Agenda a chofnodion drafft

Additional, Yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu - Dydd Mawrth, 30ain Ionawr, 2024 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 17 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 84 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 17 Ionawr 2024, gan ei fod yn gywir.

3.

ADRODDIAD NAD YDYNI'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFFAU 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

4.

TALIADAU IECHYD GALWEDIGAETHOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd prawf budd y cyhoedd ar y mater hwn yn berthnasol i'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif felly roedd budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r sefydliadau hynny sy'n darparu elfennau allanol y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol mewn sefyllfa anfanteisiol yn y farchnad gyffredinol lle maent yn gweithredu.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i adroddiad ar gynigion i'r Cyngor gynyddu ei Daliadau Iechyd Galwedigaethol, fel y nodwyd yn Atodiad A.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cynyddu ei Daliadau Iechyd Galwedigaethol fel y nodwyd yn yr adroddiad.