofnod Penderfyniadau cyfarfod yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2022 yn cael ei lofnodi gan ei fod yn gywir.

 

3.

SHOPMOBILITY LLANELLI pdf eicon PDF 118 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad a oedd yn amlinellu'r materion ariannol mewn perthynas â Shopmobility Llanelli ac yn gofyn am gymeradwyaeth yr Aelod Cabinet i gefnogi'r fenter ymhellach drwy daliad grant o £5000 i Shopmobility Llanelli i wneud iawn am yr incwm a gollwyd a'r cronfeydd wrth gefn sydd wedi lleihau oherwydd Covid.

 

Cydnabuwyd bod y Cyngor wedi cefnogi Shopmobility ers 2011 a'i fod wedi cael incwm drwy godi tâl a thrwy gynnal gweithgareddau i godi arian. Fodd bynnag, roedd yn dibynnu'n bennaf ar gefnogaeth ariannol gan y Cyngor a oedd yn cynnwys grant o £15,236 am y flwyddyn ariannol 2022/23, a gymeradwywyd gan yr Aelod Cabinet yn ystod cyfarfod penderfyniadau a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2022.

 

Nododd yr Aelod Cabinet fod incwm blynyddol Shopmobility Llanelli oddeutu £17,236, a oedd yn llai na'r costau gweithredu blynyddol presennol o dros £20,000. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn nodi nad oedd unrhyw grant wedi'i dalu gan y Cyngor Sir yn ystod cyfnod clo Covid rhwng Awst 2020 a Gorffennaf 2021. Yn ystod blwyddyn ariannol 2020/21 derbyniodd Shopmobility grant covid ar wahân o £10,000 ac incwm llogi o £601 ond y treuliau oedd £19,545. Er mwyn ymdrin â'r diffyg, roedd yn rhaid i'r elusen ddefnyddio ei chronfeydd wrth gefn gyda'r risg na fyddai'n gallu talu ei dyledion a chyflawni ei hymrwymiadau ariannol, a chynnal isafswm o £8,000 mewn cronfeydd wrth gefn a oedd yn ofynnol yn ôl ei chyfansoddiad.

 

Er mwyn sicrhau bod y cynllun yn gallu aros ar agor i wasanaethu canol y dref a bod yr ymddiriedolwyr sy'n rhedeg yr elusen yn gallu cyflawni eu rhwymedigaethau ariannol, cynigiodd yr adroddiad argymhelliad tymor byr, sef talu grant untro o £5,000 i Shopmobility Llanelli.  Nodwyd y byddai'r taliad yn dod o'r gyllideb Trafnidiaeth Gymunedol.

 

Hefyd, nododd yr Aelod Cabinet yr ystyriaethau mewn perthynas â'r ateb tymor hir fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD darparu taliad grant o £5,000 i gefnogi Shopmobility yn Llanelli i wneud iawn am yr incwm a gollwyd a'r cronfeydd wrth gefn sydd wedi lleihau oherwydd pandemig Covid

4.

GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG AR GYFER GORCHYMYN (HEOL Y FFATRI, PEN-BRE) MANNAU PARCIO AR Y STRYD 2022 pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad a oedd yn manylu ar wrthwynebiadau i gynnig y Cyngor o ran gwneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig - Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Heol y Ffatri, Pen-bre) Mannau Parcio ar y Stryd 2022. Diben y Gorchymyn fyddai dynodi darn penodol o barcio ar Heol y Ffatri ar gyfer deiliaid hawlenni.

 

Dywedwyd y byddai hawlenni ar gael i farchogwyr eu prynu er mwyn gallu parcio faniau ceffylau a threlars ceffylau ym Mhen-bre. Byddai tâl o £20 y flwyddyn yn cael ei godi am yr hawlen a byddai'r tâl hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol.

 

Nodwyd y lleoliad yn yr atodlen arfaethedig a'r cynllun a atodwyd i'r adroddiad. Dywedwyd bod Pennaeth Gweinyddiaeth a Chyfraith y Cyngor wedi derbyn tri gwrthwynebiad yn ystod y cyfnod ymgynghori, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i'r cynnig ynghyd â'r gwrthwynebiadau a gafwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

4.1     nodi'r gwrthwynebiadau, fel yr oeddent yn yr adroddiad;

4.2     gwneud y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar gyfer Gorchymyn (Heol y Ffatri, Pen-bre) Mannau Parcio ar y Stryd 2022.