Agenda a chofnodion drafft

Yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu - Dydd Gwener, 3ydd Mai, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 30 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 30 Ionawr 2024, gan ei fod yn gywir.

3.

POLISI GWEITHIO HYBLYG pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried fersiwn diwygiedig o'r Polisi Gweithio Hyblyg, a oedd wedi'i ddiwygio yn unol â Rheoliadau Gweithio Hyblyg (Diwygio) 2023 a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2024. Roedd y Polisi yn nodi ymrwymiad y Cyngor i gefnogi gweithwyr i gydbwyso ymrwymiadau gwaith a bywyd cartref a'r weithdrefn ar gyfer rheoli cais gan weithiwr am weithio hyblyg.

 

Nododd yr Aelod Cabinet mai dyma'r newidiadau allweddol i'r polisi a hawl gweithwyr i wneud cais am weithio hyblyg:

 

·         mae'n ofynnol i gyflogwyr ymgynghori â'u gweithwyr cyn gwrthod cais am weithio hyblyg.

·         caiff gweithwyr wneud dau gais (nid un) am weithio hyblyg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis.

·         rhaid i gyflogwyr ymateb i geisiadau o fewn dau (nid tri) mis.

·         nid yw'n ofynnol bellach i weithwyr nodi sut y gallai eu cyflogwr ymdrin ag effeithiau eu cais am weithio hyblyg; ac

·         mae'r cyfnod cymhwyso 26 wythnos yn cael ei ddileu, gan ei gwneud yn hawl o'r diwrnod cyntaf.

 

Nodwyd bod Acas yn diweddaru ei Gôd Ymarfer statudol ynghylch ymdrin â cheisiadau am weithio hyblyg a hefyd bod disgwyl cael canllawiau gan y Llywodraeth ynghylch hynny yn gynnar yn 2024. O ystyried y canllawiau sydd ar ddod, byddai amserlenni yn cael eu cynnwys yn y polisi i adlewyrchu hyn ar ôl iddynt gael eu cwblhau.

Nodwyd hefyd nad oedd y newidiadau yn rhoi hawl diofyn i weithio'n hyblyg, ac y byddai'n parhau i fod yn hawl i wneud cais y gall cyflogwr ei wrthod ar y sail bresennol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r fersiwn diwygiedig o'r Polisi Gweithio Hyblyg.

4.

POLISI ABSENOLDEB TADOLAETH pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried fersiwn diwygiedig o'r Polisi Absenoldeb Tadolaeth, a oedd wedi'i ddiwygio yn unol â Rheoliadau Absenoldeb Tadolaeth (Diwygio) 2024 a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2024. Roedd y Polisi yn nodi ymrwymiad y Cyngor i gefnogi tadau a phartneriaid gyda hawliau gwell o ran absenoldeb tadolaeth ynghyd â'r weithdrefn ar gyfer rheoli cais gan weithiwr am absenoldeb tadolaeth.

 

Nodwyd bod y rheoliadau wedi cyflwyno nifer o newidiadau nodedig i'r fframwaith absenoldeb tadolaeth presennol a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

Strwythur absenoldeb hyblyg:

Bydd gan weithwyr yr hyblygrwydd bellach i gymryd eu hawl i ddwy wythnos o absenoldeb tadolaeth fel dau floc o wythnos ar wahân. Mae'r newid hwn o'r gofyniad blaenorol i gymryd un wythnos barhaus neu ddwy wythnos yn olynol yn cynnig mwy o hyblygrwydd i bobl, gan gydnabod yr anghenion a'r amgylchiadau amrywiol a allai godi yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn.

Amserlen estynedig ar gyfer absenoldeb:

Gan gydnabod natur ddeinamig bywyd teuluol, ac i ddarparu ar gyfer sefyllfaoedd amrywiol a all godi yn ystod blwyddyn gyntaf bywyd plentyn, mae newid sylweddol wedi'i wneud i'r amserlen y gellir cymryd absenoldeb tadolaeth oddi mewn iddi. Yn lle'r cyfyngiad blaenorol o 56 diwrnod ar ôl yr enedigaeth, gall gweithwyr bellach gymryd absenoldeb tadolaeth ar unrhyw adeg yn ystod y 52 wythnos ar ôl genedigaeth eu plentyn.

Cyfnod rhybudd llai:

Mae'r rheoliadau newydd yn symleiddio'r broses ar gyfer gweithwyr sy'n bwriadu cymryd absenoldeb tadolaeth trwy leihau'r cyfnod rhybudd o 15 wythnos cyn Wythnos Ddisgwyliedig Genedigaeth y Plentyn i 28 diwrnod, sef cyfnod mwy hwylus. Mae'r addasiad hwn yn hwyluso cynllunio gwell ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr, gan sicrhau proses gydlynu lyfnach yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn.

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r fersiwn diwygiedig o'r Polisi Absenoldeb Tadolaeth.