Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5ED MAWRTH 2024. Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5Mawrth 2024 gan ei fod yn gywir, yn amodol ar ddiweddariadau i'r mathau o dai a restrir a ddylai adlewyrchu'r rhai a nodir yn yr adroddiadau.
|
|||||||||
ADRAN 106 DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990 - CYFRIFIAD PRISIAU TAI FFORDDIADWY Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo'r diweddariad i'r cyfrifiad prisiau tai fforddiadwy a ddefnyddiwr mewn cytundebau Adran 106 i osod y pris fforddiadwy. Pwrpas hyn oedd sicrhau ei fod yn parhau i ddilyn y paramedrau fforddiadwyedd a bennwyd yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol.
Nododd yr Aelod Cabinet fod yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sicrhau bod polisïau cynllunio gan gynnwys y prisiau fforddiadwy a bennwyd o fewn cytundebau Adran 106 yn seiliedig ar dystiolaeth ar fforddiadwyedd sydd wedi'i gynnwys yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol. Nid oedd y cyfrifiad a ddefnyddir ar hyn o bryd i osod y pris fforddiadwy mewn cytundebau Adran 106 bellach yn adlewyrchu'r dystiolaeth o fewn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2024 newydd.
Nododd yr Aelod Cabinet y byddai'r newid i'r lefelau incwm canolrifol a ddefnyddir i gyfrifo'r pris tai fforddiadwy yn gofyn am welliant i'r templed cyfredol a ddefnyddir ar gyfer cytundebau Adran 106 i adlewyrchu'r cyfrifiad newydd. Ni fyddai'r newid yn cael ei gymhwyso'n ôl-weithredol i unrhyw gytundebau blaenorol oni bai y cytunir ar weithred amrywio ac ystyrir bod y dystiolaeth angenrheidiol gefnogol yn ddigonol gan adran gyfreithiol y Cyngor.
Mewn ymateb i ymholiad gan yr Aelod Cabinet yngl?n â pham nad oedd y cynllun wedi cael ei adolygu ers 2008, dywedwyd bod angen y newid hwn i bris fforddiadwy Adran 106 adlewyrchu'r dystiolaeth gan Gyllid y DU (Cyngor Benthycwyr Morgeisi gynt) ar y lluosrifau incwm cyfredol a fenthycwyd i brynwyr tai yng Nghymru ac a welwyd yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol ar gyfer 2023/24.
Nododd yr Aelod Cabinet bwysigrwydd sicrhau bod y cyfrifiad prisiau tai fforddiadwy yn cael ei adolygu'n rheolaidd i adlewyrchu'r farchnad bresennol i sicrhau bod y cynllun yn parhau i fod yn hyfyw.
Wrth adolygu'r adroddiad, nododd yr Aelod Cabinet werth y cynllun gan ei fod yn gwneud y mwyaf o'r cyfle i ddarparu cyfleoedd i breswylwyr lleol brynu cartrefi ar gost isel yn uniongyrchol gan ddatblygwyr yn y sir.
Penderfynwyd:
|