Lleoliad: Swyddfa'r Arweinydd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Awst 2019, gan ei fod yn gofnod cywir.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI. WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.
Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CRONFA DATBLYGU EIDDO MASNACHOL AR GYFER TRAWSNEWID SIR GAERFYRDDIN & CYNLLUN BENTHYCIADAU CANOL TREF LLANELLI & RHYDAMAN. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.
Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth o Gronfa Ddatblygu Adfywio Rhydaman a Chynllun Benthyciadau Canol Tref Llanelli a Rhydaman.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol Trawsnewid Sir Gaerfyrddin a Chynllun Benthyciadau Llanelli a Rhydaman yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CRONFA CYCHWYN BUSNES/TWF BUSNES SIR GAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.
Gan gyfeirio at gofnod 2 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2018, rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i geisiadau am gymorth gan Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin. Blaenoriaeth y ddwy gronfa oedd cefnogi'r gwaith o greu swyddi a busnesau newydd yn y Sir.
PENDERFYNWYD:
5.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin, yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a'r rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
5.2 ar ôl datgan diddordeb yn gynharach, gofynnodd y Cynghorydd E. Dole i’r cais canlynol gael ei gyfeirio at y Bwrdd Gweithredol i’w ystyried.
|