Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Adnoddau - Dydd Gwener, 1af Tachwedd, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR PENDERFYNIADAU Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5 MEDI 2024 pdf eicon PDF 74 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5  Medi, 2024, gan ei fod yn gywir.

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFFAU 12 A 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 ac 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

4.

DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent. Mae cyhoeddi rhenti unigol yn ddiangen ac yn drech na budd y cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth gan y byddai datgelu'n ymyrraeth ddiangen a gormodol ar fywydau preifat a theuluol yr unigolion dan sylw.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran dyledion tenantiaid presennol a chyn-denantiaid ac yn gofyn am ddileu dyledion o fwy na £1,500.

 

Nododd yr Aelod Cabinet yr achosion a amlinellwyd yn yr adroddiad a rhoddodd ystyriaeth i'r adroddiadau unigol ar gyfer pob un o'r tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid a oedd yn manylu ar y rhesymau dros geisio dileu dyledion. Roedd y rhesymau yn cynnwys amgylchiadau personol.

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.

5.

SWYDDFEYDD AR Y LLAWR CYNTAF, HEN GANOLFAN DDYDD MYRDDIN, HEOL IOAN, CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Mae budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad y cyfeirir ato uchod yn drech na budd y cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad gan y gallai datgelu'r wybodaeth danseilio safbwynt y cyngor mewn unrhyw drafodaethau eraill ynghylch hyn ac eiddo tebyg eraill yn y Sir, a hynny ar draul cyllid cyhoeddus.

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad mewn perthynas â phrydles llawr cyntaf hen Ganolfan Ddydd Myrddin, Heol Ioan, Caerfyrddin.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Prisio wybodaeth i'r Aelod Cabinet am amgylchiadau arbennig yr achos a rhoddwyd ystyriaeth i opsiynau eraill ar gyfer y brydles.  Roedd y cynigion a gyflwynwyd i'w hystyried yn gofyn am gymeradwyaeth yr Aelod Cabinet i wrthwneud y polisi arferol o gynnig yr adeilad ar y farchnad agored ar sail buddion economaidd, cymunedol ac iechyd y gwasanaethau a ddarperir gan y tenant, fel y manylir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

5.1

rhoi prydles 10 mlynedd i Wasanaethau Cam-drin Domestig Caerfyrddin;

 

5.2

bod y brydles yn cael ei chynnig heb hysbysebu'r adeilad i'w rentu ar y farchnad agored;

 

5.3

bod y ddwy flynedd gyntaf heb rent.