Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd A. G. Morgan yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.
|
|||||||||||||
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd W.R.A. Davies. |
|||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
CYNLLUN ADFER A CHYFLAWNI ECONOMAIDD SIR GAERFYRDDIN PDF 237 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad diweddaru am Gynllun Adfer a Chyflawni Economaidd Sir Gaerfyrddin a oedd yn nodi rhyw 30 o gamau gweithredu i gefnogi adferiad economi Sir Gaerfyrddin yn sgil effeithiau cymdeithasol ac economaidd pandemig COVID-19 a Brexit. Nodai'r adroddiad flaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer cefnogi Busnes, Pobl a Lleoedd. Barnwyd y byddai'r cymorth hwn yn galluogi economi Sir Gaerfyrddin i adfer cyn gynted â phosibl i ddod yn un oedd yn fwy cynhyrchiol nag yr oedd o'r blaen, yn fwy cyfartal, yn fwy gwyrdd, yn iachach, a chyda chymunedau mwy cynaliadwy. Diben y Cynllun oedd nodi'r blaenoriaethau tymor byr a'r camau cyntaf ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, a oedd yn diogelu swyddi a busnesau yn Sir Gaerfyrddin. Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad: · Pwysleisiwyd mai cynllun adfer Sirol oedd hwn yn hytrach na chynllun twf, gyda 3 chynllun adfer canol tref ar gyfer y prif drefi ar waith. Roedd y cynlluniau twf '10 tref' hefyd yn cael eu cwblhau; · Ystyriwyd bod 'lleoliaeth' yn biler hollbwysig a fyddai'n sail i unrhyw adferiad; · Er bod gan y Cyngor rywfaint o rym i ddylanwadu ar lefel yr ardrethi busnes, dan fenter gan Lywodraeth Cymru sydd ar waith ar hyn o bryd tan fis Mawrth 2022, roedd yn rhaid i landlordiaid dalu'r ardreth fusnes ar unrhyw eiddo adwerthu gwag, a fyddai, gobeithio, yn gymhelliad i landlordiaid gael tenantiaid ar gyfer eiddo o'r fath; · Byddid yn cyflwyno'r adroddiad monitro i'r Bwrdd Gweithredol bob chwarter; · Mewn ymateb i bryder yngl?n â'r angen i gyflymu'r prosesau cynllunio o ran ceisiadau cynllunio a allai ddod â chyfleoedd gwaith, dywedodd yr Arweinydd fod adolygiad wedi'i gynnal a bod cynigion yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau uchelgeisiau'r Awdurdod o ran adfywio; · Roeddid yn disgwyl ymateb gan San Steffan ynghylch cynigion Sir Gaerfyrddin mewn perthynas â'r gronfa Codi'r Gwastad; · Cyfeiriwyd at gynllun '100% Sir Gâr – Lleol Amdani' a oedd wedi rhoi llwyfan digidol i fanwerthwyr llai a hefyd ailfrandio twristiaeth Sir Gaerfyrddin, lle roedd tîm o swyddogion twristiaeth ac adfywio yn gweithio gyda chymunedau yn y mannau twristiaeth prysuraf; · Er nodi bod materion trafnidiaeth rhanbarthol a lleol wedi'u mandadu i Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru, roedd ystyried barn a gofynion lleol yn hanfodol; · Cadarnhaodd yr Arweinydd fod Rheilffordd Aman wedi'i chynnwys mewn trafodaethau ar y metro rhanbarthol; · Yn deillio o sylwadau ar hyrwyddo Sir Gaerfyrddin fel cyrchfan i dwristiaid, dywedodd yr Arweinydd fod cais wedi cael ei wneud am gael cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru i drafod tai haf, a oedd yn destun pryder; · Nodwyd bod Gr?p Ynni Gorllewin Cymru yn ymchwilio i faterion yn ymwneud â chysylltedd grid gan fod cysylltiad gwael yn rhwystr o ran creu ynni adnewyddadwy a'r uchelgais i fod yn garbon sero-net; · O ran pryder bod rhai o fannau prydferth Sir Gaerfyrddin yn cael eu difetha gan yr holl sbwriel oedd o amgylch banciau poteli, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod cynlluniau ar y gweill i gasglu gwydr i'w ailgylchu o drothwy'r drws.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||||||||
HYRWYDDO CAFFAEL BLAENGAR PDF 266 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau adroddiad yn manylu ar ymrwymiad y Cyngor i hyrwyddo caffael blaengar. Cynlluniwyd yr adolygiad hwn o gyfleoedd caffael blaengar o dan brosiect caffael bwyd sector cyhoeddus Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol, a ariannwyd drwy gronfa Her yr Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru. Er bod hyn yn dal i gael ei gefnogi, barnwyd bod sefyllfa COVID-19 wedi rhoi mwy o ffocws ac ysgogiad a manteisiwyd ar y cyfle i ymestyn cwmpas gwreiddiol y prosiect o fwyd yn unig i gwmpasu holl wariant caffael y Cyngor. Mae gan y gwaith hwn gysylltiad agos iawn â chynllun adfer economaidd y Cyngor ac mae caffael blaengar yn un o themâu allweddol y cynllun hwnnw.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad: · Fel rhan o'r cynigion a nodwyd yn yr adroddiad, byddai swyddogion yn cael eu hannog i 'feddwl yn lleol yn gyntaf' o ran pryniannau/contractau o £25k neu lai; · Byddai Busnesau Bach a Chanolig eu Maint (BBaChau) yn cael gwybod ar beth roedd y Cyngor yn debygol o wario dros y blynyddoedd nesaf, fel y gallent fod yn fwy parod o ran tendro. Roedd gan y Cyngor hefyd dîm ymroddedig i helpu ac ymgysylltu â BBaChau ar brosesau tendro; · Byddai mwy o ffocws ar entrepreneuriaeth leol a busnesau newydd; · Nodwyd y gallai contractau mwy gael eu 'lotio' fel y gallai cwmnïau lleol llai wneud cais am elfennau o'r gwaith; · Roedd Canllaw i Gyflenwyr wedi'i lunio i gwmnïau oedd yn dymuno gwneud cais am waith gyda'r Cyngor; · Mewn ymateb i sylw, roedd yn cael ei gydnabod bod diffyg unedau ar gyfer busnesau newydd mewn rhai ardaloedd a byddai hyn yn rhan o waith y cynllun adfer gyda chyllid ar gael i ddatblygwyr eiddo; · Byddai sylw'n cael ei roi i'r ffordd roedd prif gontractwr cynllun Pentre Awel yn ymgysylltu â chwmnïau lleol; · Byddai disgwyl i gwmnïau yn Fframwaith Adeiladu'r Awdurdod ar gyfer Pentre Awel sicrhau manteision cymunedol fel prentisiaethau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|