Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu - Dydd Mawrth, 15fed Awst, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. 

2.

DIWEDDARIAD POLISI DISWYDDO. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried Polisi a Gweithdrefn Dileu Swyddi diwygiedig arfaethedig y Cyngor a oedd wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r gofynion statudol a gyflwynwyd gan Ddeddf Diogelu rhag Dileu Swyddi (Beichiogrwydd ac Absenoldeb Teuluol) 2023.

 

Daeth y Ddeddf i rym ar 24 Gorffennaf 2023, a darparodd reoliadau diogelu o ran dileu swyddi a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwr sy'n ystyried dileu swydd roi'r cynnig cyntaf ar gyfer swydd wag addas arall i weithiwr ar absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir, os oes swydd wag addas yn bodoli. Byddai'r mesurau diogelu o ran dileu swyddi yn berthnasol o'r adeg y rhoddodd gweithiwr wybod i'r cyflogwr am feichiogrwydd, tan chwe mis ar ôl dychwelyd o absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r newidiadau statudol rhagnodedig a wnaed i Bolisi a Gweithdrefn Dileu Swyddi'r Cyngor.