Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Adnoddau - Dydd Iau, 16eg Tachwedd, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR PENDERFYNIADAU Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 5ED MEDI, 2023 pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Medi, 2023, gan ei fod yn gywir.

 

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

4.

DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent. Mae cyhoeddi rhenti unigol yn ddiangen ac yn drech na budd y cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth gan y byddai datgelu'n ymyrraeth ddiangen a gormodol ar fywydau preifat a theuluol yr unigolion dan sylw.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran dyledion tenantiaid presennol a chyn-denantiaid ac yn gofyn am ddileu dyledion o fwy na £1,500. 

 

Nododd yr Aelod Cabinet yr achosion a amlinellwyd yn yr adroddiad a rhoddodd ystyriaeth i'r adroddiadau unigol ar gyfer pob un o'r tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid a oedd yn manylu ar y rhesymau dros geisio dileu dyledion. Roedd y rhesymau yn cynnwys amgylchiadau personol.

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.

 

5.

CANOLFAN YR ARGLWYDD ARTHUR RANK, HEOL TROSTRE, LLANELLI

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn o ran cynnal yr eithriad uchod yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir yn yr adroddiad gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn achosi niwed i'r busnesau y mae'r adroddiad yn berthnasol iddynt, gan danseilio'u safle yn y farchnad ac o bosibl rhoi swyddi mewn perygl ac achosi niwed i'r economi leol.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi cais gan Foothold am ostyngiad yn ei rent ar gyfer Canolfan yr Arglwydd Arthur Rank, Heol Trostre, Llanelli, sef eiddo y mae'n ei brydlesu gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cais gan Foothold am ostyngiad yn ei rent ar gyfer Canolfan yr Arglwydd Arthur Rank, Heol Trostre, Llanelli fel y nodwyd yn yr adroddiad.