Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 6ED CHWEFROR, 2024 PDF 89 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 6 Chwefror, 2024 yn gofnod cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar greu Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad adeiladu newydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn Heol Spilman, Caerfyrddin.
Roedd cyflwyno'r Polisi Gosodiadau Lleol, yn unol ag adran 167(2E) o Ddeddf Tai 1996, yn addasiad i brif bolisi gosodiadau'r Awdurdod, lle byddai meini prawf ychwanegol yn cael eu pennu i ystyried yr angen presennol am dai a materion lleol.
Yn benodol, nod y Polisi Gosodiadau Lleol oedd darparu atebion o ran llety i bobl leol sydd â'r angen mwyaf, i symud pobl ymlaen yn gyflym o lety dros dro ac yn ôl i'w cymuned, a darparu cyfleoedd i weithwyr allweddol a hwyluso'r gwaith o greu cymuned gytbwys a chynaliadwy.
Nododd yr adroddiad ward ,Gogledd a De Tref Caerfyrddin, lle mae'r datblygiad ar Heol Spilman fel ardal o angen mawr am dai, ac felly nod y datblygiad oedd mynd i'r afael â hyn drwy ddarparu 12 o gartrefi rhentu cymdeithasol:-
· 2 x fflatiau â dwy ystafell wely · 10 x fflatiau ag un ystafell wely,
Byddai'r datblygiad yn cael ei drosglwyddo mewn un cam yn gynnar yn ystod Gwanwyn 2024.
Wrth adolygu'r Polisi Gosodiadau Lleol, rhoddwyd trosolwg o'r blaenoriaethau o ran dyrannu i'r Aelod Cabinet, ac eglurwyd y byddai cymysgedd o denantiaid ar draws y bandiau er mwyn i'r gymuned gynnwys cymysgedd o aelwydydd, ac ni fyddent i gyd yn achosion lle mae angen mawr. Yn hyn o beth, y nod oedd sefydlu cydlyniant cymunedol a chartrefi cynaliadwy ar gyfer y datblygiad newydd, gan ddod â chymuned newydd sbon at ei gilydd.
Bydd y Polisi Gosodiadau Lleol yn parhau ar waith am chwe mis ar ôl i bob cartref gael ei osod, er mwyn sicrhau bod y gymuned wedi'i sefydlu'n briodol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol arfaethedig ar gyfer y cartrefi newydd yn 5-8 Heol Spilman, Caerfyrddin sef datblygiad adeiladu newydd Cyngor Sir Caerfyrddin.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar gynigion i greu Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad Cyngor Sir Caerfyrddin yn YMCA, Llanelli.
Roedd cyflwyno'r Polisi Gosodiadau Lleol, yn unol ag adran 167(2E) o Ddeddf Tai 1996, yn addasiad i brif bolisi gosodiadau'r Awdurdod, lle byddai meini prawf ychwanegol yn cael eu pennu i ystyried yr angen presennol am dai a materion lleol.
Yn benodol, nod y Polisi Gosodiadau Lleol oedd darparu atebion o ran llety i bobl leol sydd â'r angen mwyaf, i symud pobl ymlaen yn gyflym o lety dros dro ac yn ôl i'w cymuned, a darparu cyfleoedd i weithwyr allweddol a hwyluso'r gwaith o greu cymuned gytbwys a chynaliadwy.
Nododd yr adroddiad ward Tyisha, lle mae datblygiad YMCA, fel ardal o angen mawr am dai, ac felly nod y datblygiad oedd mynd i'r afael â hyn drwy ddarparu 8 o gartrefi rhentu cymdeithasol:-
· 8 x fflatiau â dwy ystafell wely
Bydd y datblygiad yn cael ei drosglwyddo mewn un cam, yn gynnar yn ystod Gwanwyn 2024.
