Agenda a chofnodion drafft

Yr Aelod Cabinet dros Adnoddau - Dydd Iau, 14eg Mawrth, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR PENDERFYNIADAU Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 23AIN IONAWR, 2024 pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 gan ei fod yn gywir.

 

3.

CYNNIG I OSOD COFEB RYFEL I GOFIO AM BWYLIAID YN NEUADD Y DREF LLANELLI pdf eicon PDF 225 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet dros Adnoddau yn ystyried adroddiad yn manylu ar gais Cyngor Tref Llanelli am godi Cofeb Ryfel i Gofio am Bwyliaid yn Neuadd y Dref Llanelli.  Mae'r sefydliad a ofynnodd am y gofeb yn sefydliad gwirfoddol a oedd yn dymuno cofio'r Cyn-filwyr Pwylaidd a wasanaethodd yn yr Ail Ryfel Byd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynnig i osod Cofeb Ryfel i Gofio am Bwyliaid yn Neuadd y Dref Llanelli fel y manylir yn yr adroddiad.

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

FOLLOWING CONSIDERATION OF ALL THE CIRCUMSTANCES OF THE CASE AND FOLLOWING THE APPLICATION OF THE PUBLIC INTEREST TEST THE CABINET MEMBER MAY CONSIDER THAT THE FOLLOWING ITEMS ARE NOT FOR PUBLICATION AS THEY CONTAIN EXEMPT INFORMATION AS DEFINED IN PARAGRAPH 14 OF PART 4 OF SCHEDULE 12A TO THE LOCAL GOVERNMENT ACT, 1972 AS AMENDED BY THE LOCAL GOVERNMENT (ACCESS TO INFORMATION) (VARIATION) (WALES) ORDER 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

5.

DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno)(Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent. Mae cyhoeddi rhenti unigol yn ddiangen ac yn drech na budd y cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth gan y byddai datgelu'n ymyrraeth ddiangen a gormodol ar fywydau preifat a theuluol yr unigolion dan sylw.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran dyledion tenantiaid presennol a chyn-denantiaid ac yn gofyn am ddileu dyledion o fwy na £1,500.

 

Nododd yr Aelod Cabinet yr achosion a amlinellwyd yn yr adroddiad a rhoddodd ystyriaeth i'r adroddiadau unigol ar gyfer pob un o'r tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid a oedd yn manylu ar y rhesymau dros geisio dileu dyledion. Roedd y rhesymau yn cynnwys amgylchiadau personol.

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.