Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 17 IONAWR 2024 PDF 71 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr, 2024, gan ei fod yn gywir.
|
|||||
GRANT CYMORTH RHANDIROEDD LLYWODRAETH CYMRU PDF 161 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth ôl-weithredol ar gyfer cyflwyno cynllun gwaith i Lywodraeth Cymru a oedd yn rhoi manylion chwe cais am gyllid o dan ei Chronfa Cymorth Rhandiroedd 2024/25 a chytuno hefyd i Dîm Biwro yr Awdurdod ymgymryd â'r rôl weinyddol yn unol â Thelerau ac Amodau'r grantiau.
Nododd yr Aelod Cabinet fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael swm dangosol o £34,308 gan Lywodraeth Cymru drwy'r Grant Cymorth Rhandiroedd er mwyn cynyddu argaeledd lleiniau rhandiroedd o ansawdd da ledled Sir Gaerfyrddin am flwyddyn ariannol 24/25. Nodwyd hefyd bod y chwe cais y manylwyd arnynt yn yr adroddiad wedi cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru wedi hynny.
Byddai'r gronfa, sydd i'w gweinyddu gan Dîm Biwro yr Awdurdod, yn cael ei defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd i helpu i hybu gallu'r sefydliadau a nodir yn yr adroddiad ac yn cynnwys:-
· Creu lleiniau newydd · Defnyddio lleiniau diffaith unwaith eto · Gwella hygyrchedd · Gwella gwasanaethau safleoedd · Gwella diogelwch safleoedd · Gwella'r ffordd mae safleoedd yn cael eu rheoli · Cynyddu ailgylchu / adnewyddu · Cynyddu bioamrywiaeth / pryfed peillio
PENDERFYNWYD
|