Wrth adolygu'r Polisi Gosodiadau Lleol, rhoddwyd trosolwg o'r blaenoriaethau o ran dyrannu i'r Aelod Cabinet, ac eglurwyd y byddai cymysgedd o denantiaid ar draws y bandiau er mwyn i'r gymuned gynnwys cymysgedd o aelwydydd, ac ni fyddent i gyd yn achosion lle mae angen mawr. Yn hyn o beth, y nod oedd sefydlu cydlyniant cymunedol a chartrefi cynaliadwy ar gyfer y datblygiad newydd, gan ddod â chymuned newydd sbon at ei gilydd.
Bydd y Polisi Gosodiadau Lleol yn parhau ar waith am chwe mis ar ôl i bob cartref gael ei osod, er mwyn sicrhau bod y gymuned wedi'i sefydlu'n briodol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol arfaethedig ar gyfer y cartrefi newydd yn YMCA, Llanelli, sef datblygiad adeiladu newydd Cyngor Sir Caerfyrddin
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar gynigion i gyflwyno Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad adeiladu newydd Cymdeithas Tai Pobl sef Golwg y Gwendraeth, Ffoslas, Trimsaran.
Roedd cyflwyno'r Polisi Gosodiadau Lleol, yn unol ag adran 167(2E) o Ddeddf Tai 1996, yn addasiad i brif bolisi gosodiadau'r Awdurdod, lle byddai meini prawf ychwanegol yn cael eu pennu i ystyried yr angen presennol am dai a materion lleol.
Yn benodol, nod y Polisi Gosodiadau Lleol oedd darparu atebion o ran llety i bobl leol sydd â'r angen mwyaf, i symud pobl ymlaen yn gyflym o lety dros dro ac yn ôl i'w cymuned, a darparu cyfleoedd i weithwyr allweddol a hwyluso'r gwaith o greu cymuned gytbwys a chynaliadwy.
Roedd yr adroddiad yn nodi ward Trimsaran, lle mae datblygiad Golwg y Gwendraeth fel ardal o angen mawr am dai, ac felly nod y datblygiad oedd mynd i'r afael â hyn drwy ddarparu 24 o gartrefi rhentu cymdeithasol:-
· Cartrefi â dwy ystafell wely ar gyfer teuluoedd bach, mae hyn yn cynnwys teuluoedd sy'n tanfeddiannu cartrefi mwy yn yr ardal ar hyn o bryd; · Tai â thair ystafell wely ar gyfer aelwydydd; · T? pedair ystafell wely i deuluoedd mawr, mae hyn yn cynnwys teuluoedd sydd ar hyn o bryd yn byw mewn llety anaddas neu orlawn yn yr ardal.
Nododd yr Aelod Cabinet y byddai cyfanswm o 18 o gartrefi rhent cymdeithasol yn cael eu darparu ac nid 24 fel y nodwyd yn y crynodeb gweithredol.
Bydd y datblygiad yn cael ei drosglwyddo mewn un cam yn ystod Gwanwyn 2024 (dim ym mis Chwefror 2024 fel y manwl yn yr adroddiad).
Wrth adolygu'r Polisi Gosodiadau Lleol, rhoddwyd trosolwg o'r blaenoriaethau o ran dyrannu i'r Aelod Cabinet, ac eglurwyd y byddai cymysgedd o denantiaid ar draws y bandiau er mwyn i'r gymuned gynnwys cymysgedd o aelwydydd, ac ni fyddent i gyd yn achosion lle mae angen mawr. Yn hyn o beth, y nod oedd sefydlu cydlyniant cymunedol a chartrefi cynaliadwy ar gyfer y datblygiad newydd, gan ddod â chymuned newydd sbon at ei gilydd.
Bydd y Polisi Gosodiadau Lleol yn parhau ar waith am chwe mis ar ôl i bob cartref gael ei osod, er mwyn sicrhau bod y gymuned wedi'i sefydlu'n briodol.
Gofynnodd yr Aelod Cabinet am adolygiad i ystyried enw'r safle datblygu gan mai Golwg Y Gwendraeth fyddai'r cyfieithiad cywir.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol arfaethedig ar gyfer cartrefi newydd Golwg y Gwendraeth sef datblygiad adeiladu newydd Cymdeithas Tai Pobl.
|