Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Arweinydd y Cyngor (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 17eg Chwefror, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 26AIN IONAWR 2022 pdf eicon PDF 362 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26ain Ionawr 2022, gan ei fod yn gywir.

 

3.

CEFNOGI'R GYMRAEG MEWN SEFYDLIADAU BUSNES A CHYMUNEDOL - IAITH GWAITH pdf eicon PDF 478 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad yn manylu ar y bwriad i sefydlu menter, Iaith Gwaith, i gefnogi busnesau a sefydliadau cymunedol i gael cymorth ariannol i godi proffil y Gymraeg yn eu sefydliadau yn dilyn cais llwyddiannus i Gronfa Adfywio Cymunedol llywodraeth y DU. Uchafswm y grant fyddai £3,000 a byddai pob grant yn seiliedig ar hyd at 50% o gyfanswm y costau cymwys.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r gwaith o gyflawni'r fenter Iaith Gwaith y manylir arno yn yr adroddiad.

 

4.

RHAGLEN LLWYDDO'N LLEOL pdf eicon PDF 483 KB

Cofnodion:

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad yn manylu ar y bwriad i sefydlu menter, sef Cronfa Fwrsariaeth Llwyddo'n Lleol, a fyddai'n cynnig bwrsariaeth o hyd at £2,000 neu 80% o gyfanswm costau'r prosiect, pa un bynnag oedd y swm lleiaf, ar gyfer busnesau cyn cychwyn neu fusnesau Bach a Chanolig presennol sy'n masnachu am lai na 12 mis lle'r rhoddir ffocws Gymraeg neu ddwyieithog cryf i gysyniad y busnes. Er y byddai'r prosiect yn canolbwyntio'n bennaf ar bobl ifanc 18–30 oed, byddai ceisiadau gan fusnesau cyn cychwyn eraill yn cael eu hystyried.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r gwaith o gyflawni'r fenter Cronfa Fwrsariaeth Llwyddo'n Lleol a nodir yn yr adroddiad.

 

5.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

6.

CRONFA DATBLYGU EIDDO MASNACHOL TRAWSNEWID SIR GAERFYRDDIN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r unigolion a'r busnesau a nodir yn yr adroddiad o dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ailystyried y cynnig grant am £750,000.00 o Gronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin i Cambrian Pet Foods ar 19 Rhagfyr 2019 [cyfeirir ato yng nghofnod 6] yn dilyn oedi yn y cynllun arfaethedig gwreiddiol a newidiadau o fewn y cwmni ei hun fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

PENDERFYNWYD, yn sgil yr uchod, bod y grant o £750,000 a ddyfarnwyd yn wreiddiol i Cambrian Pet Foods, Llangadog, o'r Gronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin yn cael ei leihau i £740,973.24 yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad.