Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Adnoddau - Dydd Mawrth, 23ain Ionawr, 2024 9.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR PENDERFYNIADAU Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 TACHWQEDD 2023 pdf eicon PDF 74 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 16 Tachwedd 2023 yn gofnod cywir.

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFFAU 12 & 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

4.

TIR YN HEOL PEN-LAN, CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd prawf budd y cyhoedd yn y mater hwn o ran cynnal yr eithriad uchod yn drech na budd y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad gan y byddai datgelu yn tanseilio safbwynt negodi'r Cyngor mewn trafodion tebyg yn y dyfodol ac mewn perygl o niweidio cyllid cyhoeddus.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad mewn perthynas â'r defnydd o'r tir yn y dyfodol yn Heol Pen-lan, Caerfyrddin. Roedd yr adroddiad yn manylu ar gynlluniau arfaethedig ar gyfer datblygu ardal tyfu bwyd gymunedol ar y tir a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Ar ôl ystyried yr opsiynau a nodwyd yn yr adroddiad:

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynigion ar gyfer datblygu ardal tyfu bwyd gymunedol ar y tir yn Heol Pen-lan, Caerfyrddin.

5.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER - GORDALIADAU BUDD-DAL TAI

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Mae budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad y cyfeirir ato uchod yn drech na budd y cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad gan fod potensial i'r datgelu gael effaith anghymesur ar yr unigolion dan sylw ac nid oedd yn angenrheidiol at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn Neddf Diogelu Data 2018.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrif gordaliad budd-dal tai y nodwyd nad oedd modd ei adennill.Yr oedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio, lle'r oedd hynny'n briodol, ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliadau.  Felly roedd yn cael ei ystyried yn briodol dileu'r cyfrif hwn yn erbyn darpariaeth ddarbodus yr Awdurdod ar gyfer drwgddyledion o ran gordaliadau Budd-dal Tai.

 

PENDERFYNWYD bod y cyfrif dyledus y manylwyd arno yn yr adroddiad yn cael ei ddileu am nad oedd modd adennill y taliadau.

6.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Mae budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad y cyfeirir ato uchod yn drech na budd y cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad gan fod potensial i'r datgelu gael effaith anghymesur ar yr unigolion dan sylw ac nid oedd yn angenrheidiol at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn Neddf Diogelu Data 2018.

 

Mewn diweddariad i'r Aelod Cabinet, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Refeniw fod yr achos hwnnw, rhif 440244, wedi cael ei dynnu'n ôl.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifon y nodwyd nad oedd modd eu hadennill. Yr oedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio, lle'r oedd hynny'n briodol, ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliadau. Felly, ystyriwyd ei bod yn briodol dileu'r cyfrifon a restrir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar dynnu achos rhif 440244 yn ôl, bod yr ôl-ddyledion a nodir yn yr adroddiad yn cael eu dileu fel rhai na ellir eu hadennill. 

7.

DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent. Mae cyhoeddi rhenti unigol yn ddiangen ac yn drech na budd y cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth gan y byddai datgelu'n ymyrraeth ddiangen a gormodol ar fywydau preifat a theuluol yr unigolion dan sylw.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran dyledion tenantiaid presennol a chyn-denantiaid ac yn gofyn am ddileu dyledion o fwy na £1,500.

 

Nododd yr Aelod Cabinet yr achosion a amlinellwyd yn yr adroddiad a rhoddodd ystyriaeth i'r adroddiadau unigol ar gyfer pob un o'r tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid a oedd yn manylu ar y rhesymau dros geisio dileu dyledion. Roedd y rhesymau yn cynnwys amgylchiadau personol.

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.