Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||||||
COFNOD PENDERFYNIADAU - 12FED IONAWR 2023 PDF 69 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 12fed Ionawr 2023, gan ei fod yn gywir.
|
|||||||||
PENNU RHENTI AR GYFER SAFLE SIPSIWN/TEITHWYR PEN-Y-BRYN 2023/24 PDF 180 KB Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad i gadarnhau'r cynnydd yn y rhenti wythnosol ar gyfer safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24. Hysbyswyd yr Aelod Cabinet fod y safle Sipsiwn a Theithwyr yn wasanaeth a gyllidir gan y Dreth Gyngor a bod 15 llain ar safle Pen-y-bryn ar hyn o bryd. Er bod pob Awdurdod Lleol a Chymdeithas Dai yng Nghymru wedi alinio â'r polisi pennu rhenti tai cymdeithasol mewn perthynas â'r lefelau rhent ar gyfer tai cymdeithasol, nid oedd safle Pen-y-bryn yn rhan o'r Cyfrif Refeniw Tai, ac felly nid oedd y lefelau rhent a godir yn cael eu rheoli gan bolisi rhenti Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, barnwyd ei bod yn deg cynyddu rhenti ar y safle gan ddilyn yr un fformiwla a ddefnyddiwyd ar gyfer tenantiaid y Cyngor. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, byddai hynny'n gynnydd o 5.5% ac argymhellwyd pennu'r lefelau rhent wythnosol ar gyfer 2023/24 ar £61.94 (net taliadau am wasanaethau a threthi d?r) gan ddarparu incwm blynyddol o £44,596.00 ar gyfer 2023/24, pe bai pob un o'r 15 llain yn cael eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn. Gofynnodd yr Aelod Cabinet am sicrwydd o ran yr amodau ar y safle.
PENDERFYNWYD:
